Cymrodyr er Anrhydedd
Rydym ni'n dyfarnu Cymrodoriaethau Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi cyflawni arbenigrwydd rhyngwladol yn eu maes.
Cymrodyr Er Anrhydedd 2019
Yr Athro Alice Roberts

Mae Alice Roberts (BSc 1994, MBBCh 1997) yn anthropolegydd biolegol, anatomydd clinigol, awdur ac yn ddarlledwraig. Mae hi wedi ysgrifennu a chyflwyno nifer o raglenni teledu a radio sy’n ymwneud â gwyddoniaeth yn ogystal ag ysgrifennu wyth o lyfrau poblogaidd am wyddoniaeth.
Dilys Price OBE
Dilys Price (Cynfyfyriwr BEd) OBE yw nenblymiwr solo benywaidd hynaf y byd, a chyn ymddeol roedd hi’n darlithio mewn Dawns Addysgol Gyfoes. Ym 1998, sefydlodd Ymddiriedolaeth Touch: dyma elusen sy’n cynnig rhaglenni symud creadigol ac unigol i unigolion ag awtistiaeth, dementia ac anableddau dwys.
Frances Beecher

Mae Frances Beecher yn seicotherapydd ymddygiad gwybyddol ac wedi sefydlu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Ieuenctid Cymru. Hi hefyd yw Prif Weithredwr Llamau, elusen sy’n cynnig lle diogel i bobl ifanc a menywod aros.
Matt Jukes
Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru yw Matt Jukes. Mae ei bwyslais ar blismona lleol a diwygio gweithdrefnau cefn swyddfa wedi cefnogi un o gwtogiadau rheng-flaen lleiaf yn y DU.
Dr Steve Garnett
Mae Dr Steve Garnett (BSc 1980) wedi bod yn aelod o dîm rheoli gweithredol tri busnes meddalwedd newydd, ac mae pob un o’r rhain wedi troi’n un o’r cwmnïau meddalwedd mwyaf llwyddiannus erioed. Bellach, mae’n rheoli ei bortffolio o fuddsoddiadau mewn amrywiaeth o gwmnïau sy’n tyfu’n gyflym.
James Goldston
Dechreuodd James Goldston (PgDip 1991) ei yrfa ym maes teledu fel cynhyrchydd i nifer o raglenni BBC News, gan gynnwys Newsnight a phrif raglen materion cyfoes y BBC, Panorama. Cafodd ei enwi’n Llywydd ABC News ym mis Ebrill 2014 ac mae’n goruchwylio pob agwedd ar yr adran newyddion.
Yr Athro Stephen Tomlinson CBE
Mae’r Athro Stephen Tomlinson CBE wedi cael gyrfa hir a nodedig o ymchwil feddygol ym meysydd endocrinoleg a diabetes. Yn gynharach yn ei yrfa, bu’n Is-Ganghellor Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Erbyn hyn mae’n Athro Emeritws Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Chymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol.
Dr Ivor Davies
Artist blaengar o Gymru a hanesydd celf yw Dr Ivor Davies ac mae wedi cynnal tua 50 o arddangosfeydd unigol a 100 ar y cyd. Ac yntau’n ganolog i fudiad Difrod mewn Celf, a grŵp Beca Cymru’n fwy diweddar, mae’n cyflwyno gwobr flynyddol Ivor Davies yn yr Eisteddfod.
Jonathan a Karen Hodge

Mae Jonathan a Karen Hodge yn ymddiriedolwyr i Sefydliad Hodge, sy’n berchen ar 79% o grŵp busnesau Hodge. Elusen yw Sefydliad Hodge, a’i chenhadaeth yw creu grantiau i wella bywydau pobl sy’n profi amddifadedd, salwch meddyliol neu gorfforol, allgáu cymdeithasol neu anfantais arall.
Strive Masiyiwa
Mae Strive Masiyiwa yn ddyn busnes a dyngarwr o Zimbabwe sy’n byw yn Llundain. Ef yw sefydlydd a chadeirydd gweithredol Econet Wireless ac mae’n aelod o Banel Cynnydd Affrica.
Michael Sheen OBE

Mae’r actor sgrîn a llwyfan o Gymru, Michael Sheen, wedi ymddangos mewn tair ffilm sydd wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Academi’r Ffilm Orau, ac mae wedi ennill llu o wobrau am ei berfformiadau ar y llwyfan. Mae’n cael ei gydnabod yn eang fel actifydd effeithiol hefyd, drwy rolau fel Llysgennad UNICEF. Mae Michael bellach yn dechrau ei fudiadau cymdeithasol ei hun.
Yr Athro Syr Mansel Aylward CB

Siaradwr blaengar ym maes iechyd cyhoeddus yw’r Athro Syr Mansel Aylward CB. Yn ystod ei yrfa nodedig, mae wedi bod yn Gadeirydd ar Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Gyfarwyddwr Meddygol a Phrif Wyddonydd yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ar hyn o bryd, mae’n cadeirio Comisiwn Bevan a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf.
Eddie Izzard

Mae Eddie Izzard yn ddigrifwr, actor, awdur a rhedwr marathon. Yn ddiweddar, derbyniodd ganmoliaeth fawr am ei pherfformiad yn y ffilm Victoria and Abdul, ac mae ei sioe gomedi hynod boblogaidd, Force Majeure, wedi’i chynnal mewn dros 30 o wledydd.