Ewch i’r prif gynnwys

Lansio’r Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol yn swyddogol

8 Mehefin 2023

Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio sefydliad arloesi newydd sy'n llywio’r chwyldro digidol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o lansio'r Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol yn swyddogol. Mae'r sefydliad yn canolbwyntio ar atebion cymwysadwy, ar gyfer y byd go iawn, sy'n cael eu hysgogi gan gydweithio a phartneriaethau â phartneriaid blaenllaw yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Ei genhadaeth yw sicrhau ymchwil sy’n cael effaith fel y bydd modd dylunio a mabwysiadu prosesau digidol newydd mewn ffyrdd sy’n dryloyw, yn gynhwysol ac yn gwbl ddiogel i’w defnyddio.

Mae technoleg ddigidol wedi newid y ffyrdd rydyn ni’n gweithio ym maes gofal iechyd, bancio, trafnidiaeth, y gadwyn gyflenwi a'r sector ynni, a hynny mewn ffordd aruthrol. Ond mae potensial sydd heb ei gyffwrdd o hyd ar gyfer trawsnewid ein heconomi a'n cymdeithas yn wirioneddol, o ddefnyddio arloesi mewn ffordd gyfrifol.

Mae'r sefydliad yn dwyn ynghyd yr arbenigwyr mwyaf dawnus, blaengar ac amlddisgyblaethol ym maes ymchwil, ac ymhlith y rhain mae ymchwilwyr yn y gwyddorau cymdeithasol, astudiaethau busnes, peirianneg, cyfrifiadureg a disgyblaethau eraill.

Digital Transformation Innovation Institute core team (L-R) Professor Tim Edwards (Co-Director), Dr Yulia Cherdantseva (Co-Director), Dr Angharad Watson (Institute Manager), Julie Hayward (Operations Officer), and Professor Pete Burnap (Co-Director).

Mae gwaith y sefydliad ar hyn o bryd yn seiliedig ar 4 prif faes:

  • Trawsnewid digidol ym maes gofal iechyd - Boed yn fapio genomau feirysau neu rymuso cleifion i reoli eu cyflyrau gartref gan ddefnyddio apiau a dyfeisiau y gellir eu gwisgo, mae technoleg yn chwyldroi’r ffordd rydyn ni’n meddwl am ofal iechyd. Daw ymchwilwyr sy'n ymwneud â'n maes blaenoriaeth, sef gofal iechyd, o bob rhan o'r Brifysgol; yn eu plith mae peirianwyr, biowybodegwyr, gwyddonwyr data, genetegwyr, ffisiotherapyddion ac imiwnolegwyr.
  • Trawsnewid digidol ym maes logisteg – mae ymchwilwyr y sefydliad wedi datblygu polisïau newydd ym maes rhagweld, rheoli rhestrau eiddo a chynllunio cynhyrchu sydd wedi helpu cwmnïau i chwyldroi eu cadwyni cyflenwi a’u modelau logisteg gan hyrwyddo cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol.
  • Trawsnewid digidol ym maes trafnidiaeth – Mae’r sefydliad yn dod ag arbenigedd o bob rhan o fyd diwydiant, y byd academaidd a’r sector cyhoeddus ynghyd i fynd i’r afael â datgarboneiddio a chynaliadwyedd ym maes trafnidiaeth er mwyn gwireddu nodau sero net sy’n canolbwyntio ar bobl.
  • Trawsnewid digidol ym maes cyllid – Mae ymchwilwyr y sefydliad yn arbenigwyr ym maes blockchain a chrypto-arian, yn creu modelau i ragfynegi ymddygiad y marchnadoedd ariannol hyn sy’n dechrau dod i’r amlwg, yn ogystal â democrateiddio mynediad at y rhain drwy Gronfa Ddata Bitcoin Prifysgol Caerdydd. Rydyn ni hefyd yn arbenigwyr ar y ffordd mae ymddygiad dynol yn effeithio ar benderfyniadau ariannol a goblygiadau o ran amrywiaeth ym maes cyfrifeg a diwygio trethi.

Mae'r sefydliad hefyd yn ymdrin ag ystod o themâu galluogi, gan gynnwys seiberddiogelwch, ymchwil ar sefydliadau, cyfrifiadura dynol-ganolog, deallusrwydd artiffisial a gwyddor data.

Cynhaliwyd y lansiad ddydd Iau 25 Mai, yn adeilad sbarc|spark Prifysgol Caerdydd. Yn ystod y digwyddiad cafwyd y cyfle i weld y gwaith gwerthfawr y mae’r sefydliad yn ei wneud, a chafwyd cyflwyniadau gan bob un o'r cyd-gyfarwyddwyr yn ogystal â phartneriaid allanol ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa. Ymhlith y gwesteion roedd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a thu hwnt, y prif bartneriaid allanol a chynrychiolwyr o fyd diwydiant gan gynnwys DSV Solutions, Thales, Airbus, a Barclays.

Dyma a ddywedodd yr Athro Pete Burnap, Cyd-gyfarwyddwr y sefydliad: “Diben y Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol yw ychwanegu gwerth at ein partneriaid. “Rydyn ni’n dod â’r meddyliau gorau yn eu meysydd ynghyd, boed iechyd, cyllid, ynni neu drafnidiaeth – yn ogystal ag arbenigwyr sy’n arwain y byd yn y disgyblaethau sy’n gwneud trawsnewid digidol cynaliadwy yn bosibl – boed seiberddiogelwch, gwyddoniaeth wybyddol neu newidiadau sefydliadol.”

Dim ond pan fydd pobl a busnesau'n credu mewn newidiadau y gall trawsnewid digidol go iawn ddigwydd. Mae agwedd gyfannol at drawsnewid digidol sy’n cynnwys pobl, prosesau a thechnoleg yn greiddiol i’n hethos.
Yr Athro Pete Burnap Lecturer

Mae’r Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol yn rhan o fuddsoddiad gwerth £5.4 miliwn gan Brifysgol Caerdydd mewn pum sefydliad arloesi ac ymchwil sy’n mynd i’r afael â’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd.