Ewch i’r prif gynnwys

Golygon tua’r dyfodol

22 Medi 2022

Empty red chairs with white writing saying Good University Guide 2023
Mae’r canllaw yn rhoi trosolwg o addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi codi 5 safle yn y Times a'r Sunday Times Good University Guide 2023 a hi bellach yw un o’r 10 ysgol uchaf yn y DU ym maes cyfathrebu ac astudiaethau'r cyfryngau.

Yn ogystal â chyrraedd y 6ed safle yn y DU, gwellhaodd yr ysgol ei sgôr ym meysydd allweddol safon addysgu, profiad myfyrwyr, safon ymchwil a rhagolygon graddedigion, ac mae’r rhain ond yn ategu rhagolygon ardderchog graddedigion yr ysgol o ran cael eu cyflogi.

Mae'r canllaw yn defnyddio'r data diweddaraf un ar gyfer pob un o'r metrigau yn y safleoedd, a rhyddhawyd llawer o’r rhain am y tro cyntaf yn ystod haf 2022.

Dyma a ddywedodd Dr Matt Walsh, Pennaeth yr Ysgol, "Mae canllaw The Times yn bwysig am ei fod yn edrych ar ysgolion yn eu cyfanrwydd. Mae hyn yn cynnwys addysgu, ymchwil, cyfraddau cwblhau a rhagolygon graddedigion.

"Yn dilyn anawsterau’r pandemig, mae'n dda gweld bod addysgu wyneb yn wyneb, yn ogystal â'n cyfleusterau a'n lleoliad gwych, yn gwneud cymaint o wahaniaeth i brofiad dysgu ein myfyrwyr."

Medi bendigedig

Daeth newyddion am enwebiad BAFTA ym mis Medin, penodi golygydd newydd ar gyfer Popular Culture a chyhoeddiad o Transforming Magazines.

Enwebiad gan BAFTA

Mae rhaglen ddogfen 'Covid, y Jab a Ni' ar S4C ar y rhestr fer yn y categori 'Newyddion a Materion Cyfoes' ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru eleni.

Yn y ffilm, a gafodd ei chyflwyno gan yr uwch-ddarlithydd Sian Morgan Lloyd a’i chynhyrchu gan y darlithydd cyswllt Gwenfair Griffith, ymchwiliwyd i'r camwybodaeth a fu ynghlwm wrth y brechiad Covid-19. Bydd y gwobrau yn cael eu cynnal ar 9 Hydref.

Penodi aelod o staff i gyfnodolyn

Llongyfarchiadau i Dr Ross Garner sydd wedi'i benodi i dîm golygyddol y cyfnodolyn gan Taylor a Francis, sef Popular Communication.

Mae'r cyfnodolyn yn cyhoeddi ymchwil ar symbolau, ffurfiau, perthnasedd, systemau a rhwydweithiau cyfathrebu yng nghyd-destun diwylliant poblogaidd sy’n drawswladol ac yn fyd-eang.

Mapping the Magazine

Mae’r darllenydd Emeritws mewn newyddiaduraeth cylchgronau Tim Holmes wedi cyhoeddi llyfr sy’n seiliedig ar y papurau sy’n deillio o'r gynhadledd Mapping the Magazine.

Mae Transforming Magazines: Rethinking the Medium in the Digital Age yn cynnwys ymchwil newydd i ystod eang o fathau o gyfnodolyn, a bydd yn apelio at ysgolheigion cyfathrebu a newyddiaduraeth, haneswyr yn ogystal ag ymchwilwyr cyfryngau digidol ac astudiaethau gweledol.

Rhannu’r stori hon

Astudiwch gyda ni, ni yw canolfan ymchwil uchaf Cymru - mewn unrhyw faes pwnc.