Ewch i’r prif gynnwys

Hanes (MA)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

star

Traethawd hir o fath gwahanol

Datblygwch eich syniadau gwreiddiol am bwnc arbenigol sy’n tanio’ch chwilfrydedd, neu ddewiswch ein prosiect traethawd hir sy’n seiliedig ar ymgysylltu.

tick

Yn barod ar gyfer ymchwil

Byddwch yn cael hyfforddiant pwrpasol o ran cynllunio ymchwil, gan gynnwys sut i gyfleu hyn yn effeithiol.

rosette

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Byddwch yn ennill profiad proffesiynol yn y sector treftadaeth yn rhan o’ch gradd Meistr. Bydd hyn yn eich rhoi ar y blaen yn y byd gwaith.

people

Pwyslais ar dreftadaeth a gweithredu cymunedol

Byddwch yn trin a thrafod materion sy’n ymdrin ag ymgysylltu a chyd-greu addysgol gyda'r gymuned leol.

Mae ein rhaglen MA Hanes, a addysgir gan ysgolheigion blaenllaw ar draws ystod o gyfnodau a daearyddiaethau, yn ceisio bodloni eich chwilfrydedd am hanes wrth ddyfnhau eich gwybodaeth o'i gysyniadau a dulliau allweddol fel disgyblaeth.

A chithau'n fyfyriwr MA Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwch yn elwa ar y cyfle i edrych ar sawl ffordd o fynd ati i astudio'r gorffennol - cymdeithasol, diwylliannol, deallusol, gwleidyddol - ar draws ystod gronolegol a daearyddol eang.

Mae ein diddordebau academaidd yn cynnwys hanes Prydain, Cymru, Ewrop (gan gynnwys Canol a Dwyrain Ewrop, a Rwsia), Asia a Gogledd America o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod modern. Gyda'n harbenigedd eang, cewch ddatblygu eich diddordebau ymchwil penodol eich hun a dilyn modiwlau sy'n caniatáu i chi ddatblygu ac ehangu'r rhain.

Rydym yn ymwybodol bod rhagolygon cyflogadwyedd ac o ran gyrfa yn bwysig i chi, ac rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi gyda bywyd ar ôl y Brifysgol. Felly, rydym yn cynnig dau fodiwl dewisol sy'n rhoi pwyslais ar gyflogadwyedd.

Rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein dull hyblyg o hyfforddi sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, gan gynnwys yr amser a dreulir y tu hwnt i amgylchedd y Brifysgol. Rydym yn cynnig ffordd hyblyg o ysgrifennu traethawd hir, sy'n unigryw. Mae hyn yn golygu bod dewis gennych rhwng traethawd hir traddodiadol, lle cewch y cyfle i feithrin eich sgiliau ymchwil ymarferol a datblygu eich cyfraniad ymchwil gwreiddiol, neu gallwch ddewis cwblhau prosiect ymgysylltu â'r cyhoedd. Bydd y prosiect arloesol hwn, sef y cyntaf o'i fath yn y DU, yn caniatáu i chi fanteisio ar eich profiadau eich hun i ddangos pwysigrwydd hanes yn y gymuned ehangach.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4929
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel Hanes yr Henfyd, y Clasuron, gwareiddiad clasurol, Hanes ac Ieithoedd Modern, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r MA yn cynnwys dwy ran: mae'r rhan gyntaf yn cynnwys chwe modiwl a addysgir ar gyfer cyfanswm o 120 o gredydau a addysgir, a thraethawd hir ymchwil gwerth 60 o gredydau yw'r ail ran. Bydd yr addysgu'n newid o seminarau i oruchwyliaeth un i un gyda'r goruchwyliwr o'ch dewis.

Rhan un: y cam a addysgir

Lluniwyd ein tri modiwl craidd i ganiatáu i chi ddatblygu sgiliau ymchwil beirniadol a ffyrdd ati i drin astudiaeth ôl-raddedig hanfodol, yn ogystal â chwblhau darn estynedig o ymchwil hanesyddol .

Byddwch yn dewis tri modiwl pellach sy'n caniatáu i chi ganolbwyntio ar y themâu a'r cysyniadau mwyaf perthnasol sy'n gweddu orau i'ch diddordebau chi. A chithau'n fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn astudio tri modiwl yn eich blwyddyn gyntaf, a thri yn eich ail flwyddyn, gydag o leiaf un modiwl ym mhob semester.

Ceir cyfleoedd hefyd i astudio modiwlau sy'n rhoi cyfle i chi archwilio sut i gyfleu ymchwil a'ch syniadau y tu hwnt i'r Brifysgol, ac yn arbennig i'r sector treftadaeth.

Rhan dau: cam y traethawd hir

Bydd eich ail flwyddyn yn canolbwyntio'n fwy ar baratoi ar gyfer eich traethawd hir, y byddwch yn gwneud ymchwil ac yn ei ysgrifennu'n bennaf dros yr haf yn eich ail flwyddyn.

Mae cam y traethawd hir yn rhoi'r hyblygrwydd i chi ddewis y ffordd fwyaf addas i chi ac i'ch dyheadau o ran gyrfa. Mae gennych chi ddau opsiwn:

- Cwblhau traethawd hir ymchwil hyd at 15,000 o eiriau ar y pwnc o'ch dewis chi, fel arfer yn seiliedig ar ffynonellau cynradd, a all fod yn rhan o gynnig ymchwil PhD yn ddiweddarach.

- Canolbwyntio ar broject ymgysylltu â'r cyhoedd neu weithredu cymunedol sydd wedi'i amlinellu, ei egluro, a'i gefnogi gan dystiolaeth ar ffurf traethawd ysgrifenedig hyd at 15,000 o eiriau.

Sylwer: gallai cymryd rhan yn y modiwlau sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd a/neu ymchwil drwy ymgysylltu â'r cyhoedd ddibynnu ar gael gwiriad clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio tri modiwl, gan gynnwys dau fodiwl craidd ac un modiwl dewisol.

Blwyddyn dau

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio un modiwl craidd a dau fodiwl dewisol.

Yna byddwch yn dechrau cam y traethawd hir. Byddwch yn gweithio ar eich traethawd hir dros fisoedd yr haf cyn ei gyflwyno ym mis Medi.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae addysgu ein MA yn canolbwyntio ar seminarau mewn grwpiau bach a dosbarthiadau meistr, a ategir gan diwtorialau unigol a sesiynau goruchwylio. Defnyddir amrywiaeth o weithgareddau ar draws ein modiwlau MA, sy'n amrywio o ran arddull a dulliau rhwng y modiwlau craidd, modiwlau dewisol a'r traethawd hir. Maen nhw'n cynnwys seminarau a thiwtorialau mewn grwpiau bach a arweinir gan fyfyrwyr a thiwtoriaid, dosbarthiadau meistr, ymarferion ymarferol, a sesiynau goruchwylio'r traethawd hir.

Mae seminarau fel arfer yn ddwy awr o hyd ac yn amrywio rhwng tua 10 a 20 o fyfyrwyr o ran maint. Mewn seminarau, byddwch yn cyfrannu at drafodaethau a dadleuon yn ogystal â chyflwyno'ch canfyddiadau, eich dehongliadau o ddarlleniadau, a'ch ymchwil yn fwy cyffredinol. Ar gyfer eich traethawd hir, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth ac ymchwil annibynnol, gydag arweiniad gan oruchwyliwr academaidd.

Mae'r dulliau addysgu hyn yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu dulliau o feddwl yn feirniadol mewn amgylchedd cefnogol.

Addysgu yn yr Iaith Gymraeg

Rydym yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan ddibynnu ar y staff sydd ar gael, cynigir tiwtorialau yn y Gymraeg ar rai neu'r holl gyrsiau craidd ac mewn rhai modiwlau dewisol. Mae goruchwyliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer y traethawd hir Meistr, a gallwch ddewis ysgrifennu'r cyfan neu ran o'ch gwaith a asesir a'ch arholiadau yn Gymraeg.

Sut y caf fy asesu?

Rydym yn defnyddio ystod eang o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, beirniadaeth o ffynonellau, llyfryddiaethau anodedig, blogiau, adolygiadau beirniadol, posteri a chyflwyniadau llafar.

Defnyddir gwaith cwrs ar gyfer dibenion asesu, ac fel ffordd o ddatblygu eich gallu i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Bydd asesiadau'n profi'r sgiliau gwahanol rydych wedi'u dysgu.

Rhoddir adborth ar asesiadau er mwyn rhoi'r cyfle i chi ystyried eich lefel cyrhaeddiad bresennol neu ddiweddar. Gall adborth fod ar sawl ffurf, gan gynnwys adborth unigol un-i-un; adborth gan gymheiriaid; a hunanwerthusiadau i'w cyflwyno ynghyd â'r asesiad. Cynigir cyfleoedd i drafod cynlluniau traethawd a chynigion traethawd hir drwy gydol y rhaglen.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r rhaglen BA Hanes yng Nghaerdydd yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gynullydd y Rhaglen. Yn y rhan o'r MA a addysgir, cewch eich cefnogi gan sawl aelod o staff sy'n canolbwyntio ar berfformiad academaidd yn y modiwlau rydych yn eu hastudio. Cewch hefyd diwtor personol penodol, a fydd mabwysiadu dull mwy cyfannol o drin eich dysgu a'ch cynnydd. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor personol yn rheolaidd. Gall eich tiwtor personol hefyd eich arwain tuag at gymorth priodol os ydych chi'n cael trafferth. Byddwch yn parhau â'r un tiwtor personol drwy gydol eich gradd, oni bai nad yw ar gael yn yr ail flwyddyn oherwydd caniatâd i fod yn absennol, ei fod yn ymddeol, ac ati.

Cewch eich arholi yn ail ran yr MA drwy draethawd hir, lle byddwch yn cael goruchwyliaeth un-i-un i'ch helpu i lunio, ymchwilio ac ysgrifennu eich traethawd hir.

Trwy gydol yr MA fe'ch anogir i drafod eich syniadau gyda thiwtoriaid modiwl mewn seminarau yn un-i-un yn ystod oriau swyddfa, a thrwy ymgynghori â'ch tiwtor personol penodol.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr. Cewch hyd i'r tîm yn yr 'hyb y myfyrwyr' pwrpasol yn yr Ysgol. Mae hefyd gennym Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr pwrpasol, sy'n gallu rhoi'r cyngor a'r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol. Byddwch hefyd yn elwa ar gael cyngor gan Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig a fydd yn eich cefnogi chi gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

Y tu hwnt i'r Ysgol, mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy'n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i'ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch wedi datblygu:

  • gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o brosesau a newidiadau hanesyddol mewn cyfnod penodol, rhanbarth ddaearyddol neu ddull thematig
  • gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o dueddiadau, dulliau ac ymagweddau cyfredol yn y ddisgyblaeth Hanes, ymchwil hanesyddol a rheoli a gwarchod y gorffennol
  • gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o ffyrdd o fynd ati i drin deunyddiau archifol, print neu ddigidol er mwyn gwneud ymchwil i gwestiynau hanesyddol
  • gwybodaeth feirniadol am rôl a gwerth y ddisgyblaeth Hanes yng nghyd-destun ymchwil a chyflogaeth.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos gallu uwch:

  • i ddefnyddio deunydd ffynonellau hanesyddol yn greadigol, yn berswadiol ac yn ddiddwythol
  • i ystyried gwybodaeth hanesyddol yn fanwl a dangos ymwybyddiaeth o ddadleuon cyfredol i ddatblygu damcaniaethau newydd yn sgil fframweithiau amgen a chystadleuol
  • i ddadansoddi amrywiaeth o bynciau hanesyddol yn sgil fframweithiau amgen a chystadleuol
  • i ddod o hyd i ddeunyddiau archifol, print neu ddigidol a'u gwerthuso'n feirniadol er mwyn gwneud ymchwil i gwestiynau hanesyddol penodol
  • i lunio a chynnal dadleuon hanesyddol annibynnol, cynnig tystiolaeth briodol i'w cefnogi a chyfeirnodi ffynonellau'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch wedi datblygu'r canlynol i lefel uchel:

  • y gallu i gyfleu a chyfuno syniadau drwy amrywiaeth o gyfryngau o ran lleoliadau, dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
  • meddwl yn feirniadol, rhesymu, a'r gallu i dderbyn a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth drwy ddadansoddi a gwerthuso llenyddiaeth ysgolheigaidd berthnasol a thystiolaeth ffynhonnell, a dod i gasgliadau annibynnol ynghylch dilysrwydd tystiolaeth a deunydd a archwiliwyd
  • y gallu i nodi problemau, asesu tystiolaeth, a dod i gasgliadau sy'n gyson â nhw ar bynciau hanesyddol a dulliau methodolegol
  • y gallu i gyfleu a chyfuno syniadau ar lafar, yn ysgrifenedig ac ar ffurf clyweledol o ran lleoliadau, dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
  • y gallu i weithio ar y cyd ac ar eich pen eich hun ar brosiectau sydd â sail ddamcaniaethol ac empirig sy'n defnyddio tystiolaeth ymchwil briodol a pherthnasol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Yn fwy cyffredinol, ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch wedi datblygu'r canlynol i lefel uwch:

  • y gallu i ddatrys problemau a gwreiddioldeb wrth feddwl drwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd
  • y gallu i lunio a chyfiawnhau dadleuon a chasgliadau am amrywiaeth o faterion, a chyflwyno tystiolaeth ategol briodol
  • y gallu i ymateb yn adeiladu i ddadleuon a beirniadaeth
  • y gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth mewn amrywiaeth o fformatau i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol
  • sgiliau rheoli amser yn effeithiol, gan gynnwys y gallu i weithio'n gynhyrchiol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £4,950 Dim
Blwyddyn dau £4,850 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,350 £2,500
Blwyddyn dau £11,350 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Gallwch ddilyn y radd heb gostau ychwanegol, ond gall fod goblygiadau cost ychwanegol yn sgil ymgysylltu â'r gymuned neu brosiectau lleoliadau gwaith, fel y gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwasanaethau Gwahardd, teithio, ac ati.

Efallai yr hoffech brynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn arbennig o ddiddorol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae ein graddedigion sydd â gradd Meistr yn dod o hyd i waith (neu'n dychwelyd i'r gwaith) mewn ystod eang o gyflogaeth broffesiynol ac academaidd sy’n gysylltiedig ac anghysylltiedig. Ar gyfer graddedigion eraill, mae ein gradd Meistr yn gam pwysig ar y llwybr i gwblhau PhD yng Nghaerdydd neu rywle arall.

Mae’r rhaglen yn rhoi’r sgiliau deallusol a'r datblygiad personol a ddysgwyd drwy astudio hanes ar lefel uwch. Mae galw mawr am y rhain mewn amrywiaeth o weithleoedd, ac yn rhoi safbwynt hanesyddol dwfn i chi sy'n eich helpu i gyfrannu mewn ffyrdd pwysig at ddatblygiad eich cymdeithas chi eich hun.

Bydd y sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy gwblhau gradd Meistr yng Nghaerdydd yn eich gwneud chi’n gymwys ar gyfer ystod eang o broffesiynau. Mae sectorau cyflogaeth poblogaidd yn cynnwys addysg, y gyfraith, newyddiaduraeth, cyhoeddi, hysbysebu a marchnata, y gwasanaeth sifil, treftadaeth, y llywodraeth a sectorau proffesiynol eraill.

O’r cychwyn cyntaf, rydym yn eich annog chi i ystyried bywyd y tu hwnt i’r Brifysgol. Yn ogystal â modiwlau a addysgir a gweithdai academaidd, rydym yn cynnig sesiynau pwrpasol i wella eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch rhagolygon cyflogadwyedd i roi mantais gystadleuol i chi ar ôl graddio.

Lleoliadau

Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sydd yn gallu eich cefnogi chi gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

Mae opsiwn i astudio modiwl ar gyflogadwyedd y cewch gredydau amdano sydd â chyfleoedd i gwblhau lleoliad gwaith, sy'n eich galluogi chi i gael profiad o weithio mewn amgylchedd proffesiynol lle byddai sgiliau sy'n gysylltiedig ag ymchwil hanesyddol yn ddefnyddiol. Mae hefyd opsiwn i astudio modiwl treftadaeth penodol sy'n cynnig y cyfleoedd i chi weithio gyda phartneriaid treftadaeth yr Ysgol.

Gall cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith neu ymchwil drwy ymgysylltu â'r cyhoedd ddibynnu ar gael gwiriad clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: History


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.