Côr Siambr Prifysgol Caerdydd
Mae’r Côr Siambr yn archwilio repertoire sy'n amrywio o waith y Dadeni i gerddoriaeth gyfoes.
Mae'r côr yn cynnwys rhwng 30 a 40 o gantorion ac yn perfformio sawl gwaith y flwyddyn. Ym mis Mehefin 2016 aethon ni ar daith i Hamburg, Lübeck a Lüneburg.
Ymhlith y perfformiadau diweddar mae Salve Regina a’r Little Organ Mass gan Haydn, a cherddoriaeth gorawl o'r Ffindir, Gwlad Pwyl a'r Weriniaeth Tsiec.
Cynhelir clyweliadau bob blwyddyn ar gyfer lleoedd yn y côr. Mae croeso i fyfyrwyr nad ydynt yn astudio cerddoriaeth, er bod y rhan fwyaf o gantorion yn dod o'r Ysgol Cerddoriaeth.
- Wedi gwneud clyweliad: Angen clyweliad
- Arweinydd Peter Leech
- Sesiynau Ymarfer: Dydd Mercher, 14:00-15:55, Neuadd Gyngerdd
Mae'r Côr Siambr yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda chlyweliadau yn cael eu cynnal bob mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth am glyweliadau, cysylltwch â Elin Jones, jonese159@caerdydd.ac.uk.
Arweinydd Peter Leech

Dechreuodd Peter Leech ei yrfa gerddorol yn Awstralia fel bachgen soprano ac yn ddiweddarach bu'n gweithio fel arweinydd proffesiynol yn Adelaide, Melbourne, a Sydney, cyn symud i'r DU ym 1996 i ymgymryd â PhD mewn Cerddoriaeth gyda Dr. Peter Holman MBE.
Yn 2003, enillodd Peter y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Mariele Ventre ar gyfer Arweinyddion Corawl (Bologna), ac ers hynny mae wedi datblygu enw da yn y DU a thramor ar gyfer dehongliadau ffres, arloesol a deinamig o amrywiaeth eang o repertoire corawl, gan amrywio o bolyffoni cynnar i gerddoriaeth gyfoes. Mae'r rhestr o ensemblau lleisiol y mae wedi'u harwain yn cynnwys The Song Company (Sydney), Coro Euridice (Bologna), y City of Oxford Choir, y Cathedral Singers of Christ Church Rhydychen, y Bristol Bach Choir, Côr Cerddorfa Genedlaethol Brenhinol yr Alban, Collegium Singers, Harmonia Sacra a Cappella Fede. Gyda The Song Company a Harmonia Sacra mae Peter wedi recordio CDs ar gyfer Tall Poppies a Nimbus Alliance, ac mae hefyd wedi ymddangos fel canwr ensemble ar label Hyperion.
Wedi'i hyfforddi’n wreiddiol fel arweinydd cerddorfaol (ar ôl astudio’r feiolín a’r allweddell), mae Peter hefyd wedi cydweithio â llawer o ensemblau offerynnol cyfnod blaenllaw yn y DU gan gynnwys Canzona a Frideswide Ensemble. Ar ôl sawl blwyddyn fel canwr proffesiynol yn Llundain, mae Peter wedi ymgartrefu yng Ngogledd Gwlad yr Haf ers 2009. Fe'i penodwyd yn Ddarlithydd Cyswllt yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2015.
Explore our concerts, including performances by the Chamber Choir.