Ewch i’r prif gynnwys

Ffocws byd-eang i sefydliadau arloesedd ac ymchwil Prifysgol Caerdydd

23 Mawrth 2023

Yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter  Prifysgol Caerdydd y tu allan i'r Sefydliad Brenhinol
Yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter Prifysgol Caerdydd y tu allan i'r Sefydliad Brenhinol

Mae Prifysgol Caerdydd yn buddsoddi £5.4m mewn pum sefydliad arloesedd ac ymchwil i fynd i'r afael â'r materion mwyaf sy'n wynebu cymdeithas, yr economi a'r amgylchedd.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio pum sefydliad arloesedd ac ymchwil sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein byd.

Cafodd y sefydliadau rhyngddisgyblaethol eu lansio yn y Sefydliad Brenhinol mawreddog yn Llundain ddydd Iau 9 Mawrth 2023.  
Bydd pob sefydliad yn darparu ymchwil gydag effaith fyd-eang ac yn dod ag academyddion o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i'r afael â rhai o'r materion mwyaf sy'n wynebu cymdeithas, yr economi a'r amgylchedd.

Mae'r sefydliadau yn fuddsoddiad ychwanegol sylweddol o gyllid ymchwil gwerth £5.4 miliwn ac wedi'u lleoli yn rhai o gyfleusterau mwyaf arloesol Prifysgol Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys sbarc|sbarc sy'n dod ag ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd myfyrwyr, a busnesau deillio academaidd at ei gilydd; y Ganolfan Ymchwil Drosi sy'n casglu arweinwyr y diwydiant a gwyddonwyr ynghyd i ddod o hyd i atebion gwyddonol cydweithredol i gyflawni sero-net; Adeilad Hadyn Ellis sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr mewn cyflyrau fel sgitsoffrenia, clefyd Alzheimer ac ymchwil canser bôn-gelloedd; a Champws Parc y Mynydd Bychan sy'n gartref i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Yn ôl yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ar gyfer Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd: "Mae ymchwil ac arloesedd yn mynd law yn llaw. Mae arloesedd rhagorol yn ffynnu ar ymchwil gwych. Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, mae cydweithio yn gryfder gwirioneddol. Rydyn ni'n dod â phobl at ei gilydd i weithio ar draws disgyblaethau, gan edrych ar yr un broblem o safbwyntiau gwahanol. Mae'r sefydliadau eisoes wedi sicrhau dros £23m mewn gwobrau newydd y flwyddyn academaidd hon, gan adlewyrchu'r gwaith blaengar y maent yn ei wneud."

Mae'r sefydliadau'n dilyn technolegau gwyrdd newydd, lefelau newydd o wytnwch diogelwch, i reoli clefydau acíwt a chronig drwy'r system imiwnedd, i leihau baich anhwylderau iechyd meddwl ac anhwylderau niwroddirywiol, a ffyrdd y gallwn ddefnyddio data a deallusrwydd artiffisial i gefnogi trawsnewid digidol. Bydd mynd i'r afael â'r heriau hyn yn creu dyfodol gwell i bob un ohonom.
Yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ar gyfer Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd

Roedd y digwyddiad lansio yn Llundain yn arddangos yr ymchwil a'r arloesedd ardderchog rhyngwladol sy'n cael ei wneud gan y sefydliadau ac yn gyfle i gynrychiolwyr o sefydliadau allanol allweddol gyfarfod ag aelodau'r sefydliadau i ddysgu mwy am eu gwaith ac archwilio meysydd cydweithredu posibl. Roedd y gwesteion yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau'r DU a Chymru, Cancer Research UK, IBM, a BP.

Rhannu’r stori hon

Dewch i wybod rhagor am ein sefydliadau a'r gwaith y maent yn ei wneud.