Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth Seicolegol a'r Niwrowyddorau Clinigol

Mae modd cyflawni eich gradd ymchwil ôl-raddedig (MPhil, PhD neu MD) yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol. Mae ein hymchwil yn ymwneud yn bennaf â deall y mecanweithiau sydd wrth wraidd i anhwylderau seiciatrig a niwrolegol.

Mae'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol yn adran brifysgol flaenllaw ar gyfer ymchwil i anhwylderau seiciatrig a niwrolegol, sy'n cynnwys dros 160 o staff academaidd ac ymchwil, a dros 40 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig presennol.

Rydyn ni’n ymchwilio i ystod o gyflyrau, gan gynnwys sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn, seicosis ôl-enedigol, iselder a gorbryder ymhlith pobl ifanc, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, clefyd Huntington, sglerosis ymledol, epilepsi a dystonia.

Mae ein gwaith yn cwmpasu geneteg, bioleg celloedd, niwrowyddoniaeth foleciwlaidd ac ymddygiadol, niwroddelweddu, epidemioleg, biowybodeg a gwyddor data.

Nodweddion unigryw

Mae'r Is-adran yn gartref i sawl canolfan ymchwil flaenllaw:

Ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig

Bydd manylion cyfleoedd ôl-raddedig presennol yn yr Is-adran yn cael eu rhestru yma pan fyddan nhw ar gael.

Mae ein goruchwylwyr hefyd yn cynnig prosiectau PhD yn rheolaidd drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol UKRI GW4 BioMed2 a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

DPMCN PhD Gweinyddwr

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Yr Athro Nick Bray

Yr Athro Nick Bray

Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
brayn3@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8368

Mae staff yn yr adran yn ymgymryd ag ymchwil sydd â'r nod o ddeall y mecanweithiau sylfaenol sy'n sail i anhwylderau seiciatrig a niwrolegol mawr.

Mae rhaglenni gwaith ar sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, iselder mewn plant a phobl ifanc, ADHD, clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, clefyd Huntington, sglerosis ymledol ac epilepsi ymhlith eraill.

Mae ffocws mawr ar eneteg a genomeg ond hefyd diddordeb mewn delweddu'r ymennydd, epidemioleg, modelau anifeiliaid a bioleg celloedd. Yn ogystal, mae gwaith hefyd ar seicoaddysg, gwasanaethau iechyd, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Meddygaeth.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig