Ewch i’r prif gynnwys

Astudio dramor

Wrth gwrs, mae mwy i’r brifysgol nag astudio, ac un o fanteision clir astudio dramor yw’r cyfle i ymdrochi mewn diwylliannau gwahanol ac elwa o brofiadau unigryw sydd yn eu tro yn eich galluogi i ailwerthuso eich dealltwriaeth o’ch cefndir diwylliannol eich hun.

Pam astudio dramor?

Byddwch chi’n datblygu amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt, gan gynnwys:

  • annibyniaeth a chyfrifoldeb
  • trefnu a rheoli amser
  • datrys problemau
  • sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu
  • cyfathrebu rhyngddiwylliannol
    gallu bod yn hyblyg ac yn wydn.

Gan ddibynnu ar eich dewis o wlad, gallech hefyd wella eich sgiliau iaith – neu hyd yn oed dysgu iaith newydd!

Mae astudio dramor yn cynnig cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a ffurfio cyfeillgarwch a rhwydweithiau sy’n
gallu para oes.

Ble galla i astudio dramor?

Mae gennym bartneriaethau astudio dramor â sefydliadau yn Awstralia, Gwlad Belg, Canada, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Singapore ac UDA.*

Rhagor o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, defnyddiwch ein manylion cyswllt.

Os ydych yn dymuno astudio dramor, dylech holi yn eich blwyddyn gyntaf o astudio, er mwyn paratoi i wneud cais yn eich ail flwyddyn.

Cysylltwch â ni

SOCSIStudyAbroad@caerdydd.ac.uk

*Sylwer bod y rhestr o gyrchfannau’n newid ac na ellir gwarantu unrhyw gyrchfan.