Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau Gweithdy ar Donnau Disgyrchol


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyd at 2 awr

Mae’r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant (GEI) yn rhan o gydweithrediad gwyddonol Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LIGO), a gyhoeddodd ganfod tonnau disgyrchol yn uniongyrchol am y tro cyntaf yn 2015, ganrif ar ôl i Einstein eu darogan yn gyntaf.

Mae’r gweithgareddau yn y gweithdy hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r dechnoleg a ddefnyddir mewn arsyllfeydd fel LIGO a Virgo i ganfod tonnau disgyrchol a chyfyngu ar ymyrraeth seismig yn y signalau sydd wedi’u canfod. Hefyd, bydd myfyrwyr yn gweithio gyda’r technegau dadansoddi data a ddefnyddir i nodi’r lleoliad lle y digwyddodd y tonnau disgyrchol, eu pellter o’r ddaear a maint y cyrff seryddol a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiadau.

Mae rhai o’r pynciau sy’n cael eu trafod yn cynnwys:

  • priodoleddau tonnau
  • trigonometreg
  • ymyriad
  • canfod tonnau disgyrchol
  • tyllau duon.

Mae’r sgiliau a fydd yn cael eu cyflwyno yn cynnwys:

  • lluniadu a dehongli graffiau
  • defnyddio offer gwyddonol
  • defnyddio fformiwlâu gwyddonol
  • sgiliau rhifedd
  • sgiliau llythrennedd.

Mynd at yr adnoddau i gynnal y gweithdy hwn.

Gallwn gyflwyno’r gweithdai hyn yn uniongyrchol drwy’r Brifysgol hefyd. I drefnu hyn, anfonwch ebost at schools@astro.cf.ac.uk.

Datblygwyd y gweithgarwch hwn mewn partneriaeth â’r Academi Awyrofod Genedlaethol ac fe’i hariennir gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Mae adnoddau i gynnal y gweithgareddau o’r gweithdy hwn ar gael ar ein gwefan. Os oes angen rhagor o arweiniad arnoch neu os hoffech i ni ddod i gynnal gweithdy gyda chi, cysylltwch â ni yn:


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickMathemateg a rhifedd
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickGweithdy

Diben

  • TickYmgysylltu â’n hymchwil
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn