Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau addysg rhad ac am ddim ar gyfer athrawon RE/RVE

12 Ionawr 2022

Muslims in Britain online course

Mae Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain: RE/RVE yn gyfres o adnoddau addysgu am ddim sy'n ymchwilio i sut beth yw bod yn Fwslim ym Mhrydain heddiw.

Mae'r adnoddau yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho, eu golygu a'u rhannu. Fe'u dyluniwyd er mwyn eu defnyddio ar y cyd â'r cwrs DPP ategol - sydd hefyd am ddim!

Cael gafael ar yr Adnoddau Addysgu a'u defnyddio

Er mwyn cael gafael ar yr adnoddau addysgu, llenwch yr arolwg byr hwn a byddwn yn anfon dolen atoch i gael gafael ar yr adnoddau. (Byddwch yn ofalus eich bod yn gwirio eich ffolder ebost sothach).

Mae'r adnoddau addysgu hyn yn cynnwys naw gwers ac asesiad, sy'n canolbwyntio ar y prif gwestiwn ymchwil: 'sut beth yw bod yn Fwslim ym Mhrydain heddiw?'.

  • Sut allwn ni ddeall crefydd mewn cymdeithas?
  • Beth mae Islam yn ei olygu i Fwslimiaid?
  • Sut mae Mwslimiaid yn dilyn ffynonellau crefyddol doethineb ac awdurdod heddiw?
  • Sut mae Mwslimiaid yn ymarfer eu crefydd?
  • Beth yw hanes Mwslimiaid ym Mhrydain?
  • Ble lleolir cymunedau Mwslimaidd?
  • Beth yw mosg?
  • Sut mae Mwslimiaid yn mynegi eu ffydd yn y celfyddydau?
  • I ba raddau mae Mwslimiaid ym Mhrydain yn profi Islamoffobia?

Mae pob un o'r gwersi'n cynnwys y canlynol:

  • Cyflwyniad PowerPoint Athro
  • Taflen waith disgybl
  • Cynllun gwers
  • Adnoddau cysylltiedig eraill

Caiff pob gwers ei ddylunio gyda Chyfnod Allweddol 3 uwch mewn cof, ac maent yn para tuag awr. I gael y profiad gorau, argraffwch yr adnoddau hyn mewn lliw.

Roedd yr adnoddau addysgu'n cael eu hystyried fel gwersi ymarferol ac hefyd fel ysgogiadau ar gyfer syniadau addysgu. Rydym wedi sicrhau bod modd lawrlwytho a golygu'r adnoddau hyn yn llawn, ac maent wedi'u dylunio mewn ffordd fodiwlaidd er mwyn ei gwneud mor hyblyg a hawdd eu defnyddio â phosibl.

Gan hynny, nid oes unrhyw ffordd gywir o ddefnyddio’r adnoddau hyn. Gellir eu defnyddio fel cynllun gwaith cyfan, yn unigol neu gellir cymryd elfennau allan a'u defnyddio mewn gwersi a ddyluniwyd eisoes. Rydym yn eich annog i addasu ac arbrofi gyda'r adnoddau hyn i ddiwallu anghenion eich ysgol a'ch dosbarthiadau.

Er mwyn lawrlwytho'r adnoddau addysgu llenwch yr arolwg hwn a dilynwch y ddolen a anfonwyd atoch.

Cwrs DPP Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain

Mae cwrs DPP ategol (sy'n codi ffi) hefyd ar gael sy'n cynnwys y gwaith o addysgu'r adnoddau hyn, gyda phob sesiwn yn efelychu'r gwersi a amlinellwyd yn yr adnoddau a geir am ddim. Er mwyn dysgu rhagor am y cwrs DPP a chadw eich lle, edrychwch ar dudalen y cwrs.

Ymwadiad

Mae'r adnoddau addysgu ar hyn ar gael i'w lawrlwytho, eu golygu a'u rhannu'n rhydd, er mwyn eu gwneud mor hygyrch â phosibl i athrawon eu defnyddio. Yng Nghanolfan Islam-y DU, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i gefnogi Addysg Grefyddol mewn ysgolion, ac adlewyrchir yr ymrwymiad hwn yma.

Fodd bynnag, rydym yn dibynnu ar gael cyllid allanol i ddatblygu'r adnoddau hyn a'u cadw'n rhad ac am ddim. Os ydych yn defnyddio'r adnoddau hyn, a hoffech fwy o brosiectau tebyg i gael eu cynnal yn y dyfodol, gofynnwn i chi roi adborth i ni y gallwn ei ddefnyddio i arddangos gwerth ac effaith y gwaith hwn. Bydd hyn yn ein helpu ni, ac eraill, i berswadio cyllidwyr posibl a sefydliadau o werth prosiectau fel hyn, sy'n annog athrawon ac academyddion i weithio gyda'i gilydd.

Gan hynny, rydym wir yn eich annog i roi gwybod i ni sutpham rydych yn defnyddio'r adnoddau addysgu, yn ogystal â pha effaith y maent wedi'u cael ar eich addysgu/gwaith dysgu eich disgyblion. At hyn, anogwch eraill i gael gafael ar yr adnoddau drwy'r safle hwn, ac i rannu adborth. Mae cael gafael ar yr adnoddau hyn drwy'r wefan hon yn ein galluogi i gael darlun o ba mor eang y defnyddir yr adnoddau, sy'n ein helpu i arddangos eu gwerth.

Yn seiliedig ar raglen lwyddiannus iawn Canolfan Islam-y DU, Mwslimiaid ym Mhrydain: Newidiadau a Heriau MOOC, ac ymateb i alwadau er mwyn gwella cynrychiolaeth crefydd yn Addysg Grefyddol (Comisiwn ar Addysg Grefyddol 2018), mae'r adnoddau addysgu hyn yn defnyddio ymagweddau cymdeithasegol at grefydd i ganolbwyntio ar sut mae Mwslimiaid ym Mhrydain yn deall ac yn byw eu crefydd yn eu bywydau bob dydd.

Datblygwyd yr adnoddau addysgu hyn ar y cyd ag athrawon Addysg Grefyddol ledled y DU a sefydliadau cysylltiedig eraill, megis Addysg Grefyddol Heddiw. Rhagor o wybodaeth am y prosiect.

Rydym wrth ein bodd bod Addysg Grefyddol Heddiw wedi cymeradwyo'r cwrs DPP, a'r adnoddau addysgu Cam Allweddol 3 cysylltiedig. Dyma'r testun cyfan gan Addysg Grefyddol Heddiw:

Mae'r adnoddau addysgu a dysgu newydd gan Ganolfan Islam y DU Prifysgol Caerdydd yn cynnig cwrs DPP gwych i athrawon AG gyda chynlluniau ystafelloedd dosbarth cysylltiedig a deunyddiau ar gyfer CA3. Mae Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain yn defnyddio dull cymdeithasegol wrth astudio Mwslimiaid ym Mhrydain, gan ymgorffori data cyfoes ac ysgoloriaeth wedi’i churadu gan Ganolfan Islam y DU. Fel canolfan adnabyddus ar gyfer astudio Islam, mae arbenigedd Islam y DU yn cynnig rhywbeth unigryw i athrawon AG, gan fynd i'r afael â rhai problemau mawr cwricwla AG.

Yn hytrach na chyflwyniadau haniaethol, wedi’u hanfodoli o gredoau allweddol Islam, er enghraifft, mae'r ffocws ar fathau cyfoes o Islam a realiti cymdeithasol Mwslim sy'n byw ym Mhrydain. Mae athrawon a disgyblion yn dod ar draws lleisiau Mwslimiaid drwy glipiau fideo ac erthyglau, gan eu galluogi i fabwysiadau dull cymdeithasegol mewn AG. Mae'r adnodd hwn yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu gwybodaeth eu hunain a gwybodaeth eu disgyblion am Islam a Mwslimiaid yn sylweddol, yn ogystal â'u cyflwyno i wybodaeth ddisgyblaethol – megis sut mae cymdeithaseg yn defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol i greu a gwerthuso gwybodaeth.

Mae Islam ymhlith y pynciau mwyaf poblogaidd yn CA3 ac addysgu ar lefel TGAU, ac mae'r adnodd hwn yn cynnig DPP ystyrlon a manwl ar gyfer athrawon a ffyrdd diddorol o archwilio'r ffordd y mae Mwslimiaid yn byw. Mae'n gosod yr astudiaeth o Islam mewn cyd-destunau adnabyddus, gan ddarparu cyfleoedd ystyrlon a diddorol i ddysgu.

Bydd cyfoeth o adnoddau cysylltiedig ar gael i athrawon, gan gynnwys ymchwil ddiweddar, arloesol, i ehangu a chynyddu eu gwybodaeth eu hunain am eu pwnc. Mae'n newyddion gwych bod yr adnoddau hyn ar gael yn rhydd a bellach ar gael yn ddigidol. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall pawb ymgysylltu'n llawn â'r cwrs.

Ar ôl adolygu'r cwrs a'i drafod gyda thîm prosiect Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain, mae'n bleser gennym argymell y cwrs a'i adnoddau cysylltiedig.

Rydym hefyd yn falch bod Cyngor Mwslimaidd Cymru wedi cymeradwyo ein cwrs DPP ac adnoddau addysgu rhad ac am ddim:

Mae Cyngor Mwslimaidd Cymru yn falch iawn o gefnogi a chymeradwyo hyfforddiant athrawon a deunyddiau addysgu Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain. Cynhyrchwyd yr adnoddau gan y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd â hanes hir o berthnasoedd cadarnhaol ac ymgysylltiad â sefydliadau a chymunedau Mwslimaidd ehangach, ac mae'r ethos hwn yn cael ei adlewyrchu yn yr adnoddau a gynhyrchir.

Mae Addysg Grefyddol yn rhan werthfawr a phwysig o addysg pob person ifanc, ac mae ganddo rôl bwysig i'w chwarae wrth baratoi'r unigolyn ar gyfer bywyd ym Mhrydain amrywiol ac aml-grefyddol. Mae addysgu am Islam hyd yn oed yn bwysicach er mwyn gwrthsefyll camsyniadau ynghylch Islam a chymunedau Mwslimaidd. Dyma pam mae Cyngor Mwslimaidd Cymru yn falch o weld bod arbenigedd ac ymchwil academaidd wedi cael eu defnyddio er mwyn paratoi gwersi a deunydd hyfforddi sy'n cofnodi amrywiaeth profiadau Mwslimaidd ym Mhrydain.

Mae'n arbennig o werthfawr bod y deunydd yn hybu lleisiau a phrofiadau Mwslimiaid eu hunain. Mae hyn yn helpu i ddangos nad crefydd dramor yw Islam, ond un sy’n fyw ac yn cael ei ymarfer gan filiynau o bobl ym Mhrydain heddiw.”

Rydym yn falch iawn o weld ffocws ar Gaerdydd drwyddi draw, gan adlewyrchu Dinas gyda rhai o'r cymunedau Mwslimaidd hynaf a mwyaf sefydledig ym Mhrydain.

Dr Abdul-Azim Ahmed
Ysgrifennydd Cyffredinol 
Cyngor Mwslimaidd Cymru

Rydym hefyd wedi derbyn cymeradwyaeth gan Gyngor Mwslimaidd Prydain (MCB):

Mae Cyngor Mwslimaidd Prydain (MCB) yn llongyfarch y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd am gynhyrchu deunyddiau addysgu ac adnoddau hyfforddi athrawon “Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain”. Mae gan y Ganolfan hanes hir o berthnasoedd cadarnhaol ac ymgysylltiad â sefydliadau cymunedol ac Islamaidd eang ac rydym yn falch o weld bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y deunydd a gynhyrchir.

Mae gan Addysg Grefyddol ran bwysig i'w chwarae wrth chwalu chwedlau a chamsyniadau am wahanol grwpiau a chymunedau crefyddol. Mae'r gallu i ddeall ffydd neu gred unigolion a chymunedau, a sut mae gwahanol fyd-olygon yn cael eu ffurfio yn bwysig iawn i'n plant sy'n tyfu i fyny ym Mhrydain fodern aml-ffydd, amrywiol. Bydd yr adnoddau hyn yn amhrisiadwy yn yr ymdrech hon.

Ar ôl adolygu’r cwrs a’i drafod gyda’r tîm prosiect Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain, mae Cyngor Mwslimaidd Prydain (MCB) yn falch iawn o argymell deunyddiau addysgu Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain ac adnoddau hyfforddi athrawon.

Maswood Ahmed, MBA, Msc, CQSW, DipSW, AASW, PTA, RSW
Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol a
Chadeirydd y Pwyllgor Materion Addysg

Addysg Grefyddol Heddiw

NATRE

Cyngor Mwslimiaid Cymru

Dr Carl Morris

Amanda Morris

Hamidah Begum

Mobeen Butt a Menter Amgueddfa Mwslimiaid

Myfyrwyr Ysgol St Teilo's, Caerdydd

Cyfranogwyr grŵp ffocws, arolwg ac astudiaeth beilot

Cymuned addysgu Addysg Grefyddol

Staff Canolfan Islam-y DU a chymuned myfyrwyr ôl-raddedig.

Canolfan Cefnogaeth Addysg ac Arloesedd (CESI)

Uned DPP

Cysylltwch â ni

Os hoffech siarad â thîm Canolfan Islam-y DU am yr adnoddau addysgu hyn, cysylltwch â:

Canolfan Islam-y DU

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y cwrs DPP ategol neu unrhyw gyfle arall i ddatblygu'n broffesiynol, mae croeso i chi gysylltu â'r Uned DPP yn:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus

Rhannu’r stori hon

Cwrs DPP ar-lein ategol ar gyfer athrawon Addysg Grefyddol, sy'n ystyried sut brofiad yw bod yn Fwslim ym Mhrydain.