Hyfforddi arbenigwyr data y dyfodol
21 Mehefin 2019
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn lansio Academi Gwyddor Data (DSA) newydd sbon er mwyn diwallu'r galw am raddedigion medrus iawn o ddiwydiant.
Bydd y DSA yn gofalu bod Cymru yn paratoi graddedigion medrus a chyflogadwy iawn yn rhai o feysydd cyflymaf eu twf a lle mae’r galw mwyaf megis gwyddor data, deallusrwydd artiffisial a seiberddiogelwch.
Bydd y gyfres o raglenni ôl-raddedig yn seiliedig ar fodel llwyddiannus iawn Academi Genedlaethol Meddalwedd Prifysgol Caerdydd lle mae myfyrwyr yn cael profiad o fyd gwaith trwy gydol cyfnod eu gradd drwy weithio fesul tîm mewn prosiectau sy'n ymwneud â chleientiaid.
Bydd yr Academi, sy'n cael ei chynnal gan Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â'r Ysgol Mathemateg, yn croesawu ei myfyrwyr cyntaf fis Medi 2019.
Bydd yn gweithredu fel ymbarél ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth data sy'n bodoli eisoes yn y Brifysgol, yn ogystal ag ymgorffori MSC mewn Deallusrwydd Artiffisial a MSc mewn Seiberddiogelwch newydd sbon.
Mae galw mawr am wyddonwyr data mewn nifer o sectorau a diwydiannau am eu bod yn gallu nodi ffyrdd gwell o gyflawni gorchwylion cymhleth megis helpu meddygon i adnabod clefydau yn fwy effeithiol neu alluogi pobl i gyfathrebu ledled y byd trwy gyfrwng meddalwedd sy'n adnabod lleferydd ac yn cyfieithu ieithoedd yn y fan a'r lle.
Mae DSA wedi'i sefydlu yn sgîl y galw hwnnw a'r ffaith bod angen graddedigion medrus ac uchelgeisiol iawn ar sawl diwydiant.
Yn ôl adroddiad annibynnol am dwf diwydiant deallusrwydd yn y DU yn 2017, mae galw am bobl fedrus a chanddynt radd meistr neu ddoethuriaeth yn ogystal â'r "profiad ymarferol ychwanegol" sy'n diwallu anghenion y byd diwydiannol.
Ar ben hynny, dywedodd yr adroddiad y gallai technoleg gynyddu cynhyrchiant, cryfhau gofal iechyd, gwella gwasanaethau i gwsmeriaid a rhoi £650 biliwn ar gael i economi'r deyrnas.
O ganlyniad, mae'r Llywodraeth wedi ceisio rhoi'r DU ar flaen y gad o ran Deallusrwydd Artiffisial a'r chwyldro data trwy ei enwi yn un o'r pum Her Fawr sy'n creu'r Strategaeth Ddiwydiannol.
Yng Nghymru, mae Swyddfa’r Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru wedi amlygu'r galw cynyddol am wyddonwyr data o ganlyniad i brinder llafur medrus yn y sectorau ariannol, llywodraethol a gofal iechyd.
Dywedodd Dr Federico Cerutti, Cyfarwyddwr Academaidd yr Academi Gwyddor Data: "Mae datblygiadau technolegol wedi galluogi mynediad at ddata mawr ar gyfradd heb ei thebyg. O ffonau clyfar i synwyryddion, mae technoleg yn creu ffrydiau data sydd â photensial o ddod â manteision economaidd a chymdeithasol mawr, gan greu cynhyrchion a gwasanaethau cwbl newydd ar yr un pryd.
"Trwy greu yr Academi Gwyddor Data, rydym yn gwneud yn siŵr bod gan ein graddedigion yn cael profiad o fywyd go iawn. Ategir hyn gan sylfaen gadarn o wybodaeth, fel bod modd iddynt fwrw ati o ddifrif ar ôl camu i fyd gwaith."