Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Sefydlwyd y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth yn 2015 (sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch oedd yr enw arno cyn hynny).

Mae ein harbenigedd yn rhychwantu troseddeg, cyfrifiadureg, cyfathrebu strategol a gwyddor ymddygiadol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn galluogi cydweithio ar draws disgyblaethau academaidd a chymunedau meddwl. Mae llawer o'n gwaith yn cael ei arwain gan heriau – cynllunio a sicrhau datblygiadau gwyddonol newydd drwy fynd i’r afael â phroblemau yn y byd go iawn. Mae hyn yn galluogi ein hymchwil i gadw ei bri academaidd – a sicrhau effaith ar yr un pryd.

Ymhlith enghreifftiau nodedig o’n gwaith mae:

  • Arwain datblygiad deallusol gwaith Plismona yn y Gymdogaeth yn y DU
  • Rhoi Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais ar waith mewn nifer fawr o wledydd ledled y byd
  • Datgelu rôl yr Asiantaeth Ymchwil i’r Rhyngrwyd yn y broses o achosi rhaniad cymdeithasol yn dilyn ymosodiadau terfysgol yn y DU yn 2017

Mae gennym hanes o wneud gwaith dadansoddi creadigol, annibynnol a thrylwyr sy'n cynnig tystiolaeth, cipolwg a dealltwriaeth. Mae ein Sefydliad Arloesedd wedi sicrhau effaith yn fyd-eang dro ar ôl tro ym meysydd polisi ac ymarfer ac yn y byd academaidd.

Mae ein strategaeth ymchwil yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r heriau a'r cyfleoedd newydd ym maes diogelwch sy'n gysylltiedig â'n cymdeithas fodern – cymdeithas sy'n cael ei gyrru gan ddata.

Themâu ein hymchwil

Deallusrwydd artiffisial ar gyfer amddiffyn

Rydym yn ymchwilio i sut mae deallusrwydd artiffisial yn newid gweithrediadau ymosod ac amddiffyn y fyddin a'r cysyniadau ohonynt. Arweinir yr ymchwil hon gan ein Grŵp Dadansoddeg Ddosbarthedig a Gwyddor Gwybodaeth.

Twyllwybodaeth, cyfathrebu strategol a ffynonellau agored

Rydym yn dadansoddi sut mae gwybodaeth a gweithrediadau dylanwadu’n cael effaith ar ddealltwriaeth y cyhoedd a phenderfyniadau gwleidyddol er mwyn llywio diogelwch, ffyniant a democratiaeth. Y Grŵp Ymchwil i Dwyllwybodaeth, Cyfathrebu Strategol a Ffynonellau Agored sy'n arwain yr ymchwil hon.

Troseddu, trais a phlismona

Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da drwy’r byd am ei hymchwil i agweddau ar y system cyfiawnder troseddol. Mae Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu a’r Grŵp Ymchwilio i Drais yn gweithio ar brosiectau sy'n ymdrin â datblygiadau arloesol ym maes ymarfer yr heddlu a'r cysylltiad rhwng alcohol a thrais.

Partneriaid ymchwil

Mae gennym hanes sylweddol o gydweithio'n agos â phartneriaid o bob rhan o fyd diwydiant, y llywodraeth, y gymdeithas sifil a'r byd academaidd. Mae ein partneriaethau agos yn sicrhau bod y gwaith rydym yn ei wneud yn parhau i fod yn berthnasol a'i fod o bwysigrwydd strategol i bolisïau ac ymarfer.

Rydym yn falch o’r ffaith bod llywodraethau, heddluoedd a chyrff cyllido academaidd mawr ledled y byd yn ymddiried ynom i wneud ymchwil a meithrin gallu.

Mae gennym berthynas gydweithredol hirdymor â’r canlynol: