Brilliant Club
- Ar gael ar gais
- Diwrnod llawn
Mae’r Brilliant Club yn recriwtio, hyfforddi, a gosod myfyrwyr PhD mewn ysgolion i gyflwyno tiwtorialau megis y rhai a geir yn y brifysgol. Ategir y rhain gan ddwy daith i’r brifysgol.
Y nod yw cynyddu nifer y disgyblion o gefndiroedd a dangynrychiolir sy’n symud ymlaen i astudio mewn prifysgolion detholus iawn.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn cynnal y digwyddiadau lansio a graddio ar ran Brilliant Club ar gyfer de-orllewin Cymru.
Yn ystod y flwyddyn academaidd, mae gennym glybiau ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd academaidd 2, 3 a 4.
Cewch ragor o wybodaeth am The Brilliant Club sy’n gweithredu ar draws y DU.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
First Campus, Widening Participation Team, Marketing and Communications sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn firstcampus@southwales.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Trefnir y gweithgaredd hwn drwy Brilliant Club, cysylltwch â nhw am ragor o wybodaeth: https://thebrilliantclub.org/
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Cardiff University, Y Prif Adeilad
- Plas y Parc
- Caerdydd
- CF10 3AT