Ewch i’r prif gynnwys

Dangosir nad yw asesiadau traddodiadol o sgrinio llygaid yn effeithiol mewn ysgolion arbennig

21 Mawrth 2019

Maggie story

Mewn adroddiad arloesol a ysgrifennwyd ar y cyd gan Dr Maggie Woodhouse, ceir rhagor o dystiolaeth sy’n honni nad yw asesiadau traddodiadol o sgrinio llygaid mewn ysgolion arbennig yn effeithiol wrth geisio canfod diffygion ar y golwg ymysg plant ag anableddau dysgu. Daeth yr ymchwil, a gafodd ei hariannu gan yr elusen See Ability, i'r casgliad mai archwiliadau llawn o’r llygaid yw’r dull mwyaf effeithiol o ganfod diffygion ar y golwg.

Nod yr adroddiad hwn oedd cyflwyno canfyddiadau a ddeillir o wasanaeth optio i mewn gofal llygaid o fewn ysgolion arbennig yn Lloegr, a’u defnyddio er mwyn bennu a fyddai rhaglen sgrinio llygaid yn addas ar gyfer y boblogaeth hon. Bu i Maggie a'i chydweithiwr Barbara Ryan gyhoeddi canfyddiadau a ddaeth yn sgil astudiaeth raddfa-fach yng Nghymru, ond mae’r prosiect diweddaraf a mwy o faint hwn bellach wedi’i ymestyn i Loegr, sy’n awgrymu bod y canlyniadau'n berthnasol ledled y wlad.

Mae sgrinio llygaid ymhlith y boblogaeth o blant yn gyffredinol yn gwella’r broses o adnabod amhariad ar y golwg a’i gywiriad, a chaiff y drefn hon ei rhoi ar waith mewn nifer fawr o wledydd ledled y byd. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth mai plant ag anableddau dysgu yw’r rheiny sy’n llawer mwy tebygol o brofi diffygion ar y golwg nag aelodau eraill yn y boblogaeth o blant yn gyffredinol, a’r plant sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth yw’r rheiny sy’n fwyaf tebygol o gael eu haddysgu mewn ysgolion arbennig.

Gwnaeth yr adroddiad newydd ddatgelu mai anghyson yw’r ddarpariaeth o sgrinio llygaid mewn ysgolion arbennig, ac mae'n ddadleuol os yw sgrinio o'r fath yn addas ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, o gofio na ellir asesu nifer ohonynt gan ddefnyddio offer craffter golwg sydd wedi’u hen sefydlu. Argymhellir felly mai'r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod problemau ar y golwg yw drwy wneud archwiliad arferol o’r llygaid sy’n cael ei gynnig ar gyfer pob plentyn sy'n mynychu ysgolion arbennig.

Dyma’r hyn a ddywedodd Dr Woodhouse, sy'n arwain yr Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down arobryn ym Mhrifysgol Caerdydd: "Dyma'r astudiaeth fwyaf o’r golwg ymysg plant ag anghenion arbennig a gynhelir yn fyd-eang ac mae'n dangos yn gwbl bendant nad yw sgrinio llygaid arferol yn addas i'r plant hynny sy’n agored i niwed. Rhaid inni ddatblygu gwasanaethau golwg yn benodol ar gyfer plant sydd ag anghenion arbennig, gan eu bod yn llawer mwy tebygol o gael problemau llygaid na phlant arferol, ond maent hefyd yn llawer llai abl i gael mynediad at y ddarpariaeth ofal llygaid sydd ar waith ar hyn o bryd."

Mae'r astudiaeth hon yn adrodd ar ddata gwerthuso gwasanaethau yn seiliedig ar wasanaeth optio i mewn gofal llygaid a ddarperir gan optometryddion, orthoptyddion ac optegwyr cyflenwi sy'n gweithio gyda SeeAbility, elusen yn y DU sy'n cefnogi’r bobl hynny sydd ag anabledd dysgu a nam ar y golwg, ar draws 11 ysgol arbennig yn Lloegr rhwng 2013 a 2017.

Lawrlwythwch yr adroddiad yma.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn gweithio gyda grŵp mawr a brwdfrydig o deuluoedd i ddeall mwy am ddatblygiad cyffredinol a gweledol plant â syndrom Down. Mae ein hymchwil wedi newid arferion gofal llygaid ar draws y DU a thramor.