RemakerSpace

Mae RemakerSpace yn fenter nid-er-elw Ysgol Busnes Caerdydd a Sefydliad PARC sy'n ymroddedig i alluogi'r economi gylchol a dod â darfod darfodiad arfaethedig trwy ymestyn cylch bywyd cynhyrchion. Rydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau a darparwyr addysg i yrru'r economi gylchol yng Nghymru a thu hwnt.
Wedi'i leoli ar Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, mae RemakerSpace yn cynnal bron i £600,000 o adnoddau a ariannwyd gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru i ymgysylltu, addysgu ac ysbrydoli pawb i greu atebion cylchol sy'n sail i gymdeithas y dyfodol.
Bydd drysau Canolfan RemakerSpace yn agor yn ystod Gwanwyn 2022. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli yn adeilad newydd sbarc | spark Prifysgol Caerdydd ar y Campws Arloesedd.
Ein hamcanion
Crëwyd RemakerSpace i gefnogi a hyrwyddo ailweithgynhyrchu ac atgyweirio, a thrwy hynny, helpu Cymru i fod ar flaen y gad wrth newid i economi gylchol.
Mae’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r meysydd canlynol er mwyn ysgogi newidiadau sylfaenol i’r ffordd rydym yn dylunio, yn defnyddio ac yn gwaredu cynhyrchion:
- gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr o fanteision ailddefnyddio, atgyweirio ac ailweithgynhyrchu i ymestyn cylch oes cynnyrch a helpu i greu byd mwy cynaliadwy
- sicrhau bod gan fusnesau y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt i ddatblygu cyfleoedd masnachol newydd yn seiliedig ar wasanaethau ailweithgynhyrchu ac atgyweirio
- ailfeddwl dyluniad cynhyrchion, gyda phwyslais ar atgyweirio ac ystyried beth i'w wneud â nhw ar ôl iddynt dorri
Mae RemakerSpace yn galluogi sefydliadau i fanteisio'n llawn ar dechnolegau fel gweithgynhyrchu adiol (argraffu 3D), gan gynnwys atebion arloesol sy’n ei gwneud yn bosibl atgyweirio, ailweithgynhyrchu ac ailddefnyddio cynhyrchion.


Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gall RemakerSpace eich helpu chi a’ch busnes i roi economi gylchol ar waith yn rhan o’ch cadwyn gyflenwi, cysylltwch â ni.