Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod rhagoriaeth academaidd

7 Rhagfyr 2012

Professor Srikant Sarangi
Professor Srikant Sarangi

Mae un o wyddonwyr cymdeithasol mwyaf blaenllaw'r Brifysgol wedi cael un o acoladau mwyaf ei faes.

Mae'r Athro Srikant Sarangi o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi'i benodi'n Academydd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol am ei gyfraniad rhagorol at faes y gwyddorau cymdeithasol.

Fel Academydd, bydd yr Athro Sarangi yn helpu i gefnogi cenhadaeth yr Academi sef hyrwyddo'r gwyddorau cymdeithasol er lles y cyhoedd. Bydd yn gwneud hyn drwy helpu i ymateb i ymgynghoriadau'r Llywodraeth ar ran cymuned y gwyddorau cymdeithasol. Bydd hefyd yn trefnu digwyddiadau a seminarau ac yn noddi nifer o gynlluniau sy'n hyrwyddo maes y pwnc.

Meddai'r Is-ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Mae'r ffaith fod yr Athro Sarangi wedi'i benodi'n rhan o'r Academi hynod nodedig hwn yn bluen yn ei het ac yn rhoi clod i'r Brifysgol yn ogystal. Unwaith eto, mae'n tynnu sylw at y ffaith fod Caerdydd yn un o'r sefydliadau mwyaf uchel ei barch ym maes addysgu ac ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU."

Srikant Sarangi yw'r Athro Iaith a Chyfathrebu yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Dadansoddi mynegiant, ieithyddiaeth gymhwysol ac iaith a hunaniaeth mewn bywyd cyhoeddus yw ei brif ddiddordebau ymchwil.

Yr Athro Sarangi hefyd yw Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Cyfathrebu Iechyd. Menter ryngddisgyblaethol yn y Brifysgol yw hon sy'n cydlynu ymchwil am gyfathrebu a mynegiant ym maes eang iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.

Ers ei sefydlu ym 1997, mae'r Ganolfan wedi cael bri rhyngwladol am ei hymchwil, ei datblygiad proffesiynol a'i gweithgareddau allgymorth a dargedir ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ym mhob maes.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd yr Athro Sarangi: "Mae'r gydnabyddiaeth hon wedi dod ar adeg pan mae ymchwil am iaith/cyfathrebu ar sail ymarferion ym maes gofal iechyd yn dechrau cael effaith. Ni ellir diystyru materion iaith/ cyfathrebu mewn cysylltiad â chyflwyno gofal iechyd. O ran hyfforddi sgiliau proffesiynol, fodd bynnag, rhaid sylweddoli nad yw un iaith/dull cyfathrebu yn gweddu pob sefyllfa.

"Derbyn bod iaith/cyfathrebu yn rhan annatod o ailgyflwyno'r natur ddynol mewn gofal iechyd yw'r her, a hynny mewn cymdeithas cynyddol fyd-eang ac amrywiol o ran iaith/diwylliant."

Ychwanegodd yr Athro Cary Cooper CBE, Cadeirydd yr Academi: "Mae mor bwysig bod gan y gwyddorau cymdeithasol lais cryf a chynhwysfawr i allu cynrychioli ei waith hanfodol."

Mae'r Athro Sarangi yn ymuno â rhestr faith o wyddonwyr cymdeithasol o'r Brifysgol sydd wedi eu penodi'n academyddion. Mae cyn-enillwyr y wobr yn cynnwys yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-ganghellor, Coleg Biofeddygol a'r Gwyddorau Cymdeithasol; yr Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil i Leoedd Cynaliadwy a'r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru.