Ewch i’r prif gynnwys

Maeth a phobl sy’n ddifrifol wael (ar-lein)

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn un o gyfres o bump gan y tîm Gofal Critigol yn yr Ysgol Meddygaeth.

Nod y cwrs hwn yw darparu tystiolaeth a chyngor i chi ynghylch maeth a phobl sy'n ddifrifol wael.

Cwrs dysgu hunangyfeiriedig yw hwn, sy'n cynnwys tua 7-10 awr o astudio. Bydd y cynnwys ar gael trwy'r wythnos i chi weithio drwyddo yn eich amser eich hun. Bydd yn cynnwys elfen fyw gan y tîm Gofal Critigol ddydd Llun.

Bydd dydd Llun yn cynnwys sesiwn ragarweiniol fyw gan y tîm Gofal Critigol (10:00), sy'n ddewisol.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
17 Mehefin 2024 17, 18, 19, 20, 21 Mehefin 2024
Ffi
£60

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn gofalu am faeth cleifion sy’n ddifrifol wael.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Ar ôl i chi gwblhau hyn, byddwch yn deall:

  • canllawiau sy'n llywio maethiad y rhai sy'n ddifrifol wael
  • anthropometreg mewn gofal critigol
  • biocemeg faethol ac abnormaleddau maethol cyffredin mewn salwch critigol
  • ymateb metabolaidd i salwch difrifol
  • swyddogaeth GI a llwybrau bwydo
  • amcangyfrif gofynion egni a phrotein
  • maeth a rheolaeth fferyllol yn y rhai sy’n ddifrifol wael

Byddwch yn ennill dealltwriaeth o’r heriau a’r anghenion maeth y mae cleifion sy'n ddifrifol wael yn eu cael, ac yn ystyried dulliau er mwyn gwella maeth y rheiny sy'n ddifrifol wael.

Manteision

Byddwch yn ennill dealltwriaeth o’r heriau a’r anghenion maeth y mae cleifion sy'n ddifrifol wael yn eu cael, ac yn ystyried dulliau er mwyn gwella maeth y rheiny sy'n ddifrifol wael.

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio'n benodol i'w gyflwyno’n gwbl rithwir; byddwch yn elwa ar sesiynau dan arweiniad tiwtoriaid, sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw ac ymarferion rhyngweithiol.

Anogir trafodaeth er mwyn i chi gael y cyfle i rwydweithio a chyfnewid syniadau gyda'ch cyfoedion.

Rydym wedi cyfyngu ar nifer y lleoedd er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu gorau posibl.

Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau TG drwy gydol y cwrs.

Dull cyflwyno

Cynhelir y cwrs ar-lein hwn drwy blatfform dysgu'r Brifysgol (Dysgu Canolog); mae'r cwrs yn cynnwys cyflwyniadau wedi'u recordio a chyfryngau clywedol eraill, testunau ysgrifenedig, canllawiau, deunydd darllen a argymhellir, a dolenni gwe.

Bydd tîm y modiwl ar gael i roi cymorth ac arweiniad trwy’r fforymau trafod. Byddan nhw hefyd yn cynnal gweminar cyflwyniadol byw.

Asesu

Byddwch yn dangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth drwy fyfyrio personol a thasgau ar-lein yn neunyddiau’r cwrs.

Mae hwn yn un o gyfres o bum cwrs DPP ar-lein mewn Gofal Critigol.