Ewch i’r prif gynnwys

Enillwyr Gwobrau Nobel

Bob blwyddyn ers 1901 mae Gwobr Nobel wedi'i dyfarnu am gyflawniadau mewn ffiseg, cemeg, ffisioleg neu feddygaeth, llenyddiaeth ac am heddwch.

Gwobr ryngwladol yw Gwobr Nobel sy'n cael ei gweinyddu gan Sefydliad Nobel yn Stokholm, Sweden.

Yr Athro Syr Martin Evans

Yr Athro Syr Martin Evans
Yr Athro Syr Martin Evans

Gwobr Nobel am Feddygaeth

Yn 2007 dyfarnwyd Gwobr Nobel mewn Meddygaeth i'r Athro Syr Martin Evans o'r Ysgol Biowyddorau am gyfres o ddarganfyddiadau arloesol am fôn-gelloedd embryonig ac ail-gyfuno DNA mewn mamaliaid.

Syr Martin oedd y gwyddonydd cyntaf i ganfod bôn-gelloedd embryonig, y gellir eu haddasu at amrywiaeth o ddibenion meddygol. Mae ei ddarganfyddiadau nawr yn cael eu defnyddio yn y mwyafrif llethol o feysydd biofeddygol - o ymchwil sylfaenol i ddatblygu therapïau newydd.

Penodwyd yr Athro Syr Martin Evans yn llywydd y Brifysgol yn 2009 a daeth yn Ganghellor arni yn 2012. Bu yn y rôl am wyth mlynedd cyn rhoi'r gorau i'w rôl ym mis Mawrth 2017.

Rhagor o wybodaeth am Syr Martin Evans a'i wobr Nobel.

Yr Athro Robert Huber

Yr Athro Robert Huber
Yr Athro Robert Huber

Gwobr Nobel mewn Cemeg

Dyfarnwyd Gwobr Nobel mewn Cemeg i'r Athro Robert Huber ym 1988 am bennu strwythur tri dimensiwn canolfan adweithio ffotosynthetig.

Roedd yn un o dri a enillodd am fod y cyntaf i lwyddo i ddatrys manylion llawn ynghylch y modd y caiff protein sy'n rhwym â philen ei adeiladu, gan ddatgelu strwythur y moleciwl atom wrth atom.

Ymunodd yr Athro Huber â'r Brifysgol yn 2007 i arwain y gwaith o ddatblygu Bioleg Gemegol yng Nghaerdydd yn rhan amser – menter ar y cyd rhwng yr Ysgolion Cemeg a Biowyddorau.