Popular Music Collective
Trin a thrafod pob agwedd ar berfformiadau byw modern.
Mae'r Pop Collective yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr drin a thrafod cerddoriaeth boblogaidd a byd perfformiadau byw.
Mae aelodau'r ensemble yn cyfuno eu sgiliau o ran ysgrifennu caneuon, recordio a fideograffeg o dan hyfforddiant y cyfarwyddwr Maddie Jones.
- Clyweliad: Mae angen clyweliad
- Cyfarwyddwr: Maddie Jones
- Ymarferion: Dydd Iau, 19:00-21:00, Darlithfa Boyd
Mae'r Pop Collective yn agored i fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd gyda chlyweliadau'n cael eu cynnal bob mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth am glyweliadau, cysylltwch â Elin Jones, jonese159@caerdydd.ac.uk.
Mae'r Pop Collective yn herio myfyrwyr i ychwanegu at eu profiad mewn bandiau a'u cyflwyno i ffyrdd newydd o berfformio a chynhyrchu cerddoriaeth.
Mae'r cyfarwyddwr Maddie Jones yn dod â chyfoeth o brofiad mewn perfformiadau byw a bydd yn gweithio gyda'r ensemble i ddylunio a chreu pob agwedd ar berfformiad byw.
Cyfarwyddwr: Maddie Jones

Mae Maddie Jones yn gantores, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd, gitarydd, pianydd, cyfansoddwr, cyfarwyddwr cerddorol, mentor, athrawes a chrëwr cynnwys sydd â phrofiad sylweddol o fentora cerddorion ifanc, yn enwedig drwy Brosiect Forté.
Mae ei gwaith fel cyfarwyddwr y Pop Collective yn cael ei gefnogi gan ei phrofiad mewn sbectrwm arddull eang. Gan berfformio fel MADI, mae hi wedi ennyn nifer o wobrau am ei gwaith.