Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithio â ni

Rydym ni'n ysgogi trawsnewid digidol drwy ymchwil ac arloesedd rhyngddisgyblaethol.

Gan dynnu ar gryfderau ymchwil y brifysgol, rydym ni'n cynorthwyo academyddion i ddatblygu gwybodaeth newydd ac effaith gymhwysol. Gallwn gefnogi pob maes ymchwil. Hyd yma, rydym wedi arbenigo ar gefnogi perthnasoedd mewn meddygaeth, gwyddorau cymdeithasol, rheoli busnes, peirianneg, a gwyddorau cyfrifiadurol.

Gallwn hefyd gefnogi gyda thrawsnewid digidol mewn meysydd eraill. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth:

Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol

Sut gallwn ni eich helpu chi

Ein nod yw eich cysylltu â phobl rydych chi'n dymuno gweithio gyda nhw.

Gallwn eich cefnogi chi drwy

  • eich cysylltu â chydweithredwyr allweddol
  • galluogi rhwydweithio a digwyddiadau
  • cynorthwyo gydag ysgrifennu cynigion ar gyfer cyllid dros £1miliwn
  • ysgrifennu llythyrau o gefnogaeth ar gyfer ceisiadau o dan £1miliwn

Rydym ni'n hyrwyddo arloesi cyfrifol fel bod eich trawsnewidiad digidol yn foesegol, yn gynaliadwy ac yn ddiogel.

Meysydd ymchwil

Mae gennym bedwar maes ymchwil blaenoriaeth.

Gofal Iechyd

Dyma sut y gallwn ni helpu gyda thrawsnewid digidol mewn gofal iechyd.

Cadwyni cyflenwi a logisteg

Dyma sut y gallwn ni wella eich effeithlonrwydd drwy drawsnewid logisteg eich cadwyni cyflenwi’n ddigidol.

Cludiant

Darganfyddwch sut y gallwn eich helpu i wella eich cludiant trwy drawsnewid digidol.

Cyllid a'r economi

Dyma sut y gallwn gefnogi trawsnewid digidol eich gwaith technoleg ariannol a chyllid.

Ansicrwydd a’r Dyfodol

Darganfod sut rydym yn bwriadu datblygu a chymhwyso atebion arloesol i ddeall a chyfleu ansicrwydd ac archwilio ei oblygiadau ar gyfer polisïau a gwneud penderfyniadau.

Ehangu gorwelion

Rydym ni hefyd yn ehangu i weithio mewn meysydd fel addysg, y diwydiannau creadigol, ac ynni.

Mae ein technolegau yn cefnogi gwaith trawsnewid digidol.

Galluogi technolegau

Gall ein technolegau digidol eich helpu i drawsnewid eich ffyrdd o weithio.

Rhagor o wybodaeth

Professor Colin Riordan signs the Airbus Centre of Excellence agreement

Partneriaethau a chydweithio

Rydym wedi llwyddo i ddatblygu atebion sy'n ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus a phreifat, gan feithrin perthnasoedd sy'n cael effaith.

Effaith

Rydym yn sicrhau effaith gymhwysol ar gyfer buddiolwyr a galluogwyr trawsnewid digidol.