Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes
Mae gan y Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes gyfansoddiad hyblyg, ac mae'n arbenigo mewn repertoire cyfoes.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cynnal cyngherddau ar draws ystod eang o themâu, gan gynnwys:
- Cerddoriaeth leisiol wedi’i chyfansoddi gan gyfansoddwyr o Gymru
- cerddoriaeth Pwylaidd gyfoes
- teyrnged i’r cyfansoddwr Americanaidd Steve Reich ar ei ben-blwydd yn 70 oed
- gweithiau gan gyfansoddwyr benywaidd byw
- pen-blwydd y cyfansoddwr Americanaidd Elliott Carter yn 100 oed
- cerddoriaeth Affricanaidd gyfoes
- 100 mlynedd ers genedigaeth Oliver Messiaen
Mae gan y grŵp hwn, y mae angen gwneud clyweliad i ymuno ag ef, aelodau o Ysgolion ar draws y Brifysgol gyfan.
- Wedi gwneud clyweliad: Angen clyweliad
- Arweinydd: Robert Fokkens
- Sesiynau ymarfer: Dydd Llun, 16:00-17:55, Neuadd Gyngerdd
Mae'r Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac mae clyweliadau’n cael eu cynnal bob mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth am glyweliadau, ebostiwch Elin Jones, jonese159@caerdydd.ac.uk.
Cyfarwyddwr: Dr Robert Fokkens
Mae Dr Fokkens yn gyfansoddwr o Dde Affrica sydd wedi'i leoli yn y DU. Mae'n addysgu cyfansoddi i israddedigion a graddedigion yn yr Ysgol Cerddoriaeth.
Mae ei gerddoriaeth yn cael ei pherfformio’n rheolaidd mewn lleoliadau mawr yn y DU, De Affrica, yr Almaen, Sweden, yr Iseldiroedd, Awstralia, UDA a Japan. Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei darlledu ar BBC Radio 3, gorsafoedd radio ABC (Awstralia), gorsaf radio P2 Sveriges Radio (Sweden) a gwahanol orsafoedd radio De Affrica.
Yn ogystal â llawer o gerddoriaeth siambr a cherddoriaeth ar gyfer ensembles mawr a cherddorfeydd, mae'n ysgrifennu'n aml ar gyfer y llais, yng nghyd-destun cyngherddau a dramâu.
Visit our concerts site to explore workshops and performances by the Contemporary Music Group.