Ewch i’r prif gynnwys

Rhodd gwerth £5 miliwn i greu'r Ganolfan Niwrowyddoniaeth Drosiadol Hodge

27 Hydref 2022

yr Athro Jeremy Hall
yr Athro Jeremy Hall

Mae Sefydliad Hodge wedi dyfarnu £5 miliwn i Brifysgol Caerdydd i sefydlu Canolfan Niwrowyddoniaeth Drosiadol Hodge. Bydd y Ganolfan newydd yn canolbwyntio ar ddatblygu triniaethau newydd arloesol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn ac iselder difrifol.

Mae'r cyflyrau hyn yn cael effaith ddinistriol ar fywydau cleifion, gan effeithio'n aml ar deulu neu fywyd gwaith, gan ei gwneud hi'n anoddach i gadw swydd neu gartref.

Mynd ag ymchwil i'r lefel nesaf

Mae Prifysgol Caerdydd eisoes wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddeall risg genetig ar gyfer cyflyrau fel sgitsoffrenia ac iselder. Mae’r canfyddiadau diweddaraf yn dangos i ni “ble i edrych” yn yr ymennydd i ddeall y newidiadau sy’n cyfrannu at salwch meddwl a darparu cyfleoedd ar gyfer strategaethau therapiwtig newydd. Bydd Canolfan Niwrowyddoniaeth Drosiadol Hodge yn mynd â’r ymchwil hwn i’r lefel nesaf, ac yn gweithio ar ddatblygu prosiectau sydd â’r potensial i gyfrannu at effaith y byd go iawn i gleifion.

Bydd y Ganolfan newydd yn meithrin cysylltiadau agos â phartneriaid mewn diwydiant, y GIG a sefydliadau eraill i wella cydweithio, a chyflymu’r broses o droi ymchwil yn driniaethau. Bydd y Ganolfan yn cymryd canfyddiadau ymchwil diweddaraf gan ymchwilwyr niwrowyddoniaeth o safon fyd-eang y Brifysgol ac yn eu defnyddio i ddatblygu cyffuriau a therapïau newydd ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl difrifol.

Dros bum mlynedd, bydd y Ganolfan yn darparu 18 o ysgoloriaethau PhD a ariennir yn llawn. Bydd rhaglen Ysgoloriaeth PhD Hodge yn hyfforddi ac yn meithrin yr ymchwilwyr ifanc mwyaf disglair yn y sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â phroblem gymhleth anhwylderau'r ymennydd. Er mwyn rheoli rhaglen Ysgoloriaeth PhD o'r raddfa hon, mae Dr Kerrie Thomas wedi'i phenodi'n Gyfarwyddwr Rhaglen PhD. Bydd y cyllid hefyd yn darparu Darlithydd mewn Seiciatreg Gellog a Thechnegydd Arbenigol, yn ogystal â 'chronfa dalent' sy'n agored i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Bydd y rhith-ganolfan yn cael ei chyfarwyddo gan yr Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, a fu gynt yn arwain Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig. Bydd Cadair Prifysgol, sef 'Athro Hodge mewn Seiciatreg', yn cael ei chreu i sicrhau parhad ac etifeddiaeth gwaith y Ganolfan. Fel y Cadeirydd cyntaf, bydd yr Athro Hall yn cyflawni cenhadaeth y Ganolfan am flynyddoedd lawer i ddod.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Hodge am eu rhodd hael,” meddai’r Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr y Ganolfan newydd.

“Er bod datblygiadau sylweddol wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys gwaith arloesol yma yng Nghaerdydd, mae ymchwil i ddeall cyflyrau iechyd meddwl yn y DU wedi’i danariannu’n gronig. Mae'r diffyg gwybodaeth sylfaenol hwn wedi atal datblygiad strategaethau therapiwtig effeithiol, ac mae gan driniaethau cyfredol effeithiolrwydd cyfyngedig a sgîl-effeithiau sylweddol.

“Bydd Canolfan Niwrowyddoniaeth Drosiadol Hodge yn ein galluogi i wella ein dealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl difrifol, gan adeiladu ar yr ymchwil o safon fyd-eang sydd eisoes yn digwydd yng Nghaerdydd. Bydd y Ganolfan hefyd yn blaenoriaethu datblygiad partneriaethau allanol allweddol i drosi ein canfyddiadau yn effaith byd go iawn. Bydd y rhodd hon yn helpu i ddatgloi potensial ein darganfyddiadau diweddar ac yn rhoi’r offer, a’r meddyliau eithriadol sydd eu hangen, i ni helpu’r cleifion sydd ei angen, cyn gynted â phosibl.”

Mae'r ymrwymiad newydd hwn yn adeiladu ar berthynas hirsefydlog y Brifysgol â Sefydliad Hodge. Cafodd y Sefydliad ei sefydlu’n wreiddiol gan Syr Julian Hodge, a thrwy grantiau, mae’n cefnogi prosiectau elusennol sydd â’r potensial i helpu’r rhai sydd â’r angen mwyaf.

Meddai Karen Hodge, Ymddiriedolwr Sefydliad Hodge: “Rydym mor falch o fod yn cefnogi’r cam nesaf arwyddocaol hwn o ymchwil niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’n rhodd fwyaf hyd yma. Gwyddom effaith grantiau blaenorol i’r Brifysgol a’r darganfyddiadau sydd wedi deillio o’r berthynas hon, felly rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld Canolfan Niwrowyddoniaeth Drosiadol Hodge yn dod yn fyw. Mae’r Sefydliad wedi ymrwymo i wella’r driniaeth sydd ar gael i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl ac rydym yn cydnabod mai dim ond trwy gefnogi ymchwil sy’n arwain y byd y bydd hyn yn bosibl.”

Bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar driniaethau newydd ar gyfer rhai o’r cyflyrau iechyd meddwl sy’n cael eu camddeall fwyaf, sy’n dal i fod yn destun llawer o stigma ac sy’n aml yn cael eu camddiagnosio.

‘Cam sylweddol ymlaen’

Croesawodd Alan Meudell o Ystrad Mynach, cynrychiolydd cleifion ar astudiaethau triniaeth iechyd meddwl blaenorol Prifysgol Caerdydd, a hyrwyddwr cyfranogiad y cyhoedd a chleifion, y Ganolfan newydd.

Yn 2000 cafodd ddiagnosis o iselder clinigol, ond ar ôl sawl blwyddyn yn ymladd am y diagnosis cywir, cafodd ddiagnosis newydd o anhwylder deubegwn. Dywedodd Alan:

“Pan es i at fy meddyg teulu am y tro cyntaf, fe wnaethon nhw gynnig gorchymyn adran 8 i mi. Gwelais lawer o wahanol ymarferwyr iechyd a chymerodd amser hir i gael y diagnosis cywir, y feddyginiaeth gywir, a sefydlogi fy nghyflwr. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn yn ddi-waith a chwalodd fy mherthynas.

“Rwyf bellach yn gweithio i gynnwys cleifion yn fwy mewn ymchwil ac mewn treialon, ond gwn y gall fod yn ddegawdau cyn bod y triniaethau hyn ar gael yn eang. Mae cymryd ymchwil a'i gael i'r byd go iawn fel ei fod o fudd i bobl mor bwysig. Mae’r ffaith y bydd y Ganolfan newydd hon yn helpu i ddod â thriniaethau newydd, mwy datblygedig i ddwylo cleifion yn gyflymach, yn gam sylweddol ymlaen.

“Rydw i wedi dod i delerau bod fy nghyflwr iechyd meddwl yn rhan o bwy ydw i. Ond fy ngobaith yw na fydd yn rhaid i eraill frwydro a cholli blynyddoedd o’u bywyd fel y gwnes i.”

Bydd Canolfan Hodge ar gyfer Niwrowyddoniaeth Drosiadol wedi’i lleoli yn adeilad Hadyn Ellis, cartref Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl y Brifysgol. Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol fydd yn gyfrifol amdani. Mae yng nghanol Campws Arloesedd y Brifysgol – amgylchedd ymchwil ffyniannus â chyfleusterau o’r radd flaenaf, lle mae ymchwilwyr yn mynd i’r afael â heriau mawr ein hoes.

Croesawodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor y rhodd, un o’r rhai mwyaf yn hanes y Brifysgol:
“Rwyf mor falch y bydd ein partneriaeth hirsefydlog gyda Sefydliad Hodge yn parhau i fod yn sail i ymchwil niwrowyddoniaeth sy'n newid bywydau. Mae ein harbenigwyr blaenllaw ym maes niwrowyddoniaeth yn golygu bod Prifysgol Caerdydd mewn sefyllfa unigryw o dda i wneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hollbwysig hwn. Trwy fuddsoddi yn y meddyliau ifanc disgleiriaf, mae Sefydliad Hodge yn creu etifeddiaeth o driniaeth well ar gyfer rhai o’r cyflyrau iechyd meddwl mwyaf heriol.”

Mae rhoddion fel y rhain gan Sefydliad Hodge, yn ogystal â'r rhai gan unigolion a sefydliadau hael, yn helpu Prifysgol Caerdydd i ariannu ymchwil sy'n arwain y byd, meithrin arloesedd a darparu gwasanaethau cymorth rhagorol i fyfyrwyr. Darganfod mwy am gefnogi ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon