Academi Gwyddor Data
Mae Academi Gwyddor Data yn ganolfan ar gyfer gwyddoniaeth ddwys ei data ac mae wedi’i sefydlu i addysgu’r to nesaf o arbenigwyr yn y maes hwn.
Rydym yn ganolfan addysg ryngddisgyblaethol ac mae gennym wyddonwyr data, mathemategwyr ac arbenigwyr cyfrifiadurol.
Gallwch chi sbarduno’ch gyrfa trwy ein maes llafur arloesol, gan gydweithio’n agos â diwydiannau i wella’ch cyflogadwyedd.
Rydyn ni’n chwilio ym mhob sector am gwmnïau a fydd yn cyffroi, yn ysgogi ac yn estyn y to nesaf o wyddonwyr data.