Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr yn cymryd y cam cyntaf tuag at brawf geneteg ar gyfer golwg byr yn ystod plentyndod cynnar

15 Tachwedd 2019

Small boy having eye test

Mae ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd a Bryste wedi dyfeisio prawf a allai helpu i adnabod plant sydd â risg o ddatblygu cyflwr llygad cyffredin iawn.

Mae golwg byr, neu fyopia, fel arfer yn datblygu yn ystod plentyndod ac ystyrir ei fod yn effeithio ar un ym mhob tri pherson yn y DU.

Mae'r cyflwr - sy'n cynyddu o ran nifer yr achosion yn fyd-eang - yn digwydd pan mae'r llygad yn tyfu'n rhy hir, sy'n golygu nad yw golau yn canolbwyntio ar y retina sy'n sensitif i oleuni, gan achosi i wrthrychau pell ymddangos yn aneglur.

Caiff myopia ei ganfod yn hawdd gyda phrawf llygad a'i gywiro gyda sbectol neu lensys cyffwrdd, ond mae'n cynyddu risg o anhwylderau'r llygaid, megis glawcoma, cataractau a newidiadau dirywiol i'r retina, sy'n peri mwy o bryder.

Ni all triniaethau presennol atal bodolaeth myopia ond gall arafu ei ddatblygiad, sy'n golygu y gall brawf geneteg fod yn allweddol er mwyn caniatáu ymyrraeth gynnar.

Bu ymchwilwyr yn dadansoddi gwahaniaethau geneteg ymhlith dros 700,000 o unigolion, gan eu galluogi i bennu sgôr er mwyn rhagweld risg geneteg unigolyn o gael myopia.

Dywedodd yr Athro Jeremy Guggenheim, o Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd, a gyd-arweiniodd yr astudiaeth, bod eu tîm bellach yn gallu nodi un ym mhob 10 o unigolion a oedd chwe gwaith yn fwy tebygol na'r cyfartaledd o ddatblygu golwg byr difrifol erbyn iddynt fod yn oedolion.

Dywedodd yr Athro Guggenheim: "Mae triniaethau ar gael i arafu datblygiad golwg byr. Byddai gwybod bod risg uchel gan blentyn yn helpu rhieni a chlinigwyr i benderfynu p'un a ddylid dechrau triniaeth."

Dywedodd Cathy Williams, offthalmolegydd pediatrig o Ysgol Meddygaeth Bryste, a gyd-arweiniodd yr astudiaeth: "Gellir cynnal prawf geneteg i bobl o bob oed, felly gallai prawf fel hyn - ar gyfer risg uchel o fyopia - roi dechrau da i blant, sy'n debygol o fod â golwg byr, os caiff ei roi iddynt yn gynnar ac os oes triniaethau addas effeithiol ar gael."

Cynhaliwyd yr ymchwil drwy ddefnyddio data o Fanc Bio'r DU, sy'n astudiaeth bwysig i iechyd a lles 500,000 o bobl, ac mewn grŵp ar wahân o unigolion o Astudiaeth Hydredol Rhieni a Phlant Avon (ALSPAC), sy'n astudiaeth ar raddfa fawr o enedigaethau.

Yn y gorffennol, mae tîm Caerdydd a Bryste wedi dangos fod pob blwyddyn o addysg yn cynyddu'r risg o ddatblygu golwg byr.

Y gobaith yw y gallai'r canfyddiadau diweddaraf, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn JAMA Opthalmology, fod yn gam cyntaf ar y llwybr i gael prawf geneteg ar gyfer myopia difrifol.

Byddai angen gwneud gwaith pellach, megis dadansoddi sampl genetig ar raddfa hyd yn oed mwy, i roi'r prawf ar waith.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, a arweinir gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.