Ewch i’r prif gynnwys

Offerynnau Chwyth Symffonig Prifysgol Caerdydd

Mae ein ensemble Chwyth Symffonig wedi perfformio darnau o Thomas Tallis i John Adams.

Yn 2017 ychwanegwyd ensemble Chwyth Symffonig Prifysgol Caerdydd at y rhestr o ensemblau dan arweiniad yr Ysgol lle rhoddir anogaeth a chefnogaeth i fyfyrwyr barhau i ddatblygu eu sgiliau perfformio.

Mae’r ensemble Chwyth Symffonig yn cynnal cyngherddau rheolaidd ac yn parhau i gymryd rhan yng Ngŵyl Genedlaethol y Bandiau Cyngerdd (NCBF), gan ddilyn ôl troed eu rhagflaenwyr hynod lwyddiannus sef y Gerddorfa Offerynnau Chwyth.

  • Wedi gwneud clyweliad: Angen clyweliad
  • Arweinydd: Joe O'Connell
  • Sesiynau Ymarfer: Dydd Iau, 16:30-18:30, Neuadd Gyngerdd

Mae'r Ensemble Chwyth Symffonig yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda chlyweliadau yn cael eu cynnal bob mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth am glyweliadau, cysylltwch â Elin Jones, jonese159@caerdydd.ac.uk

Cyfarwyddwr: Joe O'Connell

Mae Joe O'Connell yn arbenigwr mewn astudiaethau cerddoriaeth boblogaidd, gyda diddordeb arbennig mewn roc pync, gwleidyddiaeth, a chyflwyniad a phrofiad y perfformiwr.

Astudiodd Joe y clarinét mewn conservatoire a dysgodd ei hun i chwarae’r gitar. Mae ganddo brofiad eang o berfformio mewn cyd-destunau clasurol a phoblogaidd.