Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth Dwyllodrus, Cyfathrebu Strategol a Rhaglen Ymchwil Ffynhonnell Agored

OSCAR

Mae ein rhaglen ymchwil wedi datblygu arbenigedd arbenigol mewn nodi a dadansoddi ymgyrchoedd dadwybodaeth a gweithrediadau gwybodaeth gwladwriaethau tramor.

Mae ein tîm yn cyfuno gwyddonwyr cymdeithasol ac ymddygiadol â gwyddonwyr data a chyfrifiaduron. Tyfodd ein ffocws ar dwyllwybodaeth allan o ymchwil arloesol a ddefnyddiodd ddadansoddeg cyfryngau cymdeithasol i olrhain ymatebion cyhoeddus i ymosodiadau terfysgol. Ers hynny mae wedi esblygu i fod yn asesiad o achosion a chanlyniadau twyllwybodaeth mewn dros 20 o wledydd.

Mae'r rhaglen yn rhaglen ymchwil werth miliynau o bunnoedd sydd wedi trawsnewid dealltwriaeth o sut mae ymgyrchoedd twyllwybodaeth gwladwriaethau tramor a gweithrediadau gwyrdroi gwybodaeth yn cael eu trefnu a'u cynnal.

Uchafbwyntiau ymchwil

European flags

Graddfa ymyrraeth Rwsia â democratiaeth Ewrop wedi’i datgelu

Yn ôl academyddion, dylai dadansoddiad newydd o weithgareddau cyfryngau cymdeithasol fod yn rhybudd cyn etholiadau Senedd Ewrop

Woman using mobile phone

“Proffwydi digidol” wedi defnyddio llofruddiaeth Jo Cox i waethygu rhaniadau cyn pleidlais yr UE, yn ôl ymchwil

Roedd rhagfynegiadau am oblygiadau'r llofruddiaeth yn y dyfodol ar y cyfryngau cymdeithasol yn foment allweddol wrth bolareiddio ymgyrch Brexit

New Research Shows How Disinformation is Becoming Normalised and Domesticated in Europe

Researchers trace the influence of innovations in digital influence engineering pioneered by far-right groups and agencies linked to the Kremlin.

Mae tynnu damcaniaethwyr cynllwyn Covid oddi ar Facebook yn cael effaith gyfyngedig o ran lleihau eu dylanwad, yn ôl ymchwil

Mae “cyfrifon cefnogwyr llai pwysig” yn parhau â'r genhadaeth o ledaenu camwybodaeth

Troliau sydd o blaid y Kremlin yn ymdreiddio cyfryngau amlwg y Gorllewin dro ar ôl tro

Adrannau sylwadau i ddarllenwyr yn cael eu defnyddio i greu darlun gwyrgam o farn y cyhoedd

Using laptop and phone

Ymchwil yn sbarduno galwad am orfodaeth lymach ar y cyfryngau cymdeithasol

Tystiolaeth o adroddiad academaidd yn cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil

Arweinydd uned ymchwil

Yr Athro Martin Innes

Yr Athro Martin Innes

Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch

Email
innesm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 75307