Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn sbarduno galwad am orfodaeth lymach ar y cyfryngau cymdeithasol

5 Mawrth 2019

Using laptop and phone

Mae ymchwil i'r defnydd o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â Rwsia yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol yn y DU yn 2017 wedi arwain at alwadau am fwy o reoliadau ar gwmnïau technoleg.

Yn eu hadroddiad ar wybodaeth anwir a 'newyddion ffug', disgrifiodd y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y modd roedd gwaith gan y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch ymysg "tystiolaeth gref" sy'n "manylu ynghylch y modd y ceisiodd y Kremlin ddylanwadu ar agweddau o wleidyddiaeth y DU".

Yn dilyn yr ymchwiliad, mae Aelodau Seneddol wedi galw am orfodaeth lymach ar gwmnïau technoleg a chyfryngau cymdeithasol. Gwnaethant ganfod hefyd nad yw'r gyfraith etholiadol bresennol 'yn addas i'r diben' a bod Facebook "wedi torri cyfraith preifatrwydd data a chyfraith gwrth-gystadleuaeth o fwriad ac yn ymwybodol."

Yn ôl yr Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr y Sefydliad Trosedd a Diogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae hwn yn adroddiad pwysig ac amserol. Mae ein hymchwil i'r defnydd o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, y mae'r Pwyllgor wedi'i defnyddio wrth greu ei argymhellion, yn dangos bod angen mynd ati i weithredu ar frys i atal gweithredwyr milain rhag defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i ledaenu cynnwys niweidiol a chamarweiniol ar ôl ymosodiadau terfysgol."

Dangosodd adroddiad arloesol y CSRI, ‘Russian influence and interference measures following the 2017 UK terrorist attacks’ bod hyd a lled y dylanwad a'r ymyrraeth gan gyfrifon cyfryngau cymdeithasol â chysylltiadau â Rwsia yn fwy helaeth o lawer na'r hyn yr hysbyswyd amdano'n flaenorol.

Ar ôl dadansoddi 30 miliwn o bwyntiau data ar draws amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, nododd ymchwilwyr o leiaf 47 o gyfrifon oedd wedi ymdrechu i ddylanwadu'n annheg ar y ddadl gyhoeddus wnaeth ddilyn pob digwyddiad terfysgol.

Ychwanegodd yr Athro Innes: "Mae'r dystiolaeth a gasglwyd gennym yn awgrymu ymgyrch gyfathrebu wleidyddol strategol systematig, a gyfeiriwyd at y DU ac a luniwyd er mwyn gwaethygu niwed cyhoeddus ymosodiadau terfysgol."

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma. Ariannwyd yr ymchwil gan y Ganolfan Ymchwil a Thystiolaeth am Fygythiadau Terfysgol (CREST).