Black Hole Hunter
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
- Ar gael yn Gymraeg
Allwch chi ganfod ton ddisgyrchol?
Yn ein gêm ar-lein, Black Hole Hunter, eich nod yw gwrando ar ddata canfod tonnau disgyrchol a phenderfynu a ydych yn gallu clywed signal y don ddisgyrchol yn y ffeil sain, neu ai sŵn yn unig ydyw. Dyma eich cyfle i wrando ar drac sain y bydysawd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol Prifysgol Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwch gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn ar-lein ac nid oes angen cadw lle ar ei gyfer. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm allgymorth Ffiseg a Seryddiaeth.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim