Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith Cymdeithasol (MA)

Mae ein rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ychwanegu at y profiad academaidd a galwedigaethol sydd ganddyn nhw eisoes a sicrhau gradd meistr a chymhwyster proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol.

Mae Gwaith Cymdeithasol (MA) yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer llwybrau gyrfaol megis: Gweithiwr Cymdeithasol, Rheolwr Gofal, Rheolwr Prosiect, Uwch-reolwr Prosiect, Swyddog Ymchwil a Datblygu a Swyddog Datblygu Gwasanaethau.

Er mai at raddedigion yr anelir y rhaglen yn bennaf, o dan rai amgylchiadau, mae'r rhaglen hefyd yn cynnig llwybr i bobl nad ydyn nhw’n raddedigion gymhwyso’n weithwyr cymdeithasol.

Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng astudio ffurfiol a gwneud lleoliadau dysgu ymarferol. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn dilyn modiwlau craidd. Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn dewis llwybr arbenigol ac yn ysgrifennu traethawd hir.

Bydd yr holl ddysgu ac addysgu yn y brifysgol ac mewn asiantaeth yn cael eu strwythuro’n unol â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’n bosibl y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnig bwrsariaethau.