Ewch i’r prif gynnwys

Y Gymdeithas Frenhinol

Bob blwyddyn mae'r Gymdeithas Frenhinol yn dyfarnu 44 Cymrodoriaeth i'r gwyddonwyr gorau i gydnabod eu llwyddiannau gwyddonol. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall gwyddonydd ei derbyn, ar wahân i Wobr Nobel.

Rhaid i unigolion fod wedi gwneud cyfraniad sylweddol i wella gwybodaeth naturiol, gan gynnwys mathemateg, gwyddoniaeth peirianneg a gwyddoniaeth feddygol.

Cymrodyr y Gymdeithas Frenhinol

Yr Athro Yves Barde

Cadair Ymchwil Sêr Cymru mewn Niwrofioleg, Ysgol y Biowyddorau

Mae’r Athro Barde yn un o niwrofiolegwyr mwyaf blaenllaw'r byd. Fe ymunodd ag Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd yn 2013 wedi iddo gael ei benodi’n Gadair Ymchwil Sêr Cymru mewn Niwrofioleg.

Y digwyddiad pwysicaf yng ngyrfa ymchwil yr Athro Barde oedd darganfod a chlonio protein sy'n hanfodol ar gyfer nifer o brosesau, gan gynnwys y cof dynol. Mae angen y protein hollbwysig hwn yn yr ymennydd, a elwir y ffactor niwrodroffig sy'n deillio o'r ymennydd (BDNF), i ddatblygu a chynnal system nerfol iach. Mae ei waith hefyd wedi arwain at ddarganfod teulu o broteinau cysylltiedig - niwrodroffinau.

Yr Athro Hywel Thomas FRS

Yr Athro Hywel Thomas portrait
Yr Athro Hywel Thomas

Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter

Mae diddordebau ymchwil yr Athro Hywel Thomas yn canoli ar symudiadau hynod gymhleth gwres, hylifau a nwyon drwy'r pridd.

Mae'r modelau y mae wedi'u hadeiladu wedi profi'n bwysig yn fyd-eang er mwyn deall amgylchiadau thermol a ffisegol dan ddaear.

Yn ystod ei yrfa academaidd mae wedi cynhyrchu dros 400 o bapurau technegol ac adroddiadau ac wedi darlithio'n helaeth gartref a thramor.

Yr Athro John Aggleton FRS

Professor John Aggleton
Yr Athro John Aggleton

Yr Ysgol Seicoleg

Mae'r Athro Aggleton yn niwrowyddonydd sydd wedi gwneud cyfraniadau pwysig i'n gwybodaeth am sail niwral y cof.

Mae wedi datblygu damcaniaethau dylanwadol sydd wedi arwain at newidiadau sylfaenol yn y ffordd mae gwyddonwyr eraill yn meddwl am systemau'r ymennydd sy'n helpu unigolion i gofio digwyddiadau'r gorffennol yn eu bywydau (systemau cof episodig a chof adnabod).

Mae ymchwil yr Athro Aggleton wedi datgelu rolau strwythurau eraill yr ymennydd i greu darlun mwy cynhwysfawr o lawer o'r modd y caiff mathau gwahanol o gof eu ffurfio a'u hadalw.

Mae'n gweithio ar hyn o bryd ar sut yn union y mae'r strwythurau y mae wedi'u hadnabod, yn y dienceffalon a llabed canol yr arlais, yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau gweithrediad y cof.

Yr Athro Alun Davies FRSE, FLSW, FMedSci, FRS

Yr Athro Alun Davies
Yr Athro Alun Davies

Athro Ymchwil Nodedig, Ysgol y Biowyddorau

Mae ymchwil yr Athro Davies yn canolbwyntio ar ddatblygu celloedd nerfol, sef sylfeini'r system nerfol.

Mae'n un o niwrofiolegwyr datblygiadol mwyaf blaenllaw y byd, ac yn fwyaf adnabyddus am ei ymchwil sylfaenol ar fecanweithiau moleciwlaidd sy'n rheoli'r modd mae celloedd nerfol yn goroesi a thwf a manylder eu prosesau. Mae'n gyfrifol am lawer o ddarganfyddiadau pwysig a chysyniadau sylfaenol yn y maes.

Mae labordy ymchwil gweithredol yr Athro Davies yn Ysgol Biowyddorau Caerdydd yn cynnwys llawer o gymrodyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr PhD sy'n cynnal ymchwil ar agweddau cellol a molecwlaidd datblygiad celloedd nerfol, bioleg ffactor niwtroffig ac arwyddo celloedd. Cefnogir y tîm ymchwil gan gyllid allanol sydd dros £2M.

Yr Athro Ole Holger Petersen CBE, FRS

Yr Athro Ole Holger Petersen
Yr Athro Ole Holger Petersen

Athro o'r Cyngor Ymchwil Feddygol, Ysgol y Biowyddorau

Etholwyd yr Athro Petersen yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 2000 am ei gyfraniad pwysig i ddealltwriaeth o ffisioleg celloedd arwyddo calsiwm. Ef oedd y cyntaf i arddangos actifadu sianelu ionau drwy gyfrwng negesydd, a enynnwyd gan hormonau. Darganfu'r ffenomen lle mae calsiwm sy'n mynd i mewn i'r gell ar un pen yn tryledu i'r pen arall drwy'r reticwlwm endoplasmig. Yn olaf, dangosodd fod yr amlen niwcleaidd yn darparu storfa ychwanegol y gellir rhyddhau calsiwm ohoni.

Mae gyrfa'r Athro Petersen wedi arwain at nifer dda o wobrau, gan gynnwys Medal Purkynje gan Academi Gwyddorau'r Weriniaeth Tsiec, ac fe'i penodwyd yn CBE yn 2008 am ei wasanaethau i wyddoniaeth. Mae wedi ysgrifennu dros 300 o erthyglau academaidd, gan gynnwys 14 a gyhoeddwyd yn 'Nature'. Cyfeiriwyd ato mewn llenyddiaeth wyddonol dros 16,000 o weithiau.

Bu'n Is-Lywydd y Gymdeithas Frenhinol rhwng 2005 a 2006 a bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Ryngwladol y Gwyddorau Ffisiolegol. Cynhaliodd Academi Gwyddorau a Llythrennau Brenhinol Denmarc, y mae'n Aelod Tramor ohoni, symposiwm er anrhydedd iddo yn 2008.

Cyflwynwyd Gwobr Oes Clwb Pancreatig Ewrop iddo am ei gyfraniadau eithriadol i ymchwil y pancreas yng Nghyfarfod Blynyddol rhif 42 y sefydliad yn Stockholm ym mis Mehefin 2010.

Ym mis Awst 2010, etholwyd yr Athro Petersen i Academi Genedlaethol y Gwyddorau yr Almaen Leopoldina, un o gymdeithasau academaidd hynaf a phwysicaf y byd.

Yr Athro R. John Parkes FRS, FLSW

Yr Athro John Parkes
Yr Athro John Parkes

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Mae'r Athro Parkes yn arweinydd rhyngwladol ym maes Geomicrobioleg yn astudio prosesau microbaidd mewn gwaddodion: eu bioamrywiaeth, gweithgaredd, rhyngweithio, rheolyddion ac effaith amgylcheddol.

Ef oedd y gwyddonydd cyntaf i ymchwilio'n llawn i ficrobioleg gwaddodion morol dwfn. Dangosodd, yn groes i'r farn flaenorol, eu bod yn cynnwys nifer fawr o ficrobau gweithredol. Amcangyfrifodd fod 10% yn ychwanegol o gyfanswm biomas byw y Ddaear yn bresennol yn y gwaddodion hyn dan wely'r môr.

Dangosodd hefyd fod y microbau hyn wedi addasu'n dda i'w cynefin dwfn yn y gwaddodion ac nad celloedd wedi'u claddu'n ddwfn oedd yn marw'n araf oedden nhw. Dangosodd fod y microbau ar yr wyneb yn tyfu'n araf iawn iawn ar raddfeydd amser 'daearegol' o filoedd o flynyddoedd, oherwydd y cyflenwad cyfyngedig o ynni.

Ymhlith nifer o effeithiau pwysig yr ymchwil hwn mae'r effaith ar brosesau megis ffurfio nwy eilaidd, gwaredu dwfn (e.e. CO2, gwastraff niwclear), suro cronfeydd olew a'i arwyddocâd i darddiad bywyd ac astrobioleg.

Yr Athro Dianne Edwards FRS, FRE

Yr Athro Dianne Edwards
Yr Athro Dianne Edwards

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Mae'r Athro Dianne Edwards yn nodedig am ei hymchwiliadau i natur y ffosiliau planhigion tir cynharaf.

Drwy ddefnydd medrus o ficrosgopeg sganio electron, a defnydd gofalus o dechnegau arbenigol, mae Dianne wedi egluro anatomi a morffoleg nifer o blanhigion o ddiwedd y cyfnod Silwraidd a'r cyfnod Defonaidd cynnar ac wedi taflu goleuni newydd ar ddigwyddiadau esblygol ar yr adeg y cafodd y tir ei gytrefu am y tro cyntaf.

Mewn gwaith maes sydd wedi'i ddogfennu'n ofalus yng Nghymru, y Gororau, yr Alban a rhannau eraill o'r byd mae wedi ehangu ein gwybodaeth am fywydau planhigion tir cynnar, ac wedi manylu ar y raddfa amser o ran esblygiad y planhigion fasgwlaidd sy'n goruchafu planhigion tir y Ddaear erbyn hyn.

Ynghyd â nifer o gydweithwyr mae wedi dangos yr achosion cynharaf o feinwe fasgwlaidd, stomata a miosborau mewn organau planhigion ffosiledig. Yn bennaf oll, mae Dianne wedi dangos bod amrywiaeth annisgwyl yn yr hyn yr ystyrid yn flaenorol yn grŵp cyfyngedig o blanhigion Palalosöig syml eu strwythur.

Mae'n gyn ymddiriedolwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o sefydlu a pharhad yr adnodd gwyddonol a diwylliannol pwysig hwn.

Graham Hutchings FRS

Yr Athro Graham Hutchings
Yr Athro Graham Hutchings

Athro Regius mewn Cemeg Ffisegol a Chyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd

Fe'i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol am ei gyfraniadau arloesol yn defnyddio aur wrth gatalyddu - sef y broses o gyflymu adweithiau cemegol.

Ef oedd y cyntaf i ragweld ac wedyn arddangos bod aur yn gatalydd effeithlon iawn ar gyfer asetylen hydroclorined, gan sefydlu trwy hynny faes newydd mewn catalyddu.

Mae wedi cymryd rhan flaenllaw mewn deall mecanweithiau'r adweithiau C1 pwysig. Yn ei waith cynnar yn ICI gwnaeth ddarganfyddiadau mewn catalyddion ocsideiddio a ddefnyddir yn fasnachol o hyd.

Mae wedi arwain ar y defnydd o ddulliau in situ i bennu strwythur catalyddion yn ystod adweithiau a thrwy ddefnyddio sbectrosgopeg Raman dangosodd bwysigrwydd allweddol ffosffad fanadiwm amorffaidd mewn ocsidiad biwtan.

Mae wedi arloesi ym maes catalyddu heterogenaidd enantioddetholus drwy ddefnyddio cymhlygion a ataliwyd trwy electrostateg gan gynnig dull cyffredinol i ddylunio catalyddion sefydlog dethol, ac mae wedi cymhwyso hyn er mwyn dangos bod adweithiau enantioddetholus yn gallu digwydd ar y rhyngwyneb nwy-soled heb doddydd, gan gynnig defnydd hawdd o'r prosesau cymhleth hyn.

Yr Athro John Pearce FRS

Yr Athro John Pearce
Yr Athro John Pearce

Yr Ysgol Seicoleg

Mae gwaith rhagorol yr Athro Pearce wedi cyfrannu at yr astudiaeth o fecanweithiau sylfaenol deallusrwydd anifeiliaid.

Mae'r Athro Pierce yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei gyfraniad at astudio dysgu a chyflyru cysylltiadol mewn anifeiliaid.

Yn 2009 derbyniodd yr Athro Pierce Wobr Ymchwil nodedig Humboldt.

Rhoddir y Wobr hon i 100 o academyddion yn unig bob blwyddyn, i gydnabod eu holl gyflawniadau hyd yma.

Sir Martin John Evans, FRS

Yr Athro Syr Martin Evans
Yr Athro Syr Martin Evans

Athro Emeritws, Ysgol y Biowyddorau

Penderfynodd Syr Martin John Evans ar yrfa yn astudio rheolaeth enetig datblygiad fertebraidd. Yn dilyn ei waith PhD cynnar, aeth ati i edrych ar sut y defnyddir bôn-gelloedd teratocarcinoma llygod mewn systemau meithrin meinweoedd. Roedd y cyntaf i gynnal y celloedd hyn mewn meinweoedd o dan amodau lle gellir gwahaniaethu rhyngddynt ar unrhyw adeg.

Fe wnaeth ei ddatblygiadau sylfaenol greu llwybrau newydd ar gyfer geneteg mamalaidd arbrofol ac o ganlyniad genomeg weithredol.  Mae Syr Martin, wnaeth ddod i Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd yn 1999, wedi bod yn cymryd mantais o ddulliau 'gene knockout' a 'gene trap' ar gyfer darganfyddiadau unigryw ac i greu dulliau anifeiliaid ar gyfer clefydau dynol.

Mae Syr Martin wedi cyhoeddi dros 120 o bapurau gwyddonol. Fe'i etholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1993 ac mae'n Gymrawd Sefydlu'r Academi Gwyddorau Meddygol. Enillodd Gymrodoriaeth Walter Cottman a Gwobr William Bate Hardy yn 2003 ac yn 2001 dyfarnwyd iddo Fedal Albert Lasker ar gyfer Ymchwil Meddygol Sylfaenol yn UDA. Yn 2002 dyfarnwyd Doethur Er Anrhydedd iddo gan Ysgol Meddygaeth Mount Sinai yn Efrog Newydd, a ystyrir yn un o brif ganolfannau hyfforddiant meddygol a gwyddonol y byd.

Fe'i ddyrchafwyd yn farchog yn 2004 am ei wasanaethau i wyddoniaeth feddygol ac yn 2009 dyfarnwyd Medal Aur y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol iddo i gydnabod ei gyfraniad gwerthfawr i feddygaeth.

Yr Athro Graham McWhirter, FRS

Yr Athro John Graham McWhirter
Yr Athro John Graham McWhirter

Athro Ymchwil Nodedig, yr Ysgol Peirianneg

Mae'r Athro John Graham McWhirter wedi ymchwilio amrywiaeth eang o bynciau; o dechnegau mathemategol gwreiddiol i gyfrifiadura cyfochrog a dynio VLSI. Mae wedi ennill cydnabyddiaeth rhyngwladol am ei waith am ddylunio proseswyr systolig aräe ac yn arbennig o enwog am ddyfeisio'r aräe QR trionglog ar gyfer prosesau addasol o ganfod signal, ac mae’r broses hon wedi’i henwi ar ei ôl.

Mae hefyd wedi dyfeisio’r algorithm QR rhwyllog ar sail dull dadansoddi sgwariau lleiaf ar gyfer hidlo addasol. Ar ben hynny, mae wedi dylunio casgliad systolig lled-gudd ar lefel didau ar gyfer hidlo IIR ar sail systemau rhifau diangen, yn ogystal â datblygu a hyrwyddo’r cysyniad o Beirianneg Algorithmig.

Roedd yn un o sylfaenwyr cyntaf yr is-grŵp proffesiynol IEE ar gyfer prosesu arwyddion (E5) ac ennillodd y JJ Thompson Premium yn 1990 am ei bapur ar....  Yn 1994 enillodd Fedal JJ Thompson wrth yr IEE am ei ymchwil am Araeau Systolig a Mathemaeg mewn Prosesu Arwyddion. Etholwyd ef yn aelod o Gyngor yr IMA yn 1995 a gwasanaethodd fel Arlywydd yn 2002 a 2003.

Bu'r Athro John Graham McWhirter yn Athro Gwadd Anrhydeddus Peirianneg Drydanol ym Mhrifysgol Caerdydd ers 1998.

Yr Athro Richard Catlow FRS

Richard Catlow
Yr Athro Richard Catlow

Ysgol Cemeg

Mae gwaith yr Athro Catlow yn defnyddio cyfuniad pwerus o dechnegau cyfrifiadurol ac arbrofol i ymchwilio i ystod eang o broblemau heriol mewn cemeg deunyddiau.

Mae wedi derbyn rhestr nodedig o wobrau ac anrhydeddau ac mae’n un o’r gwyddonwyr blaenllaw yn ei faes, gydag enw da rhagorol am ymchwil arloesol o’r radd flaenaf yn rhyngwladol.

Mae ei ymchwil yn canolbwyntio’n gryf ar ragfynegi mecanweithiau ymateb mewn catalysis heterogenaidd, rhagfynegi strwythurau crisial a nano-ronynnau, a thaflu goleuni ar fecanweithiau tyfu a niwcleiddio crisial. Mae’n manteisio ar dechnolegau cyfrifiadura perfformiad uchel, wedi’u cyfuno ag astudiaethau arbrofol yn defnyddio technegau ymbelydredd syncrotron, i ymchwilio i strwythurau, priodweddau ac adweithiant deunyddiau cymhleth.

Yr Athro John Pickett CBE, FRS

Yr Athro John Pickett

Ysgol Cemeg

Mae ymchwil yr Athro Pickett ym maes ecoleg gemegol wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wella sut y rheolir plâu a chynaliadwyedd amaethyddol.

Mewn gyrfa hir a nodedig, mae wedi datblygu offeryniaeth arloesol i fonitro systemau signalau pryfed (semiocemegol) a thechnegau sbectrometreg màs uwch i nodi a mesur y cyfansoddion hyn. Cafodd ei waith ar gymhwyso technegau agronomeg i wella cynhyrchedd cnydau yn Affrica Wobr nodedig Wolfe ar gyfer Amaethyddiaeth yn 2008.

Mae ei gyfraniadau hefyd wedi’u cydnabod mewn cyfres o anrhydeddau a gwobrau eraill, gan gynnwys Gwobr Rank ar gyfer Maeth a Hwsmonaeth Cnydau yn 1995, aelodaeth o’r Deutsche Akademie der Naturforscher Leopoldina yn 2001, a Medal y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ecoleg Gemegol yn 2002. Yn 2004, cafodd CBE am ei wasanaethau ym maes cemeg fiolegol.

Dr Polina Prokopovich

Dr Polina Prokopovich
Dr Polina Prokopovich

Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Mae ymchwil Dr Polina Prokopovich yn canolbwyntio ar ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer clefydau cyhyrysgerbydol megis osteoarthritis a chlefydau heintus. Mae ei gwybodaeth am gemeg arwyneb a materol a nanodechnoleg wedi arwain at Drosglwyddo Gwybodaeth a thwf busnes yn sgîl cyfres o brosiectau a ariennir: KESS (Eurogine), KESS (Markes International), Prosiect TSB (Airbus) ac yn sgîl prosiect Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy (ASTUTE). Hefyd, yn sgîl cyfraniad Polina i’r gwaith o adnewyddu’r Ganolfan Biofecaneg a Biobeirianneg yn 2016, cryfhawyd proffil rhyngwladol ymchwil orthopedig Prifysgol Caerdydd, gan wella dealltwriaeth y cyhoedd a chleifion o'r ymchwil hon yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r ymchwil yn ei labordy yn amlddisgyblaethol ei natur ac yn amrywio o synthesis polymerau, cynhyrchu nanostrwythurau, llunio a darparu cyffuriau, microfioleg gymhwysol a gwyddoniaeth deunyddiau. Mae hi wedi arloesi o ran datblygu fformwleiddiadau sment esgyrn nanogyfansawdd newydd sy’n gosod cymalau newydd yn gyfan gwbl â sment, a haenau swyddogaethol ar gyfer dyfeisiau heb sment i atal a thrin heintiau yn ogystal ag atal osteolysis. Yn ddiweddar, dilyswyd effeithiolrwydd a diogelwch un o’r nanodechnologau hyn in vivo mewn cydweithrediad â chydweithwyr clinigol yn y DU a thramor. Mae'r dechnoleg hon ar hyn o bryd yn symud yn ei blaen i gael ei dilysu’n gyn-glinigol, a hynny drwy fod yn astudiaeth glinigol cam 1 mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr blaenllaw o Brifysgol Campinas, Brasil.

Syr John Meurig Thomas FLSW, FRS

Syr John Meurig Thomas
Syr John Meurig Thomas

Athro Anrhydeddus, Yr Ysgol Cemeg

Yn anffodus, bu farw’r Syr John Meurig Thomas yn 2020. Mae ysgrif goffa ar gael yma.

Mae llawer o waith Syr John Meurig Thomas yn ymwneud â chreu catalyddion newydd solet a cheisio deall strwythur a gweithgareddau'r rhai presennol. Mae'n gwneud hyn drwy ddefnyddio technegau fel amsugno Pelydr X, Sbectrosgopeg a Microsgopeg Electron trosglwyddo cydraniad uchel.  Ef yw'r un o'r awduron a ddyfynnwyd fwyaf ym maes catalysis heterogenaidd. Cafodd y mwyn yr enw 'meurigite' yn deyrnged iddo.

Yn 1991 cafodd ei urddo'n farchog am ei "wasanaethau i gemeg" a'i waith yn "hybu poblogrwydd gwyddoniaeth". Yn y blynyddoedd diwethaf mae e wedi canolbwyntio ar ddylunio catalyddion 'gwyrdd' ar gyfer technoleg "lân". Mae e hefyd wedi datblygu ffyrdd o astudio catalyddion yn eu safle gwreiddiol.

Yn 1999 cafodd ei ethol yn Gymrawd Anrhyeddus yr Academi Beirianneg Frenhinol am waith "sydd wedi ychwanegu'n sylweddol at sylfaen wyddonol catalysis heterogenaidd yn arwain at fanteisio masnachol 'zeolites' drwy brosesau peirianyddol." Mae e hefyd yn Athro Nodedig Anrhydeddus Cemeg Deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yr Athro Peter Wells CBE, FRS

Yr Athro Peter Wells
Yr Athro Peter Wells

Athro Ymchwil Nodedig, Ysgol Peirianneg Caerdydd

Yn anffodus, bu farw’r Athro Peter Wells ar 22 Ebrill 2017. Mae ysgrif goffa ar gael yma.

Mae'r Athro Wells yn nodedig am ei gyfraniadau i'r defnydd o beirianneg a ffiseg mewn meddygaeth.

Yn benodol, ef yw cychwynnwr a datblygwr offerynnau ar gyfer llawfeddygaeth uwchsonig, mesur pŵer uwchsonig a gwelliannau technolegol eraill mewn gofal iechyd.

Mae wedi ymchwilio i fioeffeithiau uwchsonig a lluniodd ganllawiau diogelwch uwchsonig ac amodau ar gyfer defnydd synhwyrol o ddiagnosis uwchsonig.

Mae wedi arwain astudiaethau amlddisgyblaethol ar ddiagnosis uwchsonig yn ogystal â gwneud cyfraniadau pwysig i feysydd cysylltiedig eraill. Cynigiodd athroniaeth newydd ar gyfer ddelweddu meddygol, ac mae bellach yn gweithio ar dechnegau delweddu uwchsonig newydd.

Mae'n un o bedwar unigolyn yn unig sy'n Gymrawd y tair academi gwyddoniaeth genedlaethol yn y DU: y Gymdeithas Frenhinol, Academi Frenhinol Peirianneg ac Academi'r Gwyddorau Meddygol. Fe'i penodwyd yn CBE yn 2009 am ei wasanaeth i wyddor gofal iechyd.

Yr Athro Jamie Rossjohn FAA FAHMS FLSW FMedSci FRS

Cardiff University scientist Professor Jamie Rossjohn FRS elected to The Royal Society

Yr Ysgol Meddygaeth

Mae'r Athro Jamie Rossjohn yn adnabyddus am ei gyfraniadau at ddeall y sail foleciwlaidd sy'n sail i imiwnedd.

Mae wedi defnyddio bioleg strwythurol i egluro hunangysylltiad derbynnydd cyn-gell (TCR) mewn datblygiad celloedd-T, a sut mae'r TCR yn cydnabod moleciwlau Antigen Leukocyte Dynol polymorffig yn benodol yng nghyd-destun imiwnedd firaol ac adweithedd celloedd-T aberrant.

Mae wedi datgelu mecanweithiau strwythurol polymorffiaeth HLA sy'n effeithio ar orsensitifrwydd cyffuriau a bwyd, yn ogystal â chydnabyddiaeth derbynnydd celloedd Killer Naturiol.

Mae wedi arloesi ein dealltwriaeth foleciwlaidd o imiwnedd sy'n seiliedig ar lipidau gan gelloedd T, gan ddatgelu y gall fod yn sylfaenol wahanol i imiwnedd addasol wedi'i gyfryngu peptid.

Yn ddiweddar, mae wedi darparu sylfaen strwythurol o sut y gellir cyflwyno a chydnabod metabolau fitamin B gan y system imiwnedd, gan ddatgelu dosbarth newydd o antigen.

Gyda'i gilydd, mae wedi cyhoeddi 465 o bapurau ac wedi mentora nifer o ymchwilwyr tuag at ennill graddau uwch a chymrodoriaethau sy'n gystadleuol yn genedlaethol.