Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ar lein)

Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn darparu (neu'n gwella) gwybodaeth am dechnoleg ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a'i chymwysiadau.

Mae hwn yn gwrs ar-lein y gallwch ei wneud yn eich amser eich hun. Bydd yr hyfforddiant yn cymryd tua 3.5 awr i'w gwblhau.

Bydd yn cael ei gyflwyno trwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein a rhyngweithiol megis fideos byr ac ymarferion i brofi eich gwybodaeth.

Sylwer: Dim ond gyda cherdyn credyd y gallwn dderbyn taliad ar gyfer y cwrs hwn.

Dr Daryl Beggs, Darlithydd, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth fydd eich hyfforddwr.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

  • y rhai sy'n gweithio yn y sector lled-ddargludyddion sy'n dymuno uwchsgilio eu gwybodaeth am ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • gweithwyr y clwstwr CSconnected a'u partneriaid cadwyn gyflenwi
  • y rhai sydd am ailhyfforddi i'r sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • y rhai sy’n cefnogi’r sector – fel gweithwyr y sector cyhoeddus, athrawon ysgol uwchradd/Colegau AB/cynghorwyr gyrfaoedd/ dylanwadwyr ieuenctid

Myfyrwyr lefel A a lefel israddedig sy'n astudio pynciau gwyddonol a allai fod â diddordeb mewn gyrfa yn y sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd

At ba lefel mae'r cwrs wedi'i anelu?

Mae hwn yn gwrs lefel rhagarweiniol a allai fod yn addas ar gyfer pobl o ystod eang o gefndiroedd.

Mae'r elfen wyddoniaeth wedi'i hanelu at safon Lefel A, felly i gael y profiad gorau o'r cwrs rydym yn cynghori bod gan gyfranogwyr rywfaint o wybodaeth gefndir a dealltwriaeth sylfaenol o ffiseg / gwyddoniaeth neu beirianneg. Er enghraifft, byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth sylfaenol am atomau ac electronau.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ddeunyddiau hanfodol ar gyfer technolegau modern a newydd fel 5G, ceir heb yrwyr, Rhyngrwyd Pethau (IoT), a Deallusrwydd Artiffisial (AI). Mae ganddynt hefyd ran allweddol i'w chwarae wrth helpu i fynd i'r afael â rhai o heriau'r byd modern, gan gynnwys cynaliadwyedd a'r agenda sero net.

Efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â Silicon, a fu’n asgwrn cefn i’r chwyldro electroneg o’r 1960au. Gan ei fod yn elfen sengl o'r tabl cyfnodol, mae gan Silicon set gyfyngedig o briodweddau. Mae gan Led-ddargludyddion Cyfansawdd briodweddau gwell na Silicon, gan alluogi llawer o dechnolegau a dyfeisiau newydd ac arloesol megis:

  • Pŵer (electroneg pŵer ar gyfer cerbydau trydan)
  • Cyflymder (amledd radio ar gyfer 5G a RADAR)
  • Golau (ffotoneg ar gyfer cyfathrebu ffibr optegol)

Erbyn diwedd y cwrs, dylai fod pawb yn gallu:

  • egluro beth yw ffotoneg a ble mae i'w gael mewn bywyd bob dydd
  • disgrifio, mewn termau syml, beth yw lled-ddargludyddion, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng lled-ddargludyddion elfennol (silicon) a lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • disgrifio, mewn termau syml, sut mae cylchedau integredig ffotonig yn cael eu gwneud
  • disgrifio, ar lefel sylfaenol, y technegau nano a micro-wneuthuriad a ddefnyddir i wneud dyfeisiau ffotoneg
  • deall, mewn termau syml, cymwysiadau lled-ddargludyddion a gwybod pa led-ddargludyddion sy'n briodol
  • gwerthfawrogi cymwysiadau'r farchnad bresennol ac yn y dyfodol ar gyfer sglodion ffotonig
  • egluro sut mae technoleg sglodion ffotonig yn cyfrannu at gymdeithas, at ddatblygiad technolegau newydd, ac yn helpu i fynd i'r afael â heriau'r byd modern

Pynciau dan sylw

  • ffotoneg silicon
  • ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • ffiseg syml y tu ôl i briodweddau lled-ddargludyddion
  • cylchedau integredig ffotonig (sglodion ffotonig), gan gynnwys:
    • waveguides
    • cyplyddion gratio
    • cyseinyddion
    • hidlyddion
    • switsys a modylyddion
    • ffowndrïau
  • datgelu geiriau/cysyniadau allweddol o'r sector

Dull cyflwyno

Mae hwn yn gwrs e-ddysgu y gellir ei gyrchu o bell yn eich amser eich hun. Mae'n tua. 3.5 awr oddeunyddiau ar-lein sydd wedi'u strwythuro'n adrannau sy'n cynnwys fideos byr a rhai gweithgareddau i brofi eich gwybodaeth. Mae yna hefyd Fwrdd Trafod lle gall cyfranogwyr ofyn cwestiynau i'r tiwtor ac eraill ar y cwrs.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant o’r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi’i leoli yn ac o amgylch De Cymru yn y Deyrnas Unedig.

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'w gwblhau yn eich amser eich hun ac ar gyflymder sy’n addas i chi. Nid oes elfen fyw ond byddwch yn cael cyfle i gysylltu â'r tiwtor arweiniol. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy blatfform dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu ebostio atoch ychydig ddyddiau cyn i'ch mynediad at y cwrs ddechrau.

Bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r cwrs am hyd at fis.

Bydd Tystysgrif Cwblhau DPP yn cael ei rhoi i ddysgwyr sy'n cyflawni 70% neu ragor yn y prawf ar ddiwedd y cwrs.

Arweinydd cwrs

Mae Dr Daryl Beggs yn Ddarlithydd yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd ac mae ganddi gefndir mewn ffotoneg silicon a chrisialau ffotonig.

Mae Daryl hefyd yn academydd yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd lle mae’n ymchwilio i rai o’r dewisiadau amgen i silicon, er mwyn sefydlu dulliau i gynhyrchu dyfeisiau ffotonig cwantwm mewn cylchedau integredig ffotonig lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Mae'r ICS yn arweinydd mewn ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn darparu llwyfan lle gall ymchwilwyr a diwydiant gydweithio.

Manteision

Datblygwyd y cwrs hwn gan y Brifysgol mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant o'r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru a'r cyffiniau yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio cyllid a ddarparwyd gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.

Mae pob cwrs yn gyflwyniad byr i’r meysydd allweddol yn niwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, ac sydd wedi'u cynllunio er mwyn i gyfranogwyr allu eu cwblhau pryd bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw. Cafodd y cyrsiau hyn eu creu drwy ymgynghori a gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau yng nghlwstwr CSconnected i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.

Dyluniwyd y cyrsiau hyn er mwyn:

  • uwch-sgilio’r gweithwyr hynny yn y diwydiant sydd am wella eu gwybodaeth ynghylch ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • helpu i ail-sgilio’r unigolion hynny sy’n dymuno ail-hyfforddi i ymuno â’r diwydiant, neu ddarparu gwybodaeth a chyd-destun i’r rhai sy’n cefnogi’r sector

Cyllid sydd ar gael

Ar gyfer unigolion

  • ReAct+ - hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant sgiliau perthnasol i'r rhai 18+ sy'n byw yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd ffurfiol o ddiswyddiad. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma

Ar gyfer sefydliadau

  • Cyllid y Rhaglen Sgiliau Hyblyg – hyd at 50% o gymorth ariannol i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Am fanylion, cliciwch yma
  • ReAct+ - hyd at £1,000 ar gyfer hyfforddiant sgiliau sy'n gysylltiedig â swydd wrth recriwtio rhywun 18+ sy'n preswylio yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd diswyddo ffurfiol. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma
Dewch i gael gwybod am y gyfres newydd o gyrsiau byr a gynlluniwyd i gefnogi anghenion DPP CSconnected, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru