Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Ysgythru ar gyfer Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion

Bydd y cwrs hwn yn darparu gwybodaeth, neu’n gwella gwybodaeth ynghylch ysgythru ar gyfer gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion.

Bydd yn canolbwyntio ar ddeall y theori o sut mae ysgythru yn gweithio, a darparu cyfranogwyr y cwrs â gwybodaeth eang am ysgythru yn y broses gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

  • gweithwyr y clwstwr CSconnected a'u partneriaid cadwyn gyflenwi
  • y rhai sy'n gweithio yn y sector lled-ddargludyddion yn fyd-eang sy'n dymuno uwchsgilio eu gwybodaeth am ysgythru
  • y rhai sydd am ailhyfforddi i'r diwydiant lled-ddargludyddion
  • myfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar sy'n anelu i weithio yn y sector gyda’r sgiliau perthnasol
  • unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn trosolwg o ysgythru sy'n berthnasol i weithgynhyrchu lled-ddargludyddion

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol i’r cwrs hwn. Fodd bynnag, nodwch, mae’r elfen wyddonol wedi ei gosod ar lefel debyg i safon Lefel A, felly er mwyn cael y profiad gorau o’r cwrs, rydym yn cynghori y dylai cyfranogwyr fod ag ychydig o wybodaeth gefndirol a dealltwriaeth o ffiseg/gwyddoniaeth neu beirianneg.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Erbyn diwedd y cwrs 2 ddiwrnod hwn, bydd dysgwyr yn gallu:

  • egluro beth yw ysgythru a’i swyddogaeth yn y broses gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion
  • disgrifio lithograffeg a beth yw ei rhan yn y broses ysgythru
  • disgrifio sut mae ysgythru gwlyb a sych yn gweithio, eu tebygrwydd, eu gwahaniaethau, a’u manteision ac anfanteision
  • disgrifio’r prosesau ysgythru gwahanol, a gwybod ym mha sefyllfa y defnyddir pob proses ysgythru ar gyfer gwneuthuriad dyfais
  • deall prif derminoleg a pharamedrau’r broses ysgythru, a deall sut mae newid y paramedrau yn effeithio ar y broses ysgythru, yn dylanwadu ar berfformiadau’r dyfeisiau lled-ddargludo
  • deall pwysigrwydd ymdrin â’r cemegion a ddefnyddir yn y broses ysgythru yn ddiogel
  • gwerthfawrogi’r cymwysiadau presennol ac ar gyfer y dyfodol ar gyfer ysgythru, ac egluro sut mae’r ymarfer hwn yn cyfrannu at ddatblygu technolegau lled-ddargludo newydd, sy’n cynorthwyo i fynd i’r afael â heriau’r byd modern.

Manteision

Datblygwyd y cwrs hwn gan y Brifysgol mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant o'r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru a'r cyffiniau yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio cyllid a ddarparwyd gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.

Rhagor o wybodaeth

Mae hwn yn gwrs 2 ddiwrnod wyneb yn wyneb, a fydd yn cael ei gyflwyno drwy gyfres o gyflwyniadau, trafodaethau a gweithgareddau ymgysylltiol. Bydd y rhai sy’n cwblhau’r hyfforddiant yn derbyn Tystysgrif CPD.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb yn CSA Casnewydd.

Mae Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Prifysgol Caerdydd yn rheoli trefniant y cwrs hwn.

Arweinwyr y cwrs

Dr Daniel Wang, Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd (ICS)

Dr  Naresh Gunasekar, Grŵp Mater Cyddwysedig a Ffotoneg, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Cyllid sydd ar gael

Ar gyfer unigolion

  • ReAct+ - hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant sgiliau perthnasol i'r rhai 18+ sy'n byw yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd ffurfiol o ddiswyddiad. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma

Ar gyfer sefydliadau

  • Cyllid y Rhaglen Sgiliau Hyblyg – hyd at 50% o gymorth ariannol i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Am fanylion, cliciwch yma
  • ReAct+ - hyd at £1,000 ar gyfer hyfforddiant sgiliau sy'n gysylltiedig â swydd wrth recriwtio rhywun 18+ sy'n preswylio yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd diswyddo ffurfiol. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma

Lleoliad

CS² Man Cymunedol CSconnected
Canolfan Arloesedd, Celtic Way
Parc Imperial
Casnewydd
NP10 8BE
Dewch i gael gwybod am y gyfres newydd o gyrsiau byr a gynlluniwyd i gefnogi anghenion DPP CSconnected, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru