Newydd: Cyrsiau ar-lein Gofal Critigol
18 Rhagfyr 2023
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod cyrsiau Gofal Critigol yr Ysgol Meddygaeth yn ôl ar gyfer 2024 – gyda chwrs newydd sbon ar faeth yn rhan o’r rhaglen!
Mae'r gyfres o gyrsiau'n cynnwys Adsefydlu Cleifion Difrifol Wael, Sepsis, Obstetreg, Rhoi Organau a Maeth. Mae'r cyrsiau’n addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio ym maes gofal critigol. Cyrsiau dysgu hunangyfeiriedig yw’r rhain sy'n gofyn tua 7-10 awr o astudio yr un. Bydd y cynnwys ar gael trwy'r wythnos i chi weithio drwyddo yn eich amser eich hun. Bydd pob cwrs yn cynnwys elfen fyw gan y tîm Gofal Critigol.
Maeth a phobl sy’n ddifrifol wael (ar-lein)
Nod y cwrs hwn yw darparu tystiolaeth a chyngor i chi ynghylch maeth a phobl sy'n ddifrifol wael.
Ffi’r cwrs: £60
Gofalu am Gleifion Obstetrig sy’n ddifrifol wael (ar-lein)
Mae gofal ar gyfer y grŵp hwn o gleifion yn gymhleth, ac mae nifer yr achosion yn cynyddu; canfu astudiaeth ddiweddar fod angen gofal critigol lefel 3 ar 10% o fenywod beichiog yn ystod y don gyntaf o COVID-19, a nododd y GIG yn y DU fod 20% o’r bobl a gafodd eu derbyn i’r ysbyty i gael gofal critigol oherwydd COVID-19 yn fenywod beichiog heb eu brechu (Hydref 2021).
Ffi’r cwrs: £60
Adsefydlu cleifion difrifol wael (ar-lein)
Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i ofalu am gleifion sydd wedi bod yn ddifrifol wael.
Ffi’r cwrs: £60
Cyflwyniad i roi organau (ar-lein)
Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i roi organau ac mae'n cynnwys pynciau fel cydsyniad, fframweithiau cyfreithiol a moesegol, ac arfer gorau.
Ffi’r cwrs: £60
Cyflwyniad i sepsis (ar-lein)
Mae'r cwrs hwn yn archwilio sepsis, gan gynnwys arwyddion a symptomau, sgrinio, a chanllawiau ar gyfer ei reoli.
Ffi’r cwrs: £60
Os hoffech drafod sut y gallwn weithio gyda’ch sefydliad i ddarparu cyfleoedd DPP, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar: