Ewch i’r prif gynnwys

Gwefan y Brifysgol ond ar ffurf wahanol

11 Rhagfyr 2012

Keyboard close up

O yfory ymlaen, bydd golwg a theimlad newydd yn cyfarch ymwelwyr â gwefan y Brifysgol wrth i ni lansio cam cyntaf dylunio ein gwefan o'r newydd.

Bydd hafan ac ardaloedd recriwtio myfyrwyr y wefan sydd wedi cael eu dylunio o'r newydd yn cael eu lansio yfory. Bydd tudalennau eraill, gan gynnwys Am y Brifysgol, Ymchwil ac A-Z yn cael eu datgelu dros y 7 diwrnod nesaf.

Y lansio yw canlyniad gweledol cyntaf Prosiect Gweddnewid y We a sefydlwyd i alluogi'r Brifysgol i greu a rheoli cynnwys gwe a fyddai'n arwain y sector mewn ffyrdd gwell a mwy llachar nag o'r blaen.

Gyda'r tudalennau newydd gwelir cyflwyno dyluniad sy'n cynrychioli uchelgais, hyder ac enw da Caerdydd yn ddigidol. Mae hefyd yn lletach ac yn fwy addas i'r ystod o sgriniau y mae ymwelwyr yn eu defnyddio, gyda darpariaeth i ffonau symudol, setiau teledu sgrin lydan a thabledi ar gael yn gynnar yn 2013.

Mae pennyn y wefan yn cynnwys eicon newydd sy'n defnyddio'r 'C' o logo'r Brifysgol, mewn bloc o goch Caerdydd ac mae'n cynrychioli hunaniaeth ddigidol Caerdydd ar lein. Nid yw'r eicon yn disodli logo'r Brifysgol ac at ddefnydd ar bennyn cyffredinol gwefan y Brifysgol yn unig y mae ac, yn y pen draw, ar gyfer ein eiconau rhwydweithio cymdeithasol, lle byddai'n amhosibl darllen y prif logo, o'i ddefnyddio. Ni ddylid defnyddio'r eicon C mewn unrhyw amgylchiadau eraill. Ceir canllawiau i'r hunaniaeth weledol ar lein.

Meddai Scott Hill, Rheolwr Rhaglen Gweddnewid y We: "Rydyn ni'n hynod gyffrous o weld cam cyntaf y dyluniad gweledol newydd yn dod yn fyw. Mae gwaith enfawr wedi dechrau'n barod i'n helpu i'n cael ni i'r man hwn ac edrychwn ymlaen at rannu camau pellach y daith gyffrous hon.

"Agwedd bwysig arall ar y dyluniad yw ei fod yn cyd-fynd yn well â gofynion swyddogaethol cynnwys a gwasanaethau'r mewnrwyd y byddwn yn dechrau eu datblygu'r flwyddyn nesaf.

"Yr agwedd bwysicaf ar y dyluniad gweledol yw'r hyblygrwydd y mae'n ei gynnig. Dros y misoedd nesaf byddwn yn ehangu'r dyluniad newydd: yn gyntaf i brif ardaloedd eraill y safle ac yna ymhellach. Bydd y broses hon yn cynnwys ymgynghori ag ysgolion ac eraill i sicrhau y gellir cadw a gwella cymeriad penodol cynnwys yr ysgolion."

Rhan yn unig o waith Prosiect Gweddnewid y We yw'r dyluniad gweledol. Eisoes mae'r prosiect wedi gwerthuso a chaffael System Rheoli Cynnwys Gwe Squiz Matrix, a fydd yn gweithio wrth ochr Wordpress i greu isadeiledd i gynnwys a gwasanaethau gwe'r Brifysgol yn y dyfodol. Mae'r prosiect yn symud ymlaen bellach at y gwaith o gyflwyno gwefannau peilot gan Squiz Matrix.

Ychwanegodd Scott Hill: "I unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn cynnydd y prosiect mae gennym gymuned Cysylltiadau rydym yn ei diweddaru'n gyson ac yn ei defnyddio i gael adborth. Gallwch gael gafael arni yma."

Rhannu’r stori hon