Ewch i’r prif gynnwys

Gradd Meistr drwy raddau ymchwil

Mae graddau Meistr Ymchwil yn cynnwys MPhil (Meistr Athroniaeth) ac MRes (Meistr Ymchwil)

Meistr Athroniaeth (MPhil)

Mae'r profiad ymchwilio ac astudio yn debyg i PhD, gan gynnwys cefnogaeth tîm goruchwylio, ond mae'r prosiect wedi'i ddiffinio'n dynnach er mwyn gallu ei gwblhau mewn amser byrrach, a gall y canlyniadau fod yn gyfraniad gwreiddiol i'r maes neu'n werthusiad beirniadol a dadansoddiad o gorff o wybodaeth.

Cynigir graddau MPhil gan Ysgolion Academaidd a gellir pori drwy'r cyfleoedd penodol drwy ein Chwiliwr Cyrsiau.

Ffeithiau allweddol

 HydTraethawd ymchwil
Amser llawn1 - 2 blwyddynHyd at 50,000 o eiriau
Rhan-amserHyd at 3 blyneddHyd at 50,000 o eiriau

Meistr Ymchwil (MRes)

Mae gradd MRes yn cyfuno rhaglen strwythuredig o archwilio ymchwil cyfeiriedig a hyfforddiant sgiliau gydag elfen sylweddol o ymchwil unigol, a allai fod ar ffurf un prosiect neu brosiectau niferus.

Mae'n darparu gwybodaeth a phrofiad ymarferol i baratoi at yrfa ymchwil a gall fod yn sylfaen gwerthfawr ar gyfer symud ymlaen i gwblhau PhD.

Rydym yn cynnig graddau Meistr Ymchwil yn y meysydd canlynol:

Ffeithiau allweddol

 HydTraethawd
Amser llawn1 BlwyddynHyd at 20,000 words
Rhan-amserN/AHyd at 20,000 words 

Meistr Gwybodaeth (MSc) mewn Dulliau Ymchwil

Caiff y radd MSc mewn Dulliau Ymchwil ei chyfrif yn rhaglen ôl-raddedig a addysgir oherwydd y cydbwysedd rhwng elfennau a addysgir a'r prosiect ymchwil unigol.

Mae'n cynnig sylfaen gref ar gyfer PhD mewn amrywiaeth eang o bynciau yn y gwyddorau cymdeithasol ac mewn rhai pynciau mae'n rhagofyniad ar gyfer ymgymryd ag astudiaethau PhD.

Rydym yn cynnig un MSc mewn Dulliau Ymchwil:

Ffeithiau allweddol

 HydTraethawd
Amser llawn1 blwyddynHyd at 20,000 o eiriau
Rhan-amser2 blwyddyn Hyd at 20,000 o eiriau