Ewch i’r prif gynnwys

'Dyw cyfuno PhD gyda gyrfa hoci iâ ddim yn dasg hawdd

Man ice skating and wearing hockey gear.

Mae Luke Piggott, a gwblhaodd ei radd PhD yn gynharach eleni ac sydd bellach yn aelod o staff yn Ysgol y Biowyddorau a’r Sefydliad Ymchwil Bôn-Gelloedd Canser Ewropeaidd, wedi cael ei ddewis i gynrychioli’r Brifysgol yng Ngemau Gaeaf Prifysgolion y Byd yn Trentino, yr Eidal.

Yn ystod ei PhD, cyhoeddodd Luke bapur am driniaeth a oedd yn atal lledaeniad canser y fron ac ailwaeledd. Bu’n cydbwyso ei astudiaethau â chwaraeon a thros y tair blynedd diwethaf mae wedi bod yn chwaraewr llawn amser gyda’r Cardiff Devils yn y Gynghrair Elite, y lefel uchaf ar gyfer hoci iâ dynion yn y DU.

Helpodd y Devils i gyrraedd rownd derfynol gemau ail-gyfle y Gynghrair Elite yn 2011-12 a’r rownd gynderfynol yn 2012-13, gan hefyd ennill y wobr am y chwaraewr a wellodd fwyaf yn y tîm yn ystod y tymor olaf.

Bydd Luke, sydd eisoes wedi cynrychioli tîm Prydain Fawr yn Torino 2007 a Harbin 2009, yn gapten ar dîm Hoci Iâ y Dynion yn y Gemau eleni ar ôl cael ei ddewis mewn pleidlais ymysg Rheolwyr Tîm Prydain Fawr. Bydd hefyd yn cario’r faner yn y seremoni agoriadol ar 11 Rhagfyr sy’n nodi dechrau’r Gemau ac 11 diwrnod o gystadlu.