Ewch i’r prif gynnwys

Gwrando ar ein myfyrwyr

Darganfyddwch fwy am sut rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr i ddarparu'r profiad gorau posib yn y brifysgol.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig i ni, rydym yn gweithio gyda'r Undeb y Myfyrwyr a'r swyddogion sabothol etholedig i ddarparu profiad myfyriwr o ansawdd uchel a'i wella lle bynnag y bo modd.

Rydym yn defnyddio adborth myfyrwyr i helpu i lunio eu profiad prifysgol trwy amryw o ffyrdd:

Hyrwyddwyr Myfyrwyr

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr ar draws y brifysgol trwy ein cynllun Hyrwyddwr Myfyrwyr. Mae'r Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn grŵp o fyfyrwyr presennol sy'n gweithio gyda staff ar amrywiaeth o brosiectau er mwyn helpu i ddatblygu a llywio profiad myfyrwyr.

Clywch gan ein hyrwyddwyr

Gwyliwch y fideo hwn o'n Hyrwyddwyr Myfyrwyr

Cynrychiolwyr myfyrwyr

Mae ein cynrychiolwyr myfyrwyr yn casglu adborth gan y myfyrwyr ar eu cwrs, a gweithio gyda staff i wneud newidiadau er gwell.

Mae cynrychiolwyr yn mynd i Baneli Staff Myfyrwyr rheolaidd gyda staff yr Ysgol, mynd i Fforymau Colegau gyda Deoniaid prifysgol lle maent yn adrodd ar y materion sy'n cael eu codi a fydd yn effeithio ar fyfyrwyr.

Casglu adborth myfyrwyr

Cipolwg Caerdydd

Wedi'i lansio ym mis Mawrth 2021, mae Cipolwg Caerdydd yn caniatáu inni gasglu adborth myfyrwyr yn gyflym. Gofynnwn chwe chwestiwn i fyfyrwyr ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig â'u profiad prifysgol ar bwyntiau allweddol yn ystod y flwyddyn academaidd.

Ym mis Hydref 2021, cwblhaodd 4000 o fyfyrwyr Cipolwg Caerdydd ac ateb ystod o gwestiynau ar gyfathrebu a'r gefnogaeth a gawsant ar ddechrau'r tymor. Gwnaethom ddadansoddi'r adborth ac rydym wedi rhannu camau gyda myfyrwyr, sy'n cynnwys:

  • Dylanwadu ar gynllunio, amseru ac amlder ein cyfathrebu mewnol
  • Yn rhannu gwybodaeth benodol wedi'i theilwra'n rheolaidd am bryderon a godir yn eu hadborth
  • Gweithio'n agos â'n Hyrwyddwyr Myfyrwyr trwy weithdai 'mewnwelediad' rheolaidd
  • Creu mwy o adnoddau cymorth i helpu gyda dysgu ar-lein ac asesiadau
  • Rhannu'r canfyddiadau gydag ysgolion i'w helpu deall sut mae ein myfyrwyr yn teimlo a sut y gallant eu cefnogi orau.

Darganfyddwch fwy am Cipolwg Caerdydd 

Yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr

Mae'r Brifysgol yn cymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr (NSS) gyda phob prifysgol a choleg addysg bellach ledled y DU.

Mae'ch adborth yn rhoi darlun clir i ni o'r profiad dysgu i rywun sydd yn cwblhau eu cwrs mewn blwyddyn benodol ac i ni gael gweld sut mae'r profiad myfyrwyr yn datblygu.

Arolygon ôl-raddedig

Mae’r Brifysgol yn cymryd rhan yn yr Arolwg Profiad Ôl-raddedigion a Addysgir (PTES), sydd wedi ei gynnal gan AdvanceHE, yn flynyddol a'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir i roi adborth ar amryw o themâu ynglŷn â'r profiad myfyrwyr.

Rydym hefyd yn cymryd rhan yn yr Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig (PRES), sydd wedi ei gynnal gan AdvanceHE, i gasglu adborth gan ein myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig am eu profiad. Mae PRES yn cael ei gynnal bob yn ail flwyddyn.