Cyflwyniad i Ddermoscopi (ar-lein)
Mae dermoscopi yn offeryn diagnostig an-fewnwthiol a ddefnyddir yn eang i helpu gyda diagnosis o glwyfau'r croen a phrofwyd ei fod yn cynyddu cywirdeb diagnosis melanoma.
Ymrestru ar y cwrs hwn
Dyddiad dechrau | Diwrnodau ac amseroedd |
---|---|
4 Mawrth 2024 | Ar-lein. Cynhelir y cyrsiau ar-lein am 12 wythnos |
Ffi |
---|
£1195 |
Ar gyfer pwy mae hwn
Bwriedir y cwrs hwn yn benodol i feddygon sy'n ymwneud â gofalu am gleifion dermatoleg sydd â chlwyfau'r croen, ac sydd â diddordeb mewn rheoli clwyfau croen diniwed a malaen, neu sy'n dymuno dysgu am ddermoscopi i wella eu sgiliau diagnosis melanoma.
Mae'r cwrs hefyd ar gyfer nyrsys arbenigol sy'n gweithio mewn Clinigau Canser y Croen, yn amodol ar gymhwyster priodol. I gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Nod y rhaglen hon yw datblygu'r gallu i ddefnyddio dermatosgop i wneud y canlynol:
- gwahaniaethu rhwng clwyfau croen melanositig a rhai anfelanositig
- gwahaniaethu rhwng clwyfau croen malaen a rhai diniwed
- cynorthwyo gyda diagnosau cynnar o felanoma
- cynorthwyo gyda phenderfyniadau rheoli yn ymwneud â chlwyfau croen â phigment
- cynorthwyo gyda diagnosisau o rai clwyfau croen anfelanositig.
Pynciau dan sylw
Mae chwe phwnc wedi cael eu hysgrifennu gan ddermatolegwyr blaenllaw ym maes dermosgopi. Disgwylir i gyfranogwyr gwblhau pwnc bob pythefnos.
Mae nodweddion y cwrs yn cynnwys y canlynol:
- deunyddiau pwnc manwl â nodau ac amcanion penodol
- "Dermatosgop Rhithwir" sy'n cynnwys cronfa fawr o ddelweddau dermosgopig
- achosion clinigol a chwisiau rhyngweithiol (sy'n rhoi adborth ar unwaith am berfformiad) ar gyfer pob modiwl
- darlithoedd arbenigol rhyngweithiol byw yn defnyddio meddalwedd Adobe Connect©
- fforymau trafodaeth grŵp a arweinir gan diwtoriaid arbenigol
- anogir dysgu cydweithredol yn gryf
- bydd cyfranogwyr yn gallu trafod achosion anodd neu ddiddorol y byddant yn dod ar eu traws yn eu hymarfer eu hunain (argymhellir iddynt ddefnyddio camera)
- bydd tiwtoriaid hefyd yn rhannu achosion o'u clinigau
- nod fforymau yw galluogi myfyrwyr i ddysgu gan ei gilydd a chael adborth gan diwtoriaid.
Mae pob pwnc yn cynnwys cyfres o gwestiynau amlddewis. Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cwestiynau cyn symud ymlaen i'r pwnc nesaf. Bydd y cyfranogwyr sy'n bodloni'r gofynion hyn yn gymwys ar gyfer yr arholiad terfynol.
Ar ddiwedd y cwrs bydd arholiad ar-lein yn darparu sail ar gyfer yr asesiad crynodol. Bydd cyfranogwyr sy'n llwyddo i gwblhau'r arholiad terfynol yn derbyn tystysgrif i nodi eu bod wedi’i gwblhau.
Wythnos | Testun | Dermatosgop rhithwir ar gael | Darlith ar-lein | |
---|---|---|---|---|
0 | Paratoi cyn y cwrs | |||
1 | Pwnc 1 | Wythnos 1 | ||
2-3 | Pwnc 2 | Yn amodol ar gwblhau MCQ 1 | Delweddau newydd ar gael o Wythnos 2 | Wythnos 3: Darlith y DU |
4-5 | Pwnc 3 | Yn amodol ar gwblhau MCQ 2 | ||
6-7 | Pwnc 4 | Yn amodol ar gwblhau MCQ 3 | Delweddau newydd ar gael o Wythnos 6 | |
8-9 | Pwnc 5 | Yn amodol ar gwblhau MCQ 4 | Wythnos 9: Darlith y DU | |
10-11 | Pwnc 6 | Yn amodol ar gwblhau MCQ 5 | ||
12 | Wythnos Arholiad | Yn amodol ar gwblhau MCQ 6 | ||
13X | Wythnos ailsefyll (os oes angen) |
Sylwch: mynediad i wefan y cwrs ar gael am wythnos yn dilyn diwedd y rhaglen.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r holl feini prawf canlynol er mwyn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
- meddu ar radd feddygol
- gweld cleifion sydd â chlwyfau croen yn rheolaidd
- meddu ar allu rhagorol yn yr iaith Saesneg
- meddu ar gyfrifiadur, neu gyda mynediad at un, sydd â chyswllt gwe cyflymder uchel.
Nid oes angen i chi fod wedi cwblhau cwrs dermatoleg neu ddermosgopi'n flaenorol ond bydd angen rhywfaint o wybodaeth am ddermatoleg er mwyn cyfranogi'n effeithiol.
Offer
Argymhellir mynediad at ddermatosgop yn gryf er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn. Argymhellir mynediad at gamera hefyd i rannu eich delweddau dermatosgopig â'r gymuned ar-lein ond nid yw hyn yn hanfodol.
Manteision
- Cwrs cwbl ar-lein yw hwn, sy'n cael ei gynnal dros 12 wythnos, gydag asesiadau ar-lein
- Dysgu’n hyblyg, yn eich amser eich hun
- Cewch gipolwg ar y technegau diweddaraf gan arbenigwyr rhyngwladol ym maes dermoscopi, sy'n ysgrifennu'r pynciau ar gyfer y cwrs hwn
- Profiad o ddarlithoedd arbenigol rhyngweithiol byw
- Gweithio a dysgu ar y cyd gyda'ch cyfoedion o bob cwr o'r byd mewn fforymau trafodaeth grŵp dan arweiniad tiwtoriaid arbenigol.
Canslo, trosglwyddo a chyfnewid
Mae'r cwrs hwn yn un 'arbennig' yn nhermau ein polisi canslo, trosglwyddo a chyfnewid. Dyma grynodeb o'r termau sy'n berthnasol i'r cwrs hwn. Mae'r manylion llawn i'w gweld yn ein telerau ac amodau. Bydd Pennaeth yr Uned DPP yn ystyried amgylchiadau eithriadol.
Canslo
Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaith | % ffioedd y cwrs sy’n daladwy |
Dros 20 | Ffi weinyddol o £50 |
20-1 | Os na allwn gael rhywun i gadw eich lle: 70%, yn ogystal ag unrhyw gostau ar gyfer deunyddiau cyn y cwrs sydd eisoes wedi’u hanfon ar yr unigolyn neu’r Cleient, oni bai bod y deunyddiau yn cael eu dychwelyd atom o fewn 10 Diwrnod Gwaith mewn cyflwr newydd sbon. |
0 | 100% |
Trosglwyddo
Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaith | Ffi yn daladwy |
Dros 15 | N/A |
Llai na 15 | Byddwn yn trin hwn yn yr un modd â'ch bod wedi canslo a bydd y ffi canslo yn daladwy. |
Cyfnewid
Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaith | Ffi yn daladwy |
Dros 20 | £50 yn ogystal ag unrhyw wahaniaeth rhwng y ddau gwrs |
Llai na 20 | Byddwn yn trin hwn yn yr un modd â'ch bod wedi canslo a bydd y ffi canslo yn daladwy. |