Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Mae gennym gyfleuster tomograffeg gollwng positronau (PET) cyfoes sy’n werth miliynau o bunnoedd, sef y cyntaf o’r fath yng Nghymru.

Rydym yn cynnig gwasanaeth clinigol i GIG Cymru, gwasanaeth preifat i gleifion i’r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal iechyd preifat, sganiau ymchwil i ganolfan aml-driniaeth a threialon masnachol ac ymchwil gyn glinigol a radiogemegol.

Defnyddir ein cyfleusterau i ddiagnosio ystod o glefydau (canser yn benodol) a monitro cynnydd trin ac adferiad. Maent hefyd yn helpu i symleiddio a gwella’r broses o ganfod meddyginiaethau newydd.

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys:

  • cyclotron
  • cyfleuster gweithgynhyrchu radiofferyllol arfer gweithgynhyrchu da (GMP)
  • labordy rheoli ansawdd GMP gydag ystod eang o offer dadansoddol.

Dysgwch fwy am ein hoffer ymchwil.

Gwybodaeth am domograffeg gollwng positronau

Mae tomograffeg gollwng positronau’n dechneg delweddu gweithredol, meddyginiaeth niwclear,  sy’n creu delwedd tri dimensiwn o brosesau gweithredol y corff.

Cyflwynir cyffur gyda radioniwcliad sy’n allyrru positronau (radiofferyllol) i’r corff ac mae’r sganiwr PET yn canfod y parau o belydrau gamma pan allyrrir y positron gan y radioniwcliad.

Yna defnyddir y pelydrau gamma i gynhyrchu delwedd weithredol tri dimensiwn o’r crynodiad radiofferyllol yn y corff. Ceir gwybodaeth anatomegol ar yr un adeg gan ddefnyddio sganiwr tomograffeg gyfrifiadurol (CT). Drwy gyfuno’r ddelwedd PET weithredol â’r ddelwedd CT anatomegol crëir delwedd PET/CT gyfunol.