Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod bôn-gelloedd yn cynnig gobaith newydd i bobl â chlefyd llygaid sych

29 Ebrill 2022

Close up of an eye

Bu ymchwilwyr o Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o dîm o wyddonwyr sydd wedi darganfod sut i gynhyrchu chwarennau dagrau bychain o fôn-gelloedd aml-botensial dynol (iPs) er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau clefyd llygaid sych.

Mae chwarennau dagrau uwchben y naill lygad a’r llall, a’r rhain sy’n cynhyrchu hylif dagrau, yn rhan o'r ffilm dagrau. Os nad yw chwarren yn gweithio fel y dylai, gall achosi clefyd llygaid sych - cyflwr cyffredin sy'n anghysurus i’r sawl sy’n dioddef ohono, ac a all, os na chaiff ei drin, arwain at nam hirdymor ar y golwg.

Gwyddonwyr ym Mhrifysgol Osaka yn Japan wnaeth arwain yr ymchwil. Fe ddangoson nhw sut y gellir tyfu celloedd iPS dynol, o dan amodau penodol yn y labordy, gan ddefnyddio celloedd croen aeddfed roedd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Kyoto yn Japan wedi’u casglu. Roedd yr ymchwilwyr yn gallu ffurfio clystyrau bach dau ddimensiwn o gelloedd, o'r celloedd iPS, gan ail-greu, yn rhannol, sut mae'r llygad dynol yn datblygu. Roedd celloedd yn y clystyrau dau ddimensiwn hyn, oedd yn debyg i gelloedd fyddai’n tyfu i fod yn chwarennau dagrau, ac fe’u casglwyd a'u trin ymhellach mewn tri dimensiwn, er mwyn ffurfio'r organoidau meinwe tebyg i chwarennau dagrau.

“The use of human iPS cells for research into organoid generation and regenerative medicine is currently a hot topic, and the development of the world’s first lacrimal gland-like organoid, partially characterised here in Cardiff University by my colleague and co-author, Dr Rob Young, is an exciting advance.”

Professor Andrew Quantock - part of the research team

Cyhoeddwyd yr ymchwil yn y cyfnodolyn gwyddonol - Nature, ac mae ganddo botensial gwirioneddol i'w ddefnyddio mewn meddygfeydd trawsblaniadau yn y dyfodol ar gyfer cleifion â chlefyd llygad sych sy'n gysylltiedig â chwarren lacrimal. Mae potensial hefyd i ddylunio a phrofi meddyginiaethau newydd ar gyfer camweithrediad chwarren lacrimal.

Rhannu’r stori hon

Our research delivers advances in knowledge to facilitate detection, diagnosis, monitoring and treatment of vision disorders to improve quality of life.