Ewch i’r prif gynnwys

Ehangodd Prifysgol Caerdydd faes sgiliau digidol ac arloesi yn 2023 drwy gynnal digwyddiadau allgymorth llwyddiannus

31 Ionawr 2024

Mae'r Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau allgymorth yn llwyddiannus, gan ganolbwyntio ar feithrin sgiliau digidol, hyrwyddo prosiectau arloesi ac entrepreneuriaeth, a chodi ymwybyddiaeth am yrfaoedd ym meysydd gwyddor data, dadansoddeg a seiberddiogelwch sy'n prysur ehangu.

Mae'r sefydliad, a lansiwyd yn swyddogol yn 2023, wedi bod ar flaen y gad o ran y digwyddiadau hyn sy’n mynd i'r afael â’r bwlch yn y sgiliau digidol y tynnodd partneriaid byd diwydiant sylw atyn nhw. Eu ffocws oedd cefnogi talent carfanau o bobl ifanc drwy ymgysylltu â nhw a'u hysbrydoli drwy roi gwybod iddyn nhw am yrfaoedd digidol. Y gobaith wedyn fyddai cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n troi eu sylw at entrepreneuriaeth ddigidol.

Dyma a ddywedodd Dr Yulia Cherdantseva, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol a Chyfarwyddwr Canolfan Rhagoriaeth Academaidd er Addysg Seiberddiogelwch y Brifysgol: "Ar draws yr holl ddigwyddiadau ymgysylltu â phob sector diwydiannol a gynhaliwyd gan y Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol yn ystod ei flwyddyn gyntaf, daeth un her gyffredin i’r amlwg. Boed y sector trafnidiaeth, gofal iechyd, neu logisteg, mae'r diffyg sgiliau digidol, mae'r angen am ragor o weithwyr proffesiynol â chymwysterau gwell yn amlwg."

Yn ein gweithgareddau allgymorth i bobl ifanc, daeth ehangder yr opsiynau gyrfaol y mae trawsnewid digidol hollbresennol yn eu creu i’r amlwg. Buon ni’n trin a thrafod rolau ym maes gwyddor data a dadansoddeg, seiberddiogelwch, y diwydiannau creadigol digidol, gweithgynhyrchu cynaliadwy, a meysydd eraill. Yn benodol felly, pwysleision ni’r cyfleoedd ym maes entrepreneuriaeth ac arloesi digidol, gan dynnu sylw at y llwybr cyffrous hwn i bobl ifanc.
Dr Yulia Cherdantseva Research Fellow/Associate

Grymuso Entrepreneuriaid Digidol:

Bu’r sefydliad yn cydweithio â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg i drefnu digwyddiad allgymorth ar entrepreneuriaeth ddigidol yn Abacws. Dan arweiniad y myfyrwyr PhD Iryna Bernyk a Sanyam Vyas, cymerodd myfyrwyr Blwyddyn 8 o Ysgol Westbourne ran yn y digwyddiad. Cafodd y myfyrwyr eu cyflwyno i wahanol gyfleoedd gyrfaol ym maes technoleg, gan bwysleisio bod trawsnewid digidol yn ymestyn y tu hwnt i godio a thechnoleg, ac estynnwyd croeso i’r rheini sydd â diddordeb mewn entrepreneuriaeth ac astudiaethau busnes chwarae rhan ganolog ym maes arloesi digidol yn y dyfodol.

Dyma a ddywedodd Mr Vyas: "Gwnaeth ymroddiad diwyro'r myfyrwyr i ehangu gorwelion eu gwybodaeth argraff fawr arna i, wrth iddyn nhw fwrw syniadau am syniadau busnes newydd sy'n gysylltiedig â maes technoleg a diogelwch sy'n prysur ddatblygu, sef meysydd sy'n cael eu trafod a'u rhoi ar waith yn gyffredin yn y prifysgolion hynny sy'n canolbwyntio ar ymchwil. Rwy'n annog yr ysgolion a’r colegau i gymryd rhan mewn gweithdai a gweithgareddau a drefnir gan brifysgolion sy'n canolbwyntio ar ymchwil, gan y bydd ymgysylltu felly yn codi ymwybyddiaeth ac yn meithrin chwilfrydedd ymhlith eu myfyrwyr i ddewis llwybrau gyrfaol yn y dyfodol."

Anturwyr Cyber First:

Mewn partneriaeth â Chanolfan Rhagoriaeth Academaidd er Addysg Seiberddiogelwch y Brifysgol, cynhaliodd y sefydliad a thîm rhanbarthol CyberFirst, dan arweiniad Holly Lidbury, "Anturwyr Cyber First" yn Abacws. Diben y digwyddiad, a anelwyd at fyfyrwyr Blwyddyn 7 ac 8, yn enwedig merched, oedd trefnu gweithgareddau fel cracio codau a dylunio 3D, gan feithrin felly ddiddordeb a sgiliau ym maes seiberddiogelwch.

Diwrnod Ymwybyddiaeth Gyrfaoedd ym maes Seiberddiogelwch:

Ochr yn ochr â'r Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd er Addysg Seiberddiogelwch, trefnodd y Sefydliad Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Gyrfaoedd Seiberddiogelwch yn sbarc/spark. Yn y digwyddiad roedd siaradwyr gwadd o sefydliadau blaenllaw megis y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth, Y Ganolfan Arloesi Seiber, a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Gan dargedu myfyrwyr Safon Uwch a myfyrwyr Colegau AB, canolbwyntiodd y diwrnod ar gyfleu cymhlethdod ac aml-ddisgyblaethedd seiberddiogelwch, gan gwmpasu pynciau megis seicoleg seiber, seiberddiogelwch sy'n canolbwyntio ar bobl, a llywodraethu, rheoli ac asesu risgiau. Cafodd y sawl a gymerodd ran y cyfle i gerdded o amgylch sbarc/spark a RemakerSpace, gan bwysleisio'r economi gylchol ac ailddefnyddio deunyddiau.

Yn y Ganolfan Arloesi Seibr, y mae ei phencadlys yn sbarc/spark cafwyd trosolwg rhagorol o’r ystod eang o gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael ym maes seiberddiogelwch, ac amlinellwyd y sgiliau allweddol y mae byd diwydiant yn chwilio amdanyn nhw.  Mae'r Ganolfan yn cynnig sesiynau hyfforddi ar ffurf bŵtcamp seiberddiogelwch yng Nghymru i greu carfan barhaus ac amrywiol o weithwyr diogelwch proffesiynol yn y wlad. Tynnodd y digwyddiad sylw’r bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan at y cyfleoedd cyffrous a’r gefnogaeth y mae'r Ganolfan yn eu rhoi i bobl ifanc yng Nghymru ym maes entrepreneuriaeth seiber o ran ei chenhadaeth i greu cynnyrch seiberddiogelwch a busnesau newydd sydd o safon fyd-eang ac yn hynod lwyddiannus.

Deall Cryptoarian:

Estynnodd y sefydliad wahoddiad agored i'r holl fyfyrwyr a’r ysgolion lleol gymryd rhan mewn digwyddiad cryptoarian a gynhaliwyd gan Gabriela Filipkowska, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Mathemateg dan oruchwyliaeth Dr Anqi Lin a'r Athro Maggie Chen. Amlygodd y digwyddiad lawer o'r dadleuon ynghylch defnyddio mathau o gryptoarian gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud ag enillion ariannol cyflym, technoleg arloesol, marchnadoedd hynod gyfnewidiol a’r potensial ar gyfer twyll. Mae'n cynnwys gemau, cyflwyniadau ar bynciau megis technoleg blockchain a chloddio bitcoin, a chyfleoedd ar gyfer profiad ymarferol drwy chwarae gêm a ddatblygwyd gan Ms Filipkowska.

Dyma a ddywedodd Ms Filipkowska: "Er bod cwmnïau wedi dechrau cofleidio'r dechnoleg newydd hon, mae llawer o bobl yn anghyfarwydd â hi a'i hystyr. Dyma bwnc cymhleth, ac felly aethon ni ati i ddylunio cyflwyniadau, gemau digidol a bwrdd yn ofalus, fel bod y myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan yn gallu ymgolli’n frwd ym myd crypto a'i dechnoleg yn ogystal ag ennill gwobrau crypto cyffrous. Rwy'n hapus i weld ein bod wedi cyflawni ein nod, sef lledaenu ymwybyddiaeth o'r dechnoleg newydd hon, yn ogystal â'r manteision a'r bygythiadau yn y maes hwn."

Cymerwch ran

Drwy gydol y digwyddiadau hyn, pwysleisiodd y Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol yr angen dybryd am sgiliau digidol, arloesi ac entrepreneuriaeth. Mae'r sefydliad yn annog ysgolion lleol i fynegi eu diddordeb mewn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol, gan feithrin deialog barhaus gyda'r sefydliad i fynd i'r afael â thrawsnewidiadau digidol sy’n prysur ddatblygu.

Cysylltwch â Dr Yulia Cherdantseva gan ebostio CherdantsevaYV@caerdydd.ac.uk i wybod rhagor.

Rhannu’r stori hon

Gwybodaeth am sut y gall y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol gynorthwyo eich gwaith.