Ewch i’r prif gynnwys

Dosbarth Meistr mewn Gofal Lliniarol

Cyflwynir gan Dr Fiona Rawlinson, Prifysgol Caerdydd a Dr Mary Miller, Sobell House, Rhydychen. Mae'n seiliedig ar Gwrs Uwch Rhydychen mewn Rheoli Poen a Symptomau.

Ers dros ddeng mlynedd ar hugain, mae gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes gofal lliniarol ar draws y byd, wedi diweddaru ac ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau drwy fynd i Gwrs Uwch Rhydychen mewn Rheoli Poen a Symptomau. Nawr, mewn partneriaeth â Hosbis Sobell House yn Rhydychen, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal ei Dosbarth Meistr un diwrnod cyntaf yn seiliedig ar y Cwrs hwn.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae’r cwrs un diwrnod aml-broffesiwn hwn yn berffaith ar gyfer meddygon a nyrsys profiadol sy’n gweithio ym maes Gofal Lliniarol neu sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau yn y maes.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • rhagor o wybodaeth a hyder wrth ofalu am gleifion sydd ag anghenion gofal lliniarol
  • adnoddau er mwyn parhau i ddysgu ac addasu’r addysg ar waith
  • deall beth sy’n peryglu ‘arfer da’ a meincnodi eich hun yn erbyn eich cymheiriaid
  • symbyliad, amser i feddwl a myfyrio
  • y cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr a chymheiriaid

Pynciau dan sylw

Bydd y diwrnod yn ymdrin â’r canlynol:

  • cleifion gofal lliniarol a chlefyd yr afu
  • rheoli poen niwropathig
  • diweddariad ar beswch
  • pytiau o ddiddordeb ar gyfer ymarfer (detholiadau o Gwrs Uwch Rhydychen mewn Rheoli Poen a Symptomau 2019)
  • darlith Caerdydd: C'ydadwaith rhwng anorecsia, canser cachexia a thriniaeth’ - Yr Athro Anthony Byrne

Manteision

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd a Sobell House ac mae’n cyflwyno’r arbenigedd a’r datblygiadau diweddaraf. Bydd yr addysg yn gwella ymarfer clinigol.

Lleoliad

Adeilad Morgannwg
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rydym yn cynnal rhaglen dysgu gyfunol MSc Meddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.