Ewch i’r prif gynnwys

2012

Keyboard close up

O yfory ymlaen, bydd golwg a theimlad newydd yn cyfarch ymwelwyr â gwefan y Brifysgol wrth i ni lansio cam cyntaf dylunio ein gwefan o'r newydd.

Bydd hafan ac ardaloedd recriwtio myfyrwyr y wefan sydd wedi cael eu dylunio o'r newydd yn cael eu lansio yfory. Bydd tudalennau eraill, gan gynnwys Am y Brifysgol, Ymchwil ac A-Z yn cael eu datgelu dros y 7 diwrnod nesaf.

Y lansio yw canlyniad gweledol cyntaf Prosiect Gweddnewid y We a sefydlwyd i alluogi'r Brifysgol i greu a rheoli cynnwys gwe a fyddai'n arwain y sector mewn ffyrdd gwell a mwy llachar nag o'r blaen.

Gyda'r tudalennau newydd gwelir cyflwyno dyluniad sy'n cynrychioli uchelgais, hyder ac enw da Caerdydd yn ddigidol. Mae hefyd yn lletach ac yn fwy addas i'r ystod o sgriniau y mae ymwelwyr yn eu defnyddio, gyda darpariaeth i ffonau symudol, setiau teledu sgrin lydan a thabledi ar gael yn gynnar yn 2013.

Mae pennyn y wefan yn cynnwys eicon newydd sy'n defnyddio'r 'C' o logo'r Brifysgol, mewn bloc o goch Caerdydd ac mae'n cynrychioli hunaniaeth ddigidol Caerdydd ar lein. Nid yw'r eicon yn disodli logo'r Brifysgol ac at ddefnydd ar bennyn cyffredinol gwefan y Brifysgol yn unig y mae ac, yn y pen draw, ar gyfer ein eiconau rhwydweithio cymdeithasol, lle byddai'n amhosibl darllen y prif logo, o'i ddefnyddio. Ni ddylid defnyddio'r eicon C mewn unrhyw amgylchiadau eraill. Ceir canllawiau i'r hunaniaeth weledol ar lein.

Meddai Scott Hill, Rheolwr Rhaglen Gweddnewid y We: "Rydyn ni'n hynod gyffrous o weld cam cyntaf y dyluniad gweledol newydd yn dod yn fyw. Mae gwaith enfawr wedi dechrau'n barod i'n helpu i'n cael ni i'r man hwn ac edrychwn ymlaen at rannu camau pellach y daith gyffrous hon.

"Agwedd bwysig arall ar y dyluniad yw ei fod yn cyd-fynd yn well â gofynion swyddogaethol cynnwys a gwasanaethau'r mewnrwyd y byddwn yn dechrau eu datblygu'r flwyddyn nesaf.

"Yr agwedd bwysicaf ar y dyluniad gweledol yw'r hyblygrwydd y mae'n ei gynnig. Dros y misoedd nesaf byddwn yn ehangu'r dyluniad newydd: yn gyntaf i brif ardaloedd eraill y safle ac yna ymhellach. Bydd y broses hon yn cynnwys ymgynghori ag ysgolion ac eraill i sicrhau y gellir cadw a gwella cymeriad penodol cynnwys yr ysgolion."

Rhan yn unig o waith Prosiect Gweddnewid y We yw'r dyluniad gweledol. Eisoes mae'r prosiect wedi gwerthuso a chaffael System Rheoli Cynnwys Gwe Squiz Matrix, a fydd yn gweithio wrth ochr Wordpress i greu isadeiledd i gynnwys a gwasanaethau gwe'r Brifysgol yn y dyfodol. Mae'r prosiect yn symud ymlaen bellach at y gwaith o gyflwyno gwefannau peilot gan Squiz Matrix.

Ychwanegodd Scott Hill: "I unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn cynnydd y prosiect mae gennym gymuned Cysylltiadau rydym yn ei diweddaru'n gyson ac yn ei defnyddio i gael adborth. Gallwch gael gafael arni yma."

Operation Ouch!

Mae Dr Kelly BéruBé o Ysgol y Biowyddorau wedi cymryd rhan mewn cyfres feddygol newydd sbon ar gyfer CBBC o'r enw Operation Ouch!

Caiff y bennod, o'r enw When snot is green and when it's snot, ei darlledu ar ddydd Mercher 19 Rhagfyr ar sianel CBBC .

Cafodd y gyfres newydd hon, a gyflwynir gan yr efeilliaid unfath Dr Chris a Dr Xand van Tulleken, ei chynllunio i gyfleu ffeithiau anhygoel am y corff dynol i wylwyr iau.

Mae fformat y rhaglen yn dilyn y cyflwynwyr wrth iddynt arbrofi ac archwilio eu ffordd drwy fyd meddygaeth a bioleg, gan ddangos ac esbonio'r pethau hynod y gall ein cyrff eu gwneud.

Ym Mhennod 12, When snot is green and when it's snot, mae Dr Chris van Tulleken yn ymweld â Dr Kelly BéruBé yn Ysgol y Biowyddorau i ddysgu am realiti angenrheidiol mwcws a fflem, gan gynnwys ein hamddiffyn rhag germau firaol, bacteriol a ffwngaidd.

'Mae mwcws wedi cael ei gymharu ag olew mewn injan car a hebddo, mae'r injan yn stopio,' meddai Dr Kelly BéruBé, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil yr Ysgyfaint a Gronynnau.

Mae pilenni sy'n cynhyrchu mwcws yn leinio'r geg, y trwyn, y sinysau, y gwddf, yr ysgyfaint, y llwybrau gastroberfeddol a throethgendhedlol, a'r systemau gweledol a chlywedol, ac maent yn gweithio fel blanced i amddiffyn yr arwynebau epitheliol hyn.

'Os nad ydych yn cadw'r meinweoedd hyn yn llaith ac yn iredig bydd gennych wendid yn arfwisg eich corff, oherwydd bydd y meinweoedd hyn yn sychu, yn cracio ac yn caniatáu i germau fynd i mewn i'ch system,' meddai Dr BéruBé. 'Mae angen i amgylchedd ein llwybrau anadlu fod yn ddiheintiedig, ac mae'r mwcws gludiog yn rhwystro malurion nas dymunir rhag cyrraedd rhannau isaf yr ysgyfaint.'

Yn ystod y bennod mae Dr BéruBé yn dangos i Dr Chris van Tulleken, drwy archwilio lliw, ansawdd a gludedd ei fflem a'r malurion sydd ynddi, ei bod yn bosibl pennu statws ei iechyd, pa un a yw'n byw yn y ddinas neu yng nghefn gwlad a hyd yn oed os yw'n bwyta siocled neu gynnyrch llaeth. Mae Dr BéruBé yn cymryd fflem o'i ysgyfaint ac yn paratoi samplau microsgop er mwyn dangos iddo sut i wneud diagnosis o glefydau anadlol a rhagfynegi galwedigaeth a ffordd o fyw unigolyn.

Maent hefyd yn edrych ar beth sy'n digwydd pan fyddwn yn cael annwyd cyffredin. 'Pan fydd annwyd arnoch, mae eich system imiwnedd yn anfon llu o gelloedd gwaed gwyn o'r enw niwtroffiliau i'r ardal. Mae'r celloedd hyn yn cynnwys ensym lliw gwyrdd a gall niferoedd mawr ohonynt droi'r mwcws yn wyrdd,' esbonia Dr BéruBé.

Mae'r bennod wedi'i chynllunio i addysgu plant bod angen i'r holl feinweoedd ac organau dynol sy'n agored i'r amgylchedd (h.y. y systemau anadlol, gastroberfeddol, troethgenhedlol, atgenhedlol, clywedol a gweledol), gael eu hamddiffyn rhag germau firaol, bacteriol a ffwngaidd.

'Yn Operation Ouch, rydym wedi ceisio gwneud rhaglen y byddem ni wedi'i mwynhau pan oeddem yn 10 mlwydd oed! Gwnaethom ddechrau ffilmio drwy feddwl y gallem esbonio sut mae'r corff yn gweithio yn rhwydd ond mewn gwirionedd rydym wedi darganfod llawer mwy amdano ein hunain,' meddai'r cyflwynydd Dr Xand van Tulleken.

Gallwch wylio Dr Kelly BéruBé ar ddydd Mercher 19 Rhagfyr am 5.45pm ar Sianel CBBC.

Police officers

A University-designed violence prevention model has been adopted by the Dutch government in an effort to reduce violent behaviour.

Seven hospitals in Amsterdam, the Mayor of Amsterdam, the Ministry of Justice and Ministry of Health, the Amsterdam police force, VeiligheidNL, the health service, health insurance company Achmea and the local council have now signed an agreement to pilot the Cardiff model in an effort to combat violence in the Dutch capital.

In 2011 a group which included the Chief Inspector of the Amsterdam police force, spent two days at the University learning about the Cardiff Model and how it has successfully reduced hospital admissions for violence by 42% in the capital when compared with 14 similar cities in England and Wales, by using information obtained from victims who end up in hospital to identify violence hotspots such as street locations, nightclubs, park settings, schools and also victims injured in domestic violence.

Professor Jonathan Shepherd said: "This very welcome development demonstrates the impact of the work of the Violence & Society Research Group and the translation of new discoveries into original practical action, first with police and local government in Cardiff where this model was tested and refined and now in a major world capital."

Holland is not the first country to follow the Cardiff model. There are also projects in place in the United States, for example in Milwaukie and a similar operation is already going ahead in the Western Cape, South Africa.

The Violence & Society Research Group's pioneering research into violence, alcohol and late-night safety was recognised with a Queen's Anniversary Prize for excellence in higher education in 2009.

Welsh language sabbatical scheme

Derbyniodd athrawon, darlithwyr a chynorthwywyr ystafell ddosbarth sydd wedi gwella lefel eu Cymraeg gydnabyddiaeth am eu cyflawniadau mewn seremoni wobrwyo flynyddol.

Yn seremoni wobrwyo y Cynllun Sabothol Cymraeg a gynhaliwyd yn Neuadd Aberdâr, dan nawdd Ysgol y Gymraeg, derbyniodd y cyfranogwyr eu tystysgrifau gan y newyddiadurwraig, darlledwraig a chyn fyfyrwraig Prifysgol Caerdydd, Sian Lloyd, ar ôl iddynt gwblhau eu cyrsiau'n llwyddiannus.

Mae'r cynllun yn fenter gwerth sawl miliwn o bunnoedd a ddyluniwyd i helpu gweithwyr proffesiynol sy'n addysgu i godi safon eu Cymraeg ac i fagu'r hyder i ddefnyddio'r iaith gyda'r nod gyffredinol o wella safonau mewn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae cyrsiau lefel Sylfaenol a chyrsiau lefel mynediad yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a chyrsiau lefel uwch yng Nghaerdydd a rhanbarth y de ddwyrain yn cael eu cyflwyno gan Ysgol y Gymraeg.

Dywedodd Lowri Davies, cydlynydd y Cynllun yng Nghaerdydd: "Roedd yn hyfryd cael cyfle i ddathlu cyflawniadau'r ymarferwyr ac i glywed cynifer ohonynt yn defnyddio'r Gymraeg yn hyderus."

Dr Arwyn Jones

Mae Caerdydd yn rhan o gonsortiwm Ewropeaidd o bwys sy'n ceisio gwella'r broses o droi molecylau therapiwtig newydd yn feddyginiaethau effeithiol.

Mae'r prosiect COMPACT €30M a ariennir gan Fenter Meddyginiaethau Arloesol Ewrop (IMI) a Ffederasiwn Cymdeithas a Diwydiannau Fferyllol Ewrop (EFPIA) wedi'i ddylunio i gyflwyno a thargedu biofferyllaeth yn well ar sail macromolecylau biolegol fel genynnau a phroteinau.

Dr Arwyn Jones o'r Ysgol Fferyllaeth a'r Gwyddorau Fferyllol sy'n arwain rôl Caerdydd yn y rhaglen ymchwil bum mlynedd o hyd. Dr Mark Gumbleton, sydd hefyd o'r Ysgol, a Dr Pete Watson a'r Athro Paola Borri o Ysgol y Biowyddorau yw aelodau eraill y tîm.

Meddai Dr Jones: "Mae y tu mewn i gelloedd yn cynnwys miloedd o dargedau therapiwtig newydd ar gyfer trin clefydau fel canser, niwroddirywiad a chlefydau genetig prin. Yn gynyddol, endidau biolegol yw'r therapiwtegau hyn ac mae angen fector i'w cyflwyno y tu mewn i gelloedd.

"Datrys y dagfa o gyflwyno biofferyllaeth i mewn i gelloedd yw un o brif orchwylion COMPACT. Gyda lwc, bydd yn arwain at ddatblygu systemau newydd o gyflwyno cyffuriau sy'n cyflwyno therapiwtegau'n effeithlon i gyrraedd targedau mewngellol.

Mae Caerdydd yn gysylltiedig â'r ymchwil hwn ochr yn ochr â 13 sefydliadau academaidd Ewropeaidd, dau gwmni biodechnegol a saith cwmni fferyllol blaenllaw. Mae pob un o'r rhain ymysg y ceffylau blaen yn Ewrop ym maes y gwyddorau fferyllol, nanodechnoleg, bywydeg, cemeg, peirianneg a bioddelweddu.

Meddai Ekkehard Leberer, o Sanofi a chydlynydd gwyddonol COMPACT: "Mae consortiwm COMPACT yn cynnig posibiliadau ardderchog i ddod ynghyd er mwyn mynd i'r afael â her o bwys yn natblygiad biotherapiwtegau arloesol drwy gyfuno ymchwil sylfaenol academaidd a datblygu cyffuriau yn y diwydiant fferyllol."

Ychwanegodd Enrico Mastrobattista o Brifysgol Utrecht, sy'n arwain y consortiwm academaidd: "Mae'r bartneriaeth gyhoeddus-breifat unigryw hon rhwng sefydliadau o bwys yn y maes fferyllol yn gyfle hynod gyffrous i weithio ar y broblem o gyflwyno biofferyllau. Dim ond gyda chydweithrediad ar y raddfa hon y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r problemau brys sy'n amharu ar ddatblygu biofferyllau cychwynnol yn feddyginiaethau defnyddiol."

Professor Srikant Sarangi

Mae un o wyddonwyr cymdeithasol mwyaf blaenllaw'r Brifysgol wedi cael un o acoladau mwyaf ei faes.

Mae'r Athro Srikant Sarangi o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi'i benodi'n Academydd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol am ei gyfraniad rhagorol at faes y gwyddorau cymdeithasol.

Fel Academydd, bydd yr Athro Sarangi yn helpu i gefnogi cenhadaeth yr Academi sef hyrwyddo'r gwyddorau cymdeithasol er lles y cyhoedd. Bydd yn gwneud hyn drwy helpu i ymateb i ymgynghoriadau'r Llywodraeth ar ran cymuned y gwyddorau cymdeithasol. Bydd hefyd yn trefnu digwyddiadau a seminarau ac yn noddi nifer o gynlluniau sy'n hyrwyddo maes y pwnc.

Meddai'r Is-ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Mae'r ffaith fod yr Athro Sarangi wedi'i benodi'n rhan o'r Academi hynod nodedig hwn yn bluen yn ei het ac yn rhoi clod i'r Brifysgol yn ogystal. Unwaith eto, mae'n tynnu sylw at y ffaith fod Caerdydd yn un o'r sefydliadau mwyaf uchel ei barch ym maes addysgu ac ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU."

Srikant Sarangi yw'r Athro Iaith a Chyfathrebu yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Dadansoddi mynegiant, ieithyddiaeth gymhwysol ac iaith a hunaniaeth mewn bywyd cyhoeddus yw ei brif ddiddordebau ymchwil.

Yr Athro Sarangi hefyd yw Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Cyfathrebu Iechyd. Menter ryngddisgyblaethol yn y Brifysgol yw hon sy'n cydlynu ymchwil am gyfathrebu a mynegiant ym maes eang iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.

Ers ei sefydlu ym 1997, mae'r Ganolfan wedi cael bri rhyngwladol am ei hymchwil, ei datblygiad proffesiynol a'i gweithgareddau allgymorth a dargedir ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ym mhob maes.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd yr Athro Sarangi: "Mae'r gydnabyddiaeth hon wedi dod ar adeg pan mae ymchwil am iaith/cyfathrebu ar sail ymarferion ym maes gofal iechyd yn dechrau cael effaith. Ni ellir diystyru materion iaith/ cyfathrebu mewn cysylltiad â chyflwyno gofal iechyd. O ran hyfforddi sgiliau proffesiynol, fodd bynnag, rhaid sylweddoli nad yw un iaith/dull cyfathrebu yn gweddu pob sefyllfa.

"Derbyn bod iaith/cyfathrebu yn rhan annatod o ailgyflwyno'r natur ddynol mewn gofal iechyd yw'r her, a hynny mewn cymdeithas cynyddol fyd-eang ac amrywiol o ran iaith/diwylliant."

Ychwanegodd yr Athro Cary Cooper CBE, Cadeirydd yr Academi: "Mae mor bwysig bod gan y gwyddorau cymdeithasol lais cryf a chynhwysfawr i allu cynrychioli ei waith hanfodol."

Mae'r Athro Sarangi yn ymuno â rhestr faith o wyddonwyr cymdeithasol o'r Brifysgol sydd wedi eu penodi'n academyddion. Mae cyn-enillwyr y wobr yn cynnwys yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-ganghellor, Coleg Biofeddygol a'r Gwyddorau Cymdeithasol; yr Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil i Leoedd Cynaliadwy a'r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Community journalism

Gwahoddir ymchwilwyr, meddylwyr ac ymarferwyr blaenllaw ym maes newyddiaduraeth gymunedol i gynhadledd yn y Brifysgol yn y Flwyddyn Newydd i edrych ar arloesi a chyfleoedd yn y sector hwn sy'n prysur esblygu.

Caiff y gynhadledd, a gyflwynir gan y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, ei chynnal ddydd Mercher 16 Ionawr 2013 a bydd yn archwilio'r ymchwil ddiweddaraf a phrofiad ymarferol o ran newyddiaduraeth hyperleol a chymunedol.

Bydd y gynhadledd hefyd yn archwilio'r potensial am ymgysylltu â chymunedau a'u grymuso gan ddefnyddio technolegau digidol a rhwydweithiau cymdeithasol mewn ffyrdd arloesol, cost isel a chynaliadwy.

Dywedodd yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth yn yr Ysgol: "Mae newyddiaduraeth gymunedol yn dod i'r amlwg fel ffordd arloesol o lenwi'r bwlch newyddion a grëir gan ddirywiad papurau newydd lleol ynghyd â rhai enghreifftiau cyffrous ac ysbrydoledig o'r hyn y gellir ei wneud heb fawr ddim cost, a hynny gydag angerdd, sgil a dyfalbarhad. Mae gan y sector hwn botensial enfawr i greu maes newydd ac annibynnol wedi'i wneud gan gymunedau ac ar eu cyfer. Mae angen i bobl leol ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth a barn o ran yr hyn sydd ar garreg eu drws ynghyd â meddu ar fan i bobl eraill glywed eu llais.

"Yn debyg i bob maes menter newydd, mae angen meithrin a rhwydweithio ymarferwyr ac i ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd a ffactorau allweddol ar gyfer llwyddiant. Dyna pam mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Caerdydd yn dod â chyfranogwyr blaenllaw yn y maes at ei gilydd."

Bydd siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys Jan Schaffer, Rheolwr-gyfarwyddwr y Sefydliad Newyddiaduraeth Ryngweithiol yn Washington DC a Damian Radcliffe, awdur yr adolygiad cyntaf o'r sector yn y DU.

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar gael yn: http://caerdydd.ac.uk/jomec/conference/community_journalism_conference/index.html

John Viriamu Jones

Mae'r awdur a ysgrifennodd fywgraffiad am fywyd a gwaith prifathro cyntaf y Brifysgol wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed.

Roedd Neville Masterman yn hanesydd a addysgodd yn Budapest cyn yr Ail Ryfel Byd ac ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddarach, a dathlodd ei ben-blwydd arbennig ar 28 Tachwedd 2012.

Cyhoeddwyd ei lyfr, Viriamu Jones 1856-1901, Pioneer of the Modern University, ym 1957. Roedd y llyfr yn trin a thrafod bywyd John Viriamu Jones a oedd yn ffisegydd ifanc disglair a benodwyd yn Brifathro cyntaf Caerdydd ac yntau'n 27 oed yn unig.

Wrth sôn am Neville, dywedodd David Boucher, Athro Damcaniaeth Wleidyddol a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol yr Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth: "Drwy gydol gyrfa hir a disglair Neville Masterman fel hanesydd, daeth yn arbenigwr mewn gwleidyddiaeth a materion cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys diwygio prifysgolion. Ef yw awdur y bywgraffiad o'n Prifathro cyntaf, Viriamu Jones. Roedd y llyfr yn seiliedig ar drafodaeth ar y BBC i goffau canmlwyddiant geni'r Prifathro ym 1956.

"Mae Neville yn parhau'n weithgar ac mae'n trefnu clwb cinio ym Mhrifysgol Abertawe bob dydd Gwener ar gyfer cyfeillion a chydweithwyr."

Celebrating Welsh design

Cydnabuwyd Canolfan Ymchwil yn yr Amgylchedd Adeiledig, Caerdydd gan wobr genedlaethol sy'n dathlu'r gorau mewn dylunio yng Nghymru.

Rhoddodd beirniaid Gwobr Dewi Prys-Thomas gymeradwyaeth i'r Ganolfan (CRiBE) am ei gwaith ymchwil arloesol a'i henw da rhyngwladol ym maes dylunio amgylcheddol, effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau a datblygiad cynaliadwy trefol.

Mae'r Ganolfan, sydd wedi ei lleoli yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yn cael ei harwain gan yr Athro Phil Jones ac yn arddel ymagwedd ryngddisgyblaethol gyfannol at ddylunio. Mae wedi cynhyrchu modelau rhagfynegiad amgylcheddol ar gyfer dinasoedd ac adeiladau unigol fel ei gilydd a modelau strategaeth ar gyfer ailgylchu a gwastraff.

Mae Gwobr Dewi Prys-Thomas yn wobr fawreddog Gymreig sy'n cydnabod pwysigrwydd dylunio da i ansawdd bywyd, hunaniaeth ac adfywiad Cymru. Cafodd ei henwi ar ôl yr athro a'r pensaer Dewi Prys-Thomas, a oedd yn adnabyddus fel eiriolwr dros Gymru a'i hamgylchedd.

Honouring nurses

Mae myfyrwyr nyrsio presennol a blaenorol Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cydnabod am eu harfer gorau a'r lefel eithriadol o ofal y maent yn ei darparu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Gwobrau Nyrs y Flwyddyn gyntaf erioed Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi dathlu nyrsys sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at ofal cleifion a'r proffesiwn nyrsio.

Enillydd y wobr Nyrs Glinigol Arbenigol oedd Nicola West, myfyrwraig PhD ran-amser yn yr Ysgol Nyrsio ac Astudiaethau Bydwreigiaeth. Roedd cyfanswm o chwe chyn-fyfyriwr o'r Ysgol wedi eu henwebu neu wedi derbyn gwobrau am eu gwaith.

Mae Nicola wedi arwain gofal y fron yng Nghaerdydd ers iddi ymgymryd â swydd Uwch Nyrs Gofal y Fron ym 1991. Mae hi wedi datblygu'r gwasanaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae ei harbenigedd yn cael ei werthfawrogi a'i gydnabod yn eang trwy alwadau i gyfrannu at ddatblygu polisi Cymru gyfan.

Wrth siarad am ei gwobr, meddai Nicola: "Roeddwn wrth fy modd i dderbyn gwobr Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ar gyfer Nyrs Glinigol Arbenigol. Mae'n deimlad gwych i gael fy nghydnabod gan nyrsys eraill a'm henwebu ar gyfer gwobr mor fawreddog. Roedd yn noson wirioneddol gofiadwy ac yn gyfle gwych i ddathlu llwyddiant nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru."

Louise Poley, cyn-fyfyrwraig MSc yng Nghaerdydd, a enillodd y wobr Nyrs y Flwyddyn yng ngwobrau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Disgrifiwyd Louise gan y panel dyfarnu fel 'hyrwyddwr yn ei maes', ar ôl arwain prosiect amlasiantaethol i gynnig gwasanaethau i bobl ddigartref yn eu hamgylchedd eu hunain, gan sicrhau eu bod yn derbyn gofal iechyd proffesiynol ac amserol.

Meddai'r Athro Sheila Hunt, Deon yr Ysgol: "Mae Louise a Nicola yn nyrsys gwych ac ymroddedig sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau eu cleifion, ac rwy'n falch iawn bod eu gwaith caled wedi'i gydnabod mewn digwyddiad mor fawreddog. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod nyrsys sy'n gallu cyflawni cymaint wedi astudio yma ac wedi rhannu eu harbenigedd yn Ysgol Nyrsio ac Astudiaethau Bydwreigiaeth Caerdydd."