Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd rhan mewn ymchwil

Research

Drwy gymryd rhan yn ein hymchwil bwysig, byddwch yn ein helpu i wella ein gwybodaeth a gwella bywydau cleifion.

Rydym bob amser yn edrych am aelodau o’r cyhoedd i helpu gyda’n gwaith ymchwil, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan.

Caiff ein hymchwil ei chydnabod yn rhyngwladol a gallwch fod yn rhan ohoni. Gadewch eich gwaddol drwy wneud cyfraniad hanfodol i wyddoniaeth a gofal iechyd.

Cyfleoedd

Ymchwil clefyd maciwlaidd a golwg wrth heneiddio

Mae ein tîm ymchwil yn ceisio nodi ffyrdd newydd o brofi a thrin pobl â chlefyd maciwlaidd. Rydym yn recriwtio oedolion iach a phobl â chlefyd maciwlaidd, yn enwedig y rheiny sy’n dal i allu gweld yn dda ag un neu ddwy lygad, ar gyfer ein hastudiaethau ymchwil. Os oes gennych chi neu unrhyw un rydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn cymryd rhan, llenwch ein holiadur ar-lein, a byddwn yn cysylltu â chi i drafod astudiaethau a allai fod yn addas.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein grŵp ymchwil a'n prosiectau ymchwil ar dudalen we ein grŵp ymchwil maciwlaidd.

Y Gronfa Ddata Colli Golwg Niwrolegol

Ar y cyd â’r Ysgol Seicoleg, rydym yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ar gyfer astudio colli golwg niwrolegol. Rydym yn recriwtio’r rhai hynny sydd wedi colli eu golwg niwrolegol, yn ogystal ag unigolion iach sy’n gallu gweld yn iawn, er mwyn eu cymharu gyda’r rheiny sydd wedi colli eu golwg. Rydych yn gymwys i gofrestru ar gyfer ein cronfa ddata colli golwg niwrolegol cyhyd â’ch bod dros 18 mlwydd oed.

I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa ddata gallwch lawrlwytho ein taflen wybodaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich talu i gymryd rhan, llenwch ein holiadur ar-lein.