Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain (Ar-lein)

Bydd y cwrs ar-lein hwn sy’n para chwe wythnos yn addysgu am Fwslimiaid ym Mhrydain a sut i ddeall ac edrych ar Islam o bersbectif cymdeithasegol yn y dosbarth addysg grefyddol (AG).

Bydd yn eich cyflwyno i bwysigrwydd profiadau go iawn o grefydd, hanfodion Islam fel traddodiad crefyddol, amrywiaeth hunaniaethau Mwslimiaid Prydeinig, a sut i ddefnyddio'r mathau gwahanol hyn o ddata ym maes AG.

Matt Vince fydd eich hyfforddwr.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

  • athrawon sy'n addysgu am Islam ar lefel Cynradd neu Uwchradd
  • athrawon all fod yn chwilio am gefnogaeth i ddatblygu cynllun gwaith am Islam a Mwslimiaid ar gyfer eu cwricwlwm AG
  • addysgwyr sy'n awyddus i wella eu gwybodaeth bwnc am Islam

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, dylai’r dysgwyr allu gwneud y canlynol:

  • disgrifio credoau ac arferion sylfaenol yn y traddodiad Islamaidd
  • deall ac egluro'r ffyrdd y mae Mwslimiaid yn deall ac yn ymarfer Islam mewn cyd-destun Prydeinig
  • deall agweddau ar hanes Mwslimiaid ym Mhrydain a sut mae hyn wedi siapio cymunedau Mwslimaidd cyfoes
  • defnyddio safbwynt disgyblaeth cymdeithasegol wrth fynd ati i addysgu, gan ddefnyddio cysyniadau sylfaenol a dulliau dadansoddi
  • ymgorffori'r syniadau hyn yn eich addysgu a dysgu yn y dosbarth

Pynciau dan sylw

  • sut allwn ni ddeall crefydd mewn cymdeithas?
  • beth mae Islam yn ei olygu i Fwslimiaid?
  • sut mae Mwslimiaid yn dilyn ffynonellau crefyddol doethineb ac awdurdod heddiw?
  • sut mae Mwslimiaid yn ymarfer eu crefydd?
  • beth yw hanes Mwslimiaid ym Mhrydain?
  • ble lleolir cymunedau Mwslimaidd?
  • beth yw mosg?
  • sut mae Mwslimiaid yn mynegi eu ffydd yn y celfyddydau?
  • sut mae Mwslimiaid ym Mhrydain yn profi Islamoffobia?

Offer

Ni fydd angen unrhyw offer arbenigol arnoch ond bydd rhaid i chi gael mynediad at gyfrifiadur gyda chyswllt da â'r rhyngrwyd.

Cyflwyniad

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein.

  • bydd dysgwyr yn defnyddio erthyglau wedi’u darlunio, fideos, cwisiau a fforwm trafod ar-lein
  • bydd gweminar byw bob wythnos ar bwnc penodol dan arweiniad arbenigwyr yn y maes, a chyfle i bostio cwestiynau cyn ac ar ôl y gweminar
  • cynhelir 2-3 sesiwn bob wythnos fydd yn cymryd tuag awr i'w cwblhau
  • bydd y fforwm ar-lein yn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i drafod cwestiynau â’i gilydd a thiwtor, heb amserlen gyfyngedig. Drwy 'awr swyddfa' rithiol, bydd tiwtor y cwrs yn ateb cwestiynau o fewn uchafswm o 72 awr
  • anogir y rhai sy’n cymryd rhan i ddefnyddio’r fforwm ar-lein i gyflwyno eu profiadau mewn mannau penodol yn y cwrs
  • mae disgwyl i'r cwrs bara 6 wythnos

Manteision

Mae'r cwrs wedi'i ddatblygu gan dîm yn y Ganolfan Islam-y DU, sy'n arbenigo mewn ymchwil cymdeithasegol yn archwilio Mwslimiaid ym Mhrydain, ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn meysydd eraill Astudiaethau Islamaidd.

Nid yw'r wybodaeth a gwmpesir yn y cwrs hwn ar gael yn gynhwysfawr o ffynonellau eraill ac mae'n arddangos safbwyntiau addysgeg cyfredol o fewn AG gan ddefnyddio ymagweddau disgyblaethol amrywiol. Mae'r dull hwn wedi'i gymeradwyo gan Gyngor Mwslimiaid Prydain, Cyngor Mwslimiaid Cymru ac RE Today, un o brif gyrff proffesiynol athrawon Addysg Grefyddol ym Mhrydain.

Ochr yn ochr â'r cwrs mae cynllun gwaith yn llawn adnoddau gan gynnwys PowerPoints i addysgu, cynlluniau gwersi, taflenni gwaith disgyblion ac adnoddau cysylltiedig eraill. Mae gan ddysgwyr hefyd fynediad at adnoddau llyfrgell Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â chasgliadau o adnoddau am ddim ar bob pwnc.

Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys cyfle i fyfyrio ar sut i ddefnyddio eich dysgu wrth addysgu AG.  Byddwch yn cael Tystysgrif ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i rwydweithio gydag athrawon AG eraill o bob rhan o'r DU, ac i rannu profiadau a syniadau.

Lawrlwythwch y gyfres hon o ddeunyddiau addysgu am Ddarganfod Mwslimiaid ym Mhrydain. Mae’r gyfres ar gael yn rhad ac am ddim a gallwch olygu’r deunyddiau.