Ewch i’r prif gynnwys

Perfformio

Un o nodweddion deniadol astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yw cyfoeth ac amrywiaeth y gweithgareddau cerddorol sydd ar gael.

Rydym ni’n hynod o falch o’n gweithgareddau cerddorol a phopeth a wnawn i hybu perfformio, cerddoriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth yn y Brifysgol a thu hwnt.

Rydym ni’n rhedeg nifer o grwpiau yn yr Ysgol ac mae myfyrwyr yn gallu manteisio ar amrywiaeth enfawr o gymdeithasau cerddorol dan arweiniad myfyrwyr.

Ymunwch ag ensemble, cerddorfa neu grŵp cerddorol arall

Mae'r ensembles yn cael eu cynnal gan yr Ysgol Cerddoriaeth neu Gymdeithas Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Gan amlaf, mae’r rhain yn agored i fyfyrwyr ar draws y Brifysgol.

Mae angen clyweliad ar gyfer rhai grwpiau. Nodir hyn yn y wybodaeth berthnasol am y grŵp yn ogystal â manylion cyswllt pellach.

Fe’ch anogwn i gofrestru'n gynnar ar gyfer clyweliadau. Cynhelir y rhain yn ystod yr wythnos ymrestru fel arfer. Dyrennir lleoedd mewn ensembles yn ystod wythnos gyntaf y flwyddyn academaidd.

Ar gyfer clyweliadau 2022/23, llenwch y ffurflen hon erbyn dydd Gwener, 23 Medi 2022.

Grwpiau cerddorol yr Ysgol

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd

Mae gan ein Cerddorfa Symffoni tua 120 o aelodau o bob rhan o'r Brifysgol.

Côr Siambr Prifysgol Caerdydd

Mae’r Côr Siambr yn archwilio repertoire sy'n amrywio o waith y Dadeni i gerddoriaeth gyfoes.

Offerynnau Chwyth Symffonig Prifysgol Caerdydd

Bydd ein ensemble Chwyth Symffonig yn perfformio darnau ar draws y canrifoedd, o Thomas Tallis i John Adams.

Ensemble Baróc Prifysgol Caerdydd

Canolbwyntio ar gerddoriaeth a gyfansoddwyd ar gyfer côr SSAA i fenywod ar y cyd â chyfeiliant cerddorfaol a/neu allweddellau, a byddan nhw’n ymdrin â repertoire yr 17eg a'r 18fed ganrif.

Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes

Mae gan y Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes gyfansoddiad hyblyg, ac mae'n arbenigo mewn repertoire cyfoes.

Ensemble Jazz

Grŵp newydd ei ffurfio i gefnogi ein chwaraewyr jazz talentog.

Ensemble Gorllewin Affrica Lanyi

Sefydlwyd Ensemble Gorllewin Affrica Lanyi yn 2013 i roi cyfle i fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd astudio amrywiaeth o draddodiadau offerynnol, lleisiol a dawns.

Ensemble Gamelan Nogo Abang

Mae Nogo Abang yn golygu draig goch yn Jafaneg ac mae'n cysylltu'r dreigiau sydd wedi'u cerfio'n draddodiadol ar offerynnau gamelan â'r ddraig Gymreig.

Popular Music Collective

Trin a thrafod pob agwedd ar berfformiadau byw modern.