Ewch i’r prif gynnwys

Arwain Sefydliad Dwyieithog (cwrs pwrpasol)

Mae Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd wedi cyd-ddatblygu gweithdy dau ddiwrnod o hyd i gyflwyno prif themâu a chysyniadau sy'n ymwneud ag arwain sefydliad dwyieithog. Y ddwy ysgol fydd yn cyd-gyflwyno’r gweithdy hwn.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhaglen bwrpasol ar gyfer cwmnïau a sefydliadau yn unig. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

Dr Sarah Hurlow (ymddygiadau arwain), Richard Strudwick (Cyfathrebu), a Dylan Foster Evans fydd eich hyfforddwyr.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

Unrhyw arweinwyr neu reolwyr o fewn sefydliadau cyhoeddus, preifat neu drydydd sector. Hefyd y rhai hynny sy'n gyfrifol am hyrwyddo'r Gymraeg, neu sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg mewn sefydliad neu adran.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • pwysigrwydd cyd-destun y Gymraeg ar gyfer pob sefydliad yng Nghymru
  • sut mae cyfathrebu'n gweithio ac edrych ar rinweddau personol cyfathrebu'n effeithiol ar draws grwpiau iaith
  • arferion gorau a strategaethau ymarferol ar gyfer cyfathrebu mewn timau Saesneg-Cymraeg
  • cyflwyniad i sosioieithyddiaeth, cyfathrebu proffesiynol, ymwybyddiaeth iaith feirniadol, a rôl bosibl hunaniaethau diwylliannau wrth gyfathrebu mewn cyd-destun proffesiynol
  • sut gall arweinwyr ddod yn fwy hunanymwybodol a deall sut mae eu hymddygiad arwain yn effeithio ar eraill
  • yr ymddygiadau arwain sydd eu hangen i gael effaith cadarnhaol ar ddwyieithrwydd yn y gweithle

Pynciau dan sylw

  • dwyieithrwydd ac ymddygiadau arwain
  • cyfathrebu'n Effeithiol
  • rôl diwylliant ac iaith
  • y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Manteision

  • cewch ddealltwriaeth dreiddgar o elfennau sy’n ymwneud ag arwain, cyfathrebu, a'r iaith Gymraeg gan yr adran Gymraeg hynaf yng Nghymru ac un o'r ysgolion busnes gorau yn y DU (yn y chweched safle ar hyn o bryd o ran ansawdd ymchwil ymhlith 101 o ysgolion busnes yn y DU)
  • byddwch yn cynyddu eich hunanymwybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o sut mae ymddygiad arwain yn effeithio ar eraill
  • byddwch yn ehangu eich persbectif o'r Gymraeg drwy ymchwilio i faterion yng nghyd-destun sefyllfaoedd dwyieithog bywyd go iawn, yn y gweithle, gyda'r teulu ac yn y gymuned
  • cewch y cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp myfyriol wedi'u hwyluso er mwyn rhannu arferion gorau a strategaethau ymarferol ar gyfer cyfathrebu mewn timau Saesneg-Cymraeg

Lleoliad

Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd
Colum Road
Caerdydd
CF10 3EU