Ewch i’r prif gynnwys

Ieithoedd

Mae ein rhaglen ieithoedd modern gyffrous yn gyfle i astudio iaith newydd neu wella eich sgiliau presennol hyd at safon uchel iawn.

Addysgir ein cyrsiau gan diwtoriaid yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn siaradwyr brodorol.

Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb yn ein cyrsiau iaith bennu lefel eu cymhwysedd cyn ymrestru ar gwrs.

Arabeg

Nid yw Arabeg yn cael ei dysgu’n eang yn y DU, felly rydym yn falch iawn o allu cynnal cyrsiau yma ar wahanol lefelau i weddu i bob gallu.

Tsieinëeg

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Tsieinëeg Mandarin wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer y cyhoedd ac sy'n cael eu cynnal gyda'r nos.

Ffrangeg

Mae ein dosbarthiadau Ffrangeg poblogaidd yn cael eu haddysgu gan siaradwyr brodorol fel arfer, ac maent yn cynnig wyth lefel i weddu i bob math o fyfyriwr.

Almaeneg

Rydym yn cynnig cyrsiau Almaeneg a addysgir yn broffesiynol sy'n addas i chi o ran lefel ac amserlen.

Groeg

Mae ein cyrsiau Groeg yn berffaith ar gyfer dechreuwyr hyd at siaradwyr ar lefel uwch.

Eidaleg

Gydag wyth lefel wahanol o fynediad, byddwch yn dod o hyd i’r cwrs Eidaleg sy’n iawn i chi siŵr o fod.

Japaneeg

P’un a ydych wastad wedi meddwl am ddysgu Japaneeg, neu am wella eich sgiliau presennol, dylai fod gennym y cwrs iawn i chi.

Portiwgaleg

Dysgwch Bortiwgaleg mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar, p’un ai eich bod wedi dysgu'r iaith o'r newydd neu'n gwybod rhywfaint yn barod.

Cyfieithu ar y pryd mewn gwasanaeth cyhoeddus

Mae ein rhaglen Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus wedi’i llunio i roi cyflwyniad i fyfyrwyr dwyieithog i’r proffesiwn gan gynnwys ffiniau’r swydd, ymddygiad proffesiynol, terminoleg a materion proffesiynol.

Rwseg

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Rwseg ar gyfer lefelau dechreuwr, gwella a chanolradd.

Sbaeneg

Bydd ein hystod eang o gyrsiau Sbaeneg yn gweddu i unrhyw ddysgwr, gan gynnwys y rheini sydd eisiau gwella’n gyflym iawn.

Pwyleg

Rydym yn cynnig cyrsiau i’ch helpu i ddechrau dysgu Pwyleg neu wella’r sgiliau sydd gennych yn barod.

Wcrainaidd

Bydd y cwrs hwn, a fydd wedi’i addysgu gan Wladolyn o Wcráin, yn eich cyflwyno i hanfodion yr iaith ac yn rhoi dealltwriaeth i chi o ddiwylliant Wcráin.

Cyrsiau Cymraeg i oedolion

Rydym yn cynnig sesiynau rhagflas yn ogystal â chyrsiau i ddechreuwyr hyd at gyrsiau i siaradwyr Cymraeg rhugl a fyddai’n hoffi gwella eu Cymraeg.

Cewch wybod rhagor gan Dysgu Cymraeg Caerdyd