Amdanom ni

Mae ein Hysgol mewn cyfleuster addysgu ac ymchwilio pwrpasol, gwerth £22 miliwn, ar Gampws Arloesedd Parc Maendy.
Rydym yn ysgol flaengar ym maes optometreg a gwyddorau’r golwg sy’n rhoi cyfleoedd i astudio ar lefel israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil - yr unig un o’i math yng Nghymru. Mae ein hysgol wedi’i hen sefydlu ac mae gennym lawer o adnoddau ac enw da rhyngwladol.
Mae ein clinig llygaid ar y safle yn gwella ein gweithgareddau addysgu ac ymchwilio. Mae’n agored i’r cyhoedd ac yn cynnig lleoliadau mewnol a chyfleoedd ymchwil i’n myfyrwyr.
Ymchwil
Nod ein hymchwilwyr yw hwyluso'r gwaith o ganfod, rhoi diagnosis, monitro a thrin anhwylderau'r golwg.
Gellir defnyddio ymchwil ein Hysgol at ystod eang o ddibenion yn y byd go iawn, ac mae hi wedi cael effaith gadarnhaol a pharhaus ar fywydau’r bobl y mae anhwylderau’r golwg yn effeithio arnynt. Er enghraifft, mae Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down, dan arweiniad Dr Maggie Woodhouse OBE,wedi ennill gwobr academaidd fwyaf clodfawr y DU – gwobr Pen-blwydd y Frenhines – am ei hymchwil arloesol a’i thriniaethau ar gyfer problemau golwg mewn plant sydd â Syndrom Down.
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf, cawsom ni ein hasesu’n rhan o’r uned asesu ‘Iechyd Perthynol’, a gafodd y bedwaredd sgôr uchaf yn y DU, gyda sgôr amgylcheddol o 100%, a 90% o’r ymchwil yn cael ei hystyried yn ‘rhagorol’ o ran ei heffaith.
Addysgu
Mae ein myfyrwyr yn elwa ar brofiad ymarferol, cyfranogiad ein staff academaidd o fri rhyngwladol a’n cyfleusterau pwrpasol. Rydym yn angerddol am optometreg ac ymfalchïwn yn ein hamgylchedd cyfeillgar, cefnogol a chynhwysol.
Hyfforddi'r genhedlaeth newydd o optometryddion
Rydym ni'n hyfforddi ein myfyrwyr i safon uchel. Roedd 100% o'n graddedigion yn 2017 mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio.
Mae cyfradd llwyddiant ein myfyrwyr yn yr Arholiadau Cymhwyso Proffesiynol optometrig yn gyson o fewn y ddau uchaf yn y DU dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae llwyddo yn yr arholiadau hyn yn hanfodol cyn gallu ymarfer fel optometrydd annibynnol.
Cyfleoedd i ôl-raddedigion
Rydym yn hyfforddi ein myfyrwyr hyd at safon uchel. Roedd 100% o’n graddedigion o 2018 mewn swydd ymhen chwe mis ar ôl graddio ac rydym wedi cael y drydedd sgôr uchaf am Optometreg yn ôl Complete University Guide ers ei chychwyn.