Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen uwchgyfrifiadura yn lansio yng Nghymru

12 Hydref 2018

Karen Holford

Mae prosiect £15m sy’n gobeithio sicrhau bod Cymru’n arweinydd ym maes cyfrifiadura perfformiad uchel a data mawr wedi cychwyn yn swyddogol ar ôl digwyddiad lansio yn y Senedd.

Bydd prosiect Uwchgyfrifiadura Cymru, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn dod â phrifysgolion Abertawe, Bangor ac Aberystwyth at ei gilydd i ddatblygu prosiectau ymchwil blaengar gan ddefnyddio’r cyfleusterau cyfrifiadura diweddara.

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan £9m trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru, a darparwyd arian cyfatebol trwy fuddsoddiad gwerth miliynau gan bartneriaid y brifysgol.

Bydd yr arian yn talu am ddau ganolbwynt uwchgyfrifiadura yng Nghaerdydd ac Abertawe, lle bydd ystafell lawn o’r cyfarpar a’r meddalwedd cyfrifiadura perfformiad uchel diweddaraf, wedi’u darparu gan Atos a Dell EMC.

Bydd y bartneriaeth rhwng Uwchgyfrifiadura Cymru, Atos a Dell EMC yn creu Canolfan Ragoriaeth Uwchgyfrifiadura gyntaf y byd.

Bydd Peirianwyr Meddalwedd Ymchwil yn gweithio gydag ymchwilwyr ar draws y consortiwm i ddatblygu algorithmau a meddalwedd wedi’i theilwra sy’n harneisio pwer y cyfleusterau uwchgyfrifiadura, er mwyn cyflawni tasgau cyfrifiadurol lluosog yn gyflym iawn ar yr un pryd.

Bydd y Grŵp Ffiseg Disgyrchiant ym Mhrifysgol Caerdydd yn elwa o'r cyfleusterau hyn, ar ôl cyhoeddi’n ddiweddar eu bod wedi canfod y tonnau disgyrchiant cyntaf erioed fel rhan o gonsortiwm LIGO (Laser Interferometer Gravitational-Wave Observatory).

Mewn blynyddoedd i ddod, bydd tonnau disgyrchiant yn galluogi ymchwilwyr i edrych ar graidd ffrwydradau sêr, archwilio strwythur sêr niwtron – ac efallai y gwelwn ffenomena hollol newydd ac annisgwyl a fydd yn herio ein dealltwriaeth bresennol o'r bydysawd.

Bydd Parc Geneteg Cymru sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd hefyd yn manteisio ar y cyfleusterau, a fydd yn ei helpu i ddatblygu ei ymchwil arloesol sy'n rhoi dealltwriaeth, diagnosis a thriniaethau ar gyfer ystod eang o glefydau etifeddol a chanser.

Yn siarad cyn y lansio yn y Senedd, dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Cyfarwyddwr Academaidd Uwchgyfrifiadura Cymru ac ymchwilydd yn yr Ysgol Gyfrifiadureg a Gwybodeg: “Bydd Uwchgyfrifiadura Cymru yn dadgloi’r galluoedd ymchwil o’r radd flaenaf sydd gennym yma yng Nghymru, ac yn rhoi’r wlad mewn sefyllfa gadarn i fedru cystadlu ar draws y byd.

Dywedodd Gavin Thomson, Is-Lywydd Uwch, Data Mawr a Diogeledd UK&I, Cymru, yr Alban, Iwerddon, Atos: “Rydym wrth ein bodd yn ymwneud ag Uwchgyfrifiadura Cymru er mwyn creu Canolfan Ragoriaeth Uwchgyfrifiadura gyntaf y byd.  Gyda’n gilydd, drwy weithio gyda’n partner technoleg Dell EMC, rydym ni’n helpu i adeiladu ar uchelgais Cymru, sef dod yn economi ddigidol ddeinamig sydd ymhlith y gorau yn y byd.  Mae’r wlad wedi cymryd camau pwysig tuag at gyflawni’r uchelgais honno, a bydd hyn yn cyflymu llwybr Cymru at fod yn arweinydd ym maes ymchwil uwchgyfrifiadura.”

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.